Adeiladu prif ganolfan gofal,
mynedfa, parcio, tirlunio a draenio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar
Owen
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-
Nodyn: Cyflwyno cynllun system draenio dŵr cynaliadwy (SuDS) i’r Uned Dŵr
ac Amgylchedd y Cyngor
Cofnod:
Adeiladu prif ganolfan
gofal, mynedfa, parcio, tirlunio a draenio
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr.
a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu prif ganolfan gofal
iechyd, mynedfa, parcio, tirlunio a chynllun draenio yn Waunfawr. Eglurwyd
bod y safle wedi ei leoli tu allan, ond gerllaw i ffin datblygu Waunfawr fel
y’i nodir yn y CDLl, ond heb ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd tir penodol.
Adroddwyd y bydd y feddygfa bresennol yn Waunfawr yn symud i’r safle newydd fyddai wedi ei adeiladu’n
bwrpasol.
Amlygwyd
bod sawl elfen i’r cais:
·
Codi adeilad un a deulawr ar
ffurf “L” o faint arwynebedd llawr 990 medr sgwâr i gynnwys ardaloedd
gwasanaethau cymunedol, ardaloedd cyfrannol fel ystafelloedd cyfarfod,
ystafelloedd newid a swyddfeydd ynghyd a phractis doctoriaid. Bydd y bwriad yn
cynyddu’r niferoedd o weithwyr presennol o 29 i 35.
·
Darparu llecynnau parcio ar gyfer 38 o ymwelwyr,
ar gyfer 15 staff a 6 ar gyfer ymwelwyr anabl.
·
Tirlunio ar gyrion ac oddi fewn i’r safle.
·
Cynllun draenio cynaliadwy.
·
Creu llwybr troed newydd i redeg cyfochrog a ffin
ogleddol y safle gyda’r ffordd sirol dosbarth I (A.4085) ynghyd a chreu
llwybrau troed o fewn y safle ei hun.
·
Creu mynedfa newydd i’r safle oddi ar y ffordd sirol
dosbarth i gyfochrog.
·
Darparu storfa biniau ynghyd a darpariaeth ar
gyfer beics.
Cyfeiriwyd at un o’r polisïau perthnasol
i’r cais sef Polisi ISA2 o’r CDLL sy’n gefnogol i gynnal a gwella cyfleusterau
cymunedol er bod rhaid i cydymffurfio â’r meini prawf:
-
i) eu bod wedi’u lleoli oddi
mewn neu’n gyfagos â ffiniau datblygu lle bydd y cynnig yn darparu cyfleuster
angenrheidiol i gefnogi’r gymuned leol. Yn yr achos yma, ystyriwyd bod safle’r
cais yn cyffwrdd â ffin datblygu’r pentref gyda gwybodaeth wedi ei dderbyn fel
rhan o’r cais, yn datgan bod gwir angen cyfleuster iechyd newydd yn Waunfawr
fyddai’n ymateb yn gyflawn i anghenion iechyd y boblogaeth leol â phoblogaeth y
dalgylch.
-
ii) yn achos adeiladau
newydd, na ellid bodloni anghenion y gymuned leol trwy wneud defnydd deuol o
gyfleusterau presennol neu drosi adeiladau presennol. Yn yr achos yma ystyriwyd
4 safle o fewn y pentref, ond am resymau yn ymwneud a maint cyfyngedig,
diffygion mynedfa/parcio ac agosatrwydd at adeiladau eraill, penderfynwyd mai
safle’r cais yma oedd yr un mwyaf addas ar gyfer
canolfan iechyd newydd.
-
iii) os yw’r cynnig yn gofyn
am ail-leoli cyfleuster, y gellid dangos nad yw’r safle presennol bellach yn
addas ar gyfer y defnydd hwnnw. Yn yr achos yma, nid oes cyfleusterau digonol o
fewn y feddygfa bresennol i ymateb i ofynion amrywiol a chynyddol cleifion y
gymuned leol. Nid yw’r safle presennol yn ddigon mawr i ymestyn y cyfleuster
presennol i ymateb yn effeithiol i ofynion iechyd y gymuned.
-
iv) bod graddfa a math y
cynnig yn briodol o gymharu â maint, cymeriad a swyddogaeth yr anheddle. Yn yr
achos yma, ystyriwyd bod graddfa, lleoliad a dyluniad yr adeilad wedi bod yn
destun trafodaethau o flaen llaw gyda Swyddogion Cynllunio gyda newidiadau wedi
ei gwneud i’r cynlluniau gwreiddiol er mwyn ystyried mwynderau gweledol a
mwynderau preswyl trigolion cyfagos. Ystyriwyd bod lleoliad a gosodiad y safle
gyferbyn a ffin datblygu’r pentref yn dderbyniol a'i fod yn creu estyniad
rhesymegol i ffurf rubanog y rhan yma o’r pentref ac na fyddai yn cael effaith
andwyol annerbyniol sylweddol ar fwynderau gweledol yr ardal
-
v) bod y cynnig yn hawdd ei
gyrraedd ar droed, beic a chludiant cyhoeddus. Yn yr achos yma ystyriwyd bod y
safle, er wedi ei leoli y tu allan i’r ffin datblygu,
yn hygyrch i amrywiol ddulliau teithio amgen gan gynnwys trafnidiaeth
gyhoeddus, cerdded a beicio. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai’n anochel i rai
cleifion ymweld â’r ganolfan drwy ddefnyddio cerbyd oherwydd eu cyflwr neu
amgylchiadau personol.
Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd gwrthwynebiadau ar
sail y byddai’r bwriad o’i ganiatáu yn, i) amharu’n andwyol ar breifatrwydd
deiliaid anheddau cyfagos: ii) byddai agor y caeau i fyny yn y tu cefn i’r
anheddau yn codi pryderon diogelwch, iii) cynnydd mewn traffig yn creu
aflonyddwch sŵn ar draul mwynderau preswyl. Amlinellwyd yr ymatebion fesul
pennawd:
-
Preifatrwydd: yr adeilad ei hun wedi ei leoli ar ran
gorllewinol y safle felly yn osgoi gor-edrych i mewn i erddi’r anheddau a adnabyddir fel Llwydiarth, Cobweb Cottage a Ty’n Llain. O
ganlyniad, bydd y maes parcio ar gyfer y cleifion yn
cael ei osod y tu cefn i’r anheddau hyn. Er derbyn nad
yw colli golygfeydd yn ystyriaeth faterol i gynllunio, mae colli preifatrwydd a
gor-edrych yn ystyriaethau perthnasol a dilys. Derbyniwyd (o’i gymharu â’r
sefyllfa bresennol) y bydd rhywfaint o or-edrych tuag at Ty’n Llain gan
ddefnyddwyr y maes parcio, ond ystyriwyd mai am
gyfnodau byr byddai hyn ac felly nid yw’n golygu gor-edrych uniongyrchol
parhaol nac annerbyniol i'r tŷ (ac eraill gerllaw). Ategwyd y gellid
cynnwys amod codi ffens coedyn close-boarded ar hyd ymylon y maes
parcio ynghyd ag amod gosod grasscrete ar y lle parcio ger y tai.
-
Diogelwch – pryder yn ymwneud gydag agor cefnau’r
anheddau i fyny a fyddai’n creu mynediad hwylus i’r anheddau eu hunain. Er mwyn
lleihau’r fath bryder, amlygwyd bod asiant yr ymgeisydd wedi datgan y
posibilrwydd o osod rhwystr ar draws y fynedfa pan mae’r ganolfan ar gau.
-
Aflonyddwch sŵn - cydnabuwyd y byddai’r bwriad, o’i ganiatáu, yn creu
sŵn a allai fod yn uwch na lefelau sŵn presennol o amgylch safle’r
cais. Adroddwyd bod
datganiad byr yn ymwneud a sŵn wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi: i) na fydd llety preswyl yn rhan o’r cais ii) yr adeilad wedi ei osod er
mwyn lleihau sŵn gyda’r ffenestri wedi eu trefnu i gyfyngu sŵn iii)
yr adeilad wedi ei godi gan ddefnyddio waliau ceudod, iv) ni fydd gan yr
adeilad unrhyw gyfarpar offer a fyddai’n allyrru sŵn - bydd y rhain wedi
eu lleoli o fewn yr adeilad .
Adroddwyd bod bwriad creu mynediad newydd i’r safle yn
uniongyrchol i’r ffordd sirol dosbarth 1 cyfochrog
(A.4085) ynghyd a darparu llwybr troed/pafin ar hyd blaen y safle gan ymestyn y
llwybr troed presennol. Amlygodd yr Uned Drafnidiaeth fod safle’r cais yn un hygyrch i drigolion lleol ac nad oedd ganddynt
wrthwynebiad i’r cais yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau a nodiadau
perthnasol.
Yng nghyd-destun materion llifogydd, derbyniwyd
gwrthwynebiadau parthed y nant sy’n rhedeg drwy’r safle ac sy’n dueddol o
orlifo yn ystod glaw trwm gan arwain at lifogydd ar y ffordd fawr. Mewn ymateb
i’r pryderon hyn, nodwyd bod yr Uned Dwr ac Amgylchedd wedi datgan eu bod yn
ymwybodol bod y nant wedi gorlifo yn y gorffennol, ond ystyriwyd bod hyn o
ganlyniad i ddiffyg ymgymryd â gwaith cynnal a chadw gan berchennog y tir.
Nodwyd hefyd bod yr Uned yn ymwybodol fod dwr yn cronni ar y ffordd sirol ac o
ganlyniad mae’r ardal yn cael ei hystyried gan y Cyngor ar gyfer ymgymryd â
chynllun atal llifogydd dalgylchol.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad fel y’i cyflwynwyd yn
welliant sylweddol ar gyfleusterau a darpariaeth feddygol ac iechyd ar gyfer y
gymuned leol ynghyd a’r ardal ehangach ac na fyddai’r
datblygiad yn ei gyfanrwydd, yn creu effaith sylweddol niweidiol sydd yn groes
i bolisïau cynllunio a chyngor cenedlaethol perthnasol.
b)
Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
PENDERFYNWYD
Dirprwyo’r
hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau isod:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3. Llechi.
4. Samplau o’r deunyddiau allanol.
5. Ymgymryd â’r gwaith tirweddu o fewn cyfnod
penodedig.
6. Amodau Priffyrdd.
7. Cyflwyno
Cynllun Amgylcheddol Rheoli Adeiladwaith (i gynnwys cynllun atal llygredd er
mwyn gallu ymgymryd ag asesiad manwl o effaith y
datblygiad ar Afon Gwyrfai).
8. Cyflwyno Cynllun Gwelliannau Bioamrywiaeth a
Rheoli Cynefin.
9. Cyflwyno asesiad Risg Diogelwch-bio.
10. Cydymffurfio gyda mesurau lliniaru a nodwyd o
fewn yr Asesiad Rhagarweiniol Ecolegol.
11. Cyflwyno
manylion triniaeth ffiniau’r safle (i ddangos lleoliad a math y ffensys ac yn y
blaen).
12. Cytuno a
manylion enw Cymraeg i’r ganolfan ynghyd ac arwyddion/rhybuddion cysylltiedig.
13. Cyfyngu
oriau gweithio i 08:00 – 18:00 yn yr wythnos, 08:00 – 13:00 ar ddydd Sadwrn a
dim o gwbl yn ystod y Sul a Gwyliau Banc/Cenedlaethol.
14. Cyflwyno cynllun
gosod rhwystr ar draws y fynedfa arfaethedig.
15. Cyflwyno
cynllun goleuo allanol.
16. Amod i
ddiogelu’r coed sydd eisoes ar ffiniau’r safle.
17. Amod
grasscrete ar y lle parcio ger y tai
Nodyn:
Cyflwyno cynllun system draenio dŵr cynaliadwy (SuDS) i’r Uned Dŵr ac
Amgylchedd y Cyngor
Dogfennau ategol: