Derbyn cyflwyniad
gan yr Aelod Cabinet Gofal.
Cofnod:
Gosododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd y cyd-destun gan egluro mai
pwrpas yr eitem hon oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r
Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy’n dod yn weithredol o Ebrill
2016. Nododd fod y ddeddf yn eang iawn
ac yn cynnwys egwyddorion hynod bwysig, ond y bwriedid canolbwyntio ar un elfen
o’r maes yn unig yn y cyfarfod hwn, sef y gwaith o gefnogi pobl gydag
anableddau dysgu.
Rhoddodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyflwyniad i’r
ddeddf ac o ran rhoi’r ddeddf ar waith, gan nodi:-
·
Bod y ddeddf yn ymateb i newidiadau demograffig
enfawr a’r galw cynyddol ar wasanaethau gofal mewn cyfnod pan mae’r wasgfa
ariannol yn hynod heriol.
·
Bod
hwn y math o newid sydd ond yn digwydd mewn cenhedlaeth gan fod y newidiadau
mor sylfaenol a phell gyrhaeddol, ond ei fod yn
cynnig llawer o gyfleoedd i ail-edrych ar y mathau o wasanaethau sy’n cael eu
darparu gan y Cyngor a’i bartneriaid.
·
Mai
un newid sylfaenol yw’r llais a’r rheolaeth mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi i
unigolion drwy roi anghenion a dymuniadau unigolion yn ganolog i bopeth.
·
Bod
pwyslais hefyd ar atal, ymyrryd yn gynnar, cyd-gynhyrchu yn ogystal â’r elfennau amlasiantaethol.
·
Bod yr holl newidiadau hyn yn golygu cryn newid mewn
diwylliant a’i fod yn mynd i gymryd amser i gyrraedd y nod a’r disgwyliadau
sydd gan y Llywodraeth ohonom.
·
Mai bwriad yr eitem oedd cyflwyno fideo i’r aelodau
o’r gwaith dyddiol yng Nghynllun Cymunedol Arfon yn Frondeg,
fel enghraifft o waith sy’n cyd-fynd ag egwyddorion ac ysbryd y ddeddf newydd,
ond sydd hefyd yn amlygu bod yna waith dal i fyny mewn lleoliadau eraill.
·
Ei fod yn falch o groesawu Andrew Guy, Goruchwylydd Gofal Dydd yn Frondeg
a’i gyd-weithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth i’r cyfarfod.
·
Bod angen i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r
newidiadau a’r effaith o ran y gwasanaethau a chyfeiriwyd at sesiwn
hyfforddiant a drefnwyd ar eu cyfer yn Ysbyty Alltwen ar fore’r 21ain o Ionawr.
Fel yr uwch reolwr â chyfrifoldeb am y maes penodol sy’n cael sylw yn y fideo,
rhoddodd yr Uwch Reolwr Gweithredol gefndir o’r gwaith a’r meddylfryd y tu cefn
iddo.
Yna, bu i’r Cynghorydd Lesley Day ddweud gair o ran ei phrofiad hi pan
ddangoswyd y fideo hwn mewn cynhadledd yng Nghaernarfon,
gan nodi iddi wneud cais am gyflwyno’r fideo i’r Cyngor llawn.
Yn dilyn gweld y
ffilm, diolchodd y Cadeirydd i Andrew Guy a’r tîm yng
Nghynllun Cymunedol am eu holl waith.
Yn ystod y drafodaeth:-
·
Mynegwyd
gwerthfawrogiad ac edmygedd mawr o waith y tîm.
·
Nodwyd, er ei bod yn amlwg bod defnyddwyr y
gwasanaeth yn gallu defnyddio eu mamiaith yn y ganolfan, bod y cydbwysedd
ieithyddol ar y fideo yn fater o bryder.
·
Na wnaed unrhyw sylw yn y cyflwyniad ynglŷn ag
allanoli er bod y ddeddf yn sôn am hynny hefyd.
Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet Oedolion a Iechyd:-
·
Nad oedd y gwaith hwn yn unigryw, a bod yna waith da
yn digwydd yn y trydydd sector hefyd.
·
Bod hwn yn faes lle mae yna sgôp i newid ac addasu a
bod y ddeddf yn rhoi ffocws ar yr anghenion yma.
·
Ei fod yn erfyn ar yr aelodau i ddod i’r digwyddiad
codi ymwybyddiaeth ar 21 Ionawr.