Agenda item

Y Griffin, Griffin Terrace, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LW.

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

 

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

Ar ran yr eiddo

 

Nia Jones (ymgeisydd

 

Eraill a wahoddwyd:

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Thomas

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Y Griffin, Griffin Terrace, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth byw ac wedi ei recordio ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori gan nodi gwrthwynebiad gan Adran Gwarchod y Cyhoedd ac amodau arfaethedig gan Heddlu Gogledd Cymru.

 

Roedd gwrthwynebiad Adran Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu pryderon sŵn o ganlyniad i adloniant tu allan yn hwyr yn y nos ar yr eiddo fyddai’n arwain at greu niwsans cyhoeddus i breswylwyr tai cyfagos. Yn dilyn cyfres o e-byst, derbyniwyd gohebiaeth gan yr ymgeisydd yn cadarnhau bod bwriad adeiladu darpariaeth bwrpasol ar gyfer adloniant byw tu allan, ond nad oedd y gwaith wedi ei gwblhau. Mynegodd yr ymgeisydd ei dymuniad i dynnu’r elfen adloniant tu allan o’r cais hyd nes y bydd mewn sefyllfa i roi mesurau priodol mewn lle. O ganlyniad, roedd Adran Gwarchod y Cyhoedd yn tynnu eu gwrthwynebiad i’r cais yn ôl, yn ddarostyngedig bod yr ymgeisydd yn cadarnhau yn y gwrandawiad nad oedd bwriad cynnal adloniant tu allan am y tro.

 

Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gynnwys amodau ychwanegol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng (TCC), hyrwyddo Menter Her 25 a chynnal asesiad risg pan fydd angen goruchwylwyr drysau, ar gais yr Heddlu.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais pe byddai’r ymgeisydd yn cadarnhau diddymu'r bwriad i gynnal adloniant tu allan oddi ar y cais: ac yn unol ag argymhellion yr Heddlu â gofynion  Deddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Ei bod yn hapus gyda’r wybodaeth a gyflwynwyd gan y Rheolwr Trwyddedu

·         Ei bod yn tynnu’r elfen adloniant tu allan o’r cais am y tro – y ddarpariaeth heb ei gwblhau

·         Popeth mewn trefn i agor

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phwysleisio’r angen i sicrhau bod recordiadau TCC yn cael eu cadw am 30 diwrnod, nododd y Swyddog Trwyddedu bod hyn yn rhan o argymhellion yr Heddlu a bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gydymffurfio yn llawn a’r gofynion hyn.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, manteisiodd yr Aelod Lleol oedd yn bresennol, ar y cyfle i gyflwyno sylwadau

 

Aelod Lleol - Cynghorydd Gareth Thomas

·         Ei fod yn llwyr gefnogol i’r cais

·         Braf gweld busnes yn agor yn y sector lletygarwch 

·         Bod yr ymgeisydd a’i theulu wedi buddsoddi’n sylweddol yn y fenter

·         Y dafarn yn adnodd pwysig i’r pentref

·         Bod cynlluniau i ehangu defydd tu allan ond bydd cais yn cael ei gyflwyno pan fydd caniatâd cynllunio wedi ei  dderbyn a’r gwaith wedi ei gwblhau

·         Balch gweld y Griffin yn ail agor a hynny gan ddwylo diogel

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Ei bod yn ddiolchgar o’r cyfle i gynnal trafodaeth

·         Byddai’r fenter yn cyflogi yn lleol

·         Y Griffin yn galon i’r pentref, yn dafarn deuluol gyda gardd - y tîm peldroed eisoes yn ysu i’r dafarn ail agor

 

Ategodd y Rheolwr Trwyddedu ei bod yn hapus gyda chadarnhad yr ymgeisydd bod adloniant tu allan yn cael ei dynnu allan o’r cais ac mai cais diwygiedig fyddai’n cael ei ystyried. Y bwriad yw parhau i gydweithio gyda’r ymgeisydd ac Adran Gwarchod y Cyhoedd fel bod modd sicrhau ardal briodol tu allan i’r eiddo i’r dyfodol.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr Aelod Lleol a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb sylwadau llafar a gyflwynwyd yn ystod y gwrandawiad ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu. Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais

 

Rhoddwyd trwydded fel a ganlyn:

 

1.    Oriau agor

Amserau safonol:

o   Sul-Mercher 08:00-00:00

o   Iau 08:00-00:30

o   Gwener-Sadwrn 08:00-01:00

Amserau ansafonol:

o   Awr derfynol 01:00 ar Benwythnosau Gŵyl Banc

o   Awr derfynol 02:00 ar Noswyl Calan

 

2.   Cerddoriaeth fyw tu mewn yn unig

Amserau safonol:

o   Sul-Mercher 11:00-23:00

o   Iau-Sadwrn 11:00-00:00

Amserau ansafonol:

o   Awr derfynol 00:30 ar Benwythnosau Gŵyl Banc

o   Awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan

 

3.   Cerddoriaeth wedi recordio tu mewn yn unig

Amserau safonol:

o   Sul-Mercher 11:00-23:00

o   Iau-Sadwrn 11:00-00:00

Amserau ansafonol:

o   Awr derfynol 00:30 ar Benwythnosau Gŵyl Banc

o   Awr derfynol 01:00 ar Noswyl Calan

 

  4.   Cyflenwi alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo

Amserau safonol:

o    Sul-Mercher 11:00-23:30

o    Iau 11:00-00:00

o    Gwener-Sadwrn 11:00-00:30

Amserau ansafonol:

o    Bar allanol yn cau 22:30

o    Awr derfynol 00:30 tu mewn ar Benwythnosau Gŵyl Banc

o    Awr derfynol 01:30 tu mewn ar Noswyl Calan

 

5.    At ddibenion yr amodau hyn, diffinnir Penwythnosau Gŵyl Banc fel cyfnod yn cychwyn ar ddydd Gwener ac yn gorffen ar y dydd Llun canlynol pan fo diwrnod o fewn y cyfnod hwnnw yn ŵyl banc.

 

6.    Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded.

 

7.    Ymgorfforir fel amodau ar y drwydded yr amodau a argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â gwirio oedran, goruchwylwyr drws a TCC.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth arbennig i sylwadau Adran Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor. Amlygwyd gwrthwynebiad i’r cais gwreiddiol o ran pryderon niwsans cyhoeddus yn deillio o adloniant yn cael ei gynnal tu allan, yn hwyr. Ystyriwyd hefyd sylwadau Heddlu Gogledd Cymru oedd yn argymell cynnwys amodau safonol mewn perthynas â rheoli oedran, goruchwylwyr drws a TCC. Ystyriwyd sylwadau’r ymgeisydd a gadarnhaodd diwygiad i’r cais i beidio â chynnwys cynnal gweithgaredd trwyddedig cerddoriaeth tu allan am y tro. Derbyniwyd bod bwriad cyflwyno cais maes o law i gynnwys y gweithgareddau hyn ar y drwydded unwaith y bydd gwaith addasu ar yr eiddo wedi ei gwblhau.

 

Ni ddaeth yr Is-bwyllgor i gasgliad naill ffordd neu llall a fyddai’r cais gwreiddiol wedi tanseilio’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, gan nad oedd gofyn ystyried y mater wedi diwygiad i’r cais. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y diwygiad i gyfyngu adloniant cerddoriaeth i du mewn i’r eiddo yn unig yn golygu bod y risg sŵn bellach yn isel iawn ac felly na fyddai niwed i’r amcan o atal niwsans cyhoeddus.

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu. Caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: