Agenda item

Newid defnydd tir ar gyfer lleoli 42 carafan teithiol ynghyd a chreu ffordd mynediad gysylltiol, tirlunio a chodi bloc toiledau.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. Amser
  2. Yn unol â’r cynlluniau.
  3. Defnydd gwyliau yn unig a chadw cofrestr.
  4. Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref
  5. Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 92, dim pebyll a chadw’r un nifer o garafanau sefydlog.
  6. Dim storio carafanau teithiol ar y safle.
  7. Cwblhau’r gwaith tirweddu.
  8. Dwr Cymru.
  9. Cytuno lliw to’r adeilad cyfleusterau
  10. Gadael y coed ar yr adeilad cyfleusterau i hindreulio yn naturiol.

 

Cofnod:

Newid defnydd tir ar gyfer lleoli 42 carafán deithiol ynghyd a chreu ffordd mynediad cysylltiol, tirlunio a chodi bloc toiledau

a)         Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir i leoli 42 carafán deithiol ynghyd a chreu ffordd fynediad cysylltiol a chodi bloc toiledau. Eglurwyd bod y safle eisoes yn ffurfio rhan o safle gwersylla presennol sydd gyda chaniatâd cynllunio am 13 carafán statig, 50 carafán symudol a 70 o bebyll. Ategwyd bod y bwriad yn ceisio lleoli 42 carafán symudol ychwanegol yn lle'r caniatâd ar gyfer 70 o bebyll a bod gan y safle dystysgrif defnydd cyfreithlon ar gyfer pebyll ar gae arall.

 

Amlygwyd bod polisi TWR 5 CDLl yn caniatáu cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol a llety gwersylla amgen dros dro os cydymffurfir â’r cyfan o’r meini prawf a nodir. Un o’r meini prawf hynny yw bod y datblygiad arfaethedig o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad a’i fod wedi ei leoli mewn man anymwthiol sydd wedi ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a/neu ble gellir cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd yn y dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd; bod y bwriad yn osgoi gormodedd o ardaloedd o leiniau caled; fod ei gysylltiad ffisegol â’r ddaear.

 

Nodwyd, er nad oedd angen cyflwyno Datganiad/Adroddiad ffurfiol, bod angen rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn unol â’r arweiniad yn Atodiad 5 CCA ‘Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy’. Mewn perthynas â hyn nodwyd bod Datganiad Iaith Gymraeg yr ymgeisydd yn nodi’r pwyntiau canlynol:

·         Mae dau aelod o staff llawn amser (plant yr ymgeisydd) yn siarad Cymraeg.

·         Mae’r arwyddion eisoes yn ddwyieithog.

·         Mae gwybodaeth ddwyieithog am atyniadau, cyfleusterau a gwasanaethau lleol eisoes yn cael ei darparu o fewn y safle.

·         Darparu cyfleoedd cyflogaeth leol ac yn defnyddio contractwyr lleol.

 

Ystyriwyd fod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai’n peri niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd. Nodwyd bod bwriad hefyd adeiladu adeilad cymharol fychan gyda gorffeniad pren er mwyn darparu toiledau a chawodydd ac na fyddai’n sefyll allan yn y dirwedd. Ategwyd bod y safle gyda mynediad uniongyrchol i ffordd ddosbarth a bod hwn yn dderbyniol ac addas. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth bryderon am y bwriad ac felly gyda defnydd o amodau cynllunio priodol, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt Polisi TWR 5 CDLL.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·      Bod yr adroddiad yn un clir

·      Bod y safle yn fusnes teulu ers blynyddoedd

·      Yn safle taclus wedi ei guddio o fewn y tirlun ymysg coed naturiol ynghyd ag eraill wedi eu plannu

·      Bod safon y safle yn lan a’r perchnogion yn ymfalchïo yn y busnes

·      Bod y busnes yn cefnogi’r gymuned a’r economi leol

·      Er cynnydd mewn carafanau teithio, bydd nifer pebyll yn lleihau

·      Bod y cais yn ymateb i’r angen am safleoedd ar gyfer carafanau teithiol

·      Bod sgrinio ychwanegol yn rhan o’r cynllun - eisoes wedi plannu hyd at 200 o goed cynhenid - y perchennog yn adolygu’r sefyllfa yn barhaus

·      Ychydig iawn o effaith fydd ar gymdogion

·       Bod mynediad da i’r safle

·      Dim gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yn ystod y cyfnod ymgynghori

·      Bod y bwriad yn dderbyniol yng nghyd-destun gofynion polisïau a’r Cynllun Datblygu Lleol

·      Yn fuddsoddiad gwerthfawr i’r ardal

 

c)         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Nad oedd y bwriad mewn gwirionedd yn lleihau defnydd - yr angen am safleoedd pebyll yn lleihau ac felly’r bwriad yn ymateb i’r galw am garafanau teithiol

·         Bod yr elfen traffig yn siŵr o gynyddu

 

·         Twristiaeth yn cynnal bywoliaeth yng nghefn gwlad

·         Angen cefnogi busnesau lleol

·         Cyfnod anodd i fusnesau lleol - angen cefnogi’r fenter

 

d)         Mewn ymateb i gais am gofnodion niferoedd pebyll yn erbyn niferoedd carafanau teithiol ar y safle, nodwyd nad oedd y wybodaeth yn angenrheidiol ar gyfer anghenion Polisi TWR5

 

Mewn ymateb i sylw petai’r cais yn cael ei ganiatáu ac a fydd hawl parhau i gynnig lle i bebyll, nodwyd bod gan y safle eisoes ganiatâd i gadw pebyll mewn cae arall - nid oedd cyfyngiad niferoedd ar y cae yma.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

·      Amser

·      Yn unol â’r cynlluniau.

·      Defnydd gwyliau yn unig a cadw cofrestr.

·      Tymor gwyliau - 1af Mawrth i 31 Hydref

·      Cyfyngu nifer o unedau teithiol i 92, dim pebyll a cadw’r un nifer o carafanau sefydlog.

·      Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

·      Cwblhau’r gwaith tirweddu.

·      Dwr Cymru.

·      Cytuno lliw to’r adeilad cyfleusterau

·      Gadael y coed ar yr adeilad cyfleusterau i hindreulio yn naturiol.

 

 

 

Dogfennau ategol: