Newid defnydd
maes parcio presennol yn depo bws
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels
Penderfyniad:
Gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach am safle amgen
Cofnod:
Newid defnydd maes parcio
presennol yn depo bws
a)
Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi mai cais
ydoedd ar gyfer creu depo newydd ar gyfer
gwefru bysiau gyriant trydan trwy osod arwyneb
bitwminaidd ar safle. Amlygywd bod y safle yn safle
tir llwyd ar gyrion, ond
oddi mewn i, ffin ddatblygu
Canolfan Gwasanaeth Trefol Blaenau Ffestiniog yn sefyll gerllaw’r
ffordd ddosbarth 3 sy’n arwain o’r
A470 at bentref Tanygrisiau. Defnyddir y safle yn bresennol
fel maes parcio anffurfiol lle mae cyfleusterau
ail-gylchu cymunedol wedi’u gosod ynghyd
a pholyn dal cyfarpar cyfathrebu. Ategwyd bod rhan ddwyreiniol y safle yn ymestyn i
mewn i safle’r
cyn cae chwarae
a glustnodwyd ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(safle T23) a bod rhan fwyaf o’r safle
o fewn Parth Llifogydd C2. F
Byddai’r datblygiad yn cynnwys:
·
Cyfleusterau ar
gyfer gwefru 6 cerbyd trafnidiaeth cyhoeddus
·
Chwe gofod
parcio ar gyfer staff
·
Codi adeilad
ar gyfer staff – fe fyddai hwnnw’n
adeilad 12m x 4m o arwynebedd
llawr a 3.6m o uchder gyda chladin pren
a tho fflat.
·
Ehangu’r arwynebedd
gwastad ar y safle trwy dyllu
i’r llethr ar ochr ddwyreiniol
y safle a chodi wal gynnal 1.5m o uchder.
·
Codi ffens
2m o uchder o amgylch y safle a gosod camerâu
cylch cyfyng a goleuadau diogelwch
·
Gwaith draenio
tir
Adroddwyd bod egwyddor y datblygiad, materion mwynderau gweledol a materion bioamrywiaeth yn dderbyniol. Cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod angen paratoi Asesiad
Canlyniadau Llifogydd ar gyfer y datblygiad
ac fe gyflwynwyd ACLl yn ystod
y broses o ystyried y cais.
Daeth yr asesiad hwnnw i’r
casgliad na fyddai’r datblygiad yn cynyddu’r perygl
o lifogydd i’r safle ei hun
nac i dir
cyfagos. Yn ddibynnol ar sylwadau
Cyfoeth Naturiol Cymru, ni ragwelwyd
y byddai'r datblygiad yn debygol o gynyddu'r
risg llifogydd ar y safle. Ystyriwyd
bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PS6 y CDLl a NCT 15.
b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Dim gwrthwynebiad
i’r fenter ond bod lleoliad y bwriad yn codi
pryder
·
Y safle yn
faes parcio ‘answyddogol’ sy’n cael ei ddefnyddio’n
aml ar gyfer
ysgol, capel, stiwdio ac ymwelwyr
·
Bod diffyg ymgynghoriad cyn cyflwyno cais am y lleoliad - un cyfarfod wedi ei gynnal
lle cynigiwyd safleoedd eraill addas ar gyfer
y fenter (safle oedd eisoes ym
mherchnogaeth y Cyngor ac mewn
lleoliad fyddai’n golygu llai o waith
addasu)
·
Nad
oes rhywbeth yn cael ei
gynnig ‘yn lle’ maes parcio
anffurfiol i’r gymuned
·
Bod y syniad
o fysus trydan yn un i’w groesawu
c)
Cynigwyd
ac eiliwyd i ohirio’r penderfyniad fel bod modd ystyried
lleoliad amgen addas a / neu gydnabod
problemau parcio
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr
Aelod Lleol wedi adnabod lleoliad
amgen gwell – angen ystyried posibiliadau
·
Bod rhaid rhoi ystyriaeth i ddiogelwch plant ysgol - parcio answyddogol / swyddogol neu beidio
·
Dim ymgynghoriad digonol - safle addas wedi ei
amlygu - a oes trafodaethau wedi eu cynnal i
ystyried hyn?
·
Cymuned
yn colli lle addas i
barcio - hyn yn sail i wrthod?
d)
Mewn
ymateb i’r sylwadau, nododd y Swyddog Monitro nad oedd ystyried
safle amgen arall yn reswm
i wrthod gan fod angen
ystyried y cais gerbron ar ei
rinweddau ei hun. Ategodd mai
defnydd anffurfiol sydd i’r maes
parcio presennol ac fe all y tir feddiannwr
ddod a defnydd o’r safle i
ben ar unrhyw adeg. Ategodd y Pennaeth Cynorthwyol nad oedd gwrthwynebiad
wedi ei dderbyn
gan yr Uned
Trafnidiaeth a bod y bwriad
yn gynllun pwysig fyddai’n cyfrannu at sicrhau trafnidiaeth gynaliadwy. Ni ellid mynnu bod yr ymgeisydd yn
chwilio am safle arall.
Mewn ymateb i sylw
am ddiffyg ymgynghoriad, amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai diffyg
ymgynghori cyn cyflwyno cais oedd
dan sylw ac nid diffyg o ran safbwynt y Gwasanaeth Cynllunio.
PENDERFYNWYD:
Gohirio er mwyn
cynnal trafodaethau pellach am safle amgen
Dogfennau ategol: