Dymchwel storfa allanol bresennol,
addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol
deulawr i'r ochr a'r cefn i greu rhagor o ofod byw
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd
Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gwrthod, yn groes i’r argymhelliad:
Rhesymau gwrthod:
Ystyriwyd yr estyniad yn
Cofnod:
Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr
a'r cefn i greu rhagor
o ofod byw
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.
a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog bod y cais yn un
i addasu ac ehangu’r eiddo presennol ac yn ail-ddyluniad o gynllun a wrthodwyd gan y Pwyllgor yn flaenorol
(C20/0022/42/DT). Fe drafodwyd y cais
hwn gan y Pwyllgor Cynllunio ar 24/05/21 pryd penderfynwyd gohirio’r drafodaeth er caniatáu
ystyriaeth bellach o sylwadau a gyflwynwyd gan Gydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn.
Cyflwynwyd y cais
gerbron y Pwyllgor ar gais yr
aelod lleol.
Saif yr
eiddo ar lethrau Mynydd Nefyn mewn cefn
gwlad agored, oddeutu 340m i’r dwyrain o ffin ddatblygu Canolfan Gwasanaeth Lleol Nefyn a 50m y tu allan i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Eglurwyd y byddai’r
datblygiad yn cynnwys:
·
Dymchwel
adeilad allanol presennol ac adleoli wal gerrig er
mwyn creu safle parcio a lle troi
·
Dymchwel
estyniad deulawr cefn ac estyniad gwydr ochr
·
Codi estyniad deulawr cefn ar
ffurf cilgant gyda thair ffenestr
gromen yn yr edrychiad blaen
a ffenestri to yn yr edrychiad cefn
ynghyd a chodi estyniad unllawr gyda tho llechi
unllethr ar hyd ei flaen.
·
Gosod
balconi ar dalcen y tŷ presennol
Dangoswyd sleidiau yn amlygu
gosodiad y tŷ a sut y byddai’n cymryd ei le yn
y dirwedd. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn
ymgeisio i ymateb i bryderon
y pwyllgor.
Wedi ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan gydbwyllgor yr AHNE, gwerthfawrogwyd y pryder a amlygwyd ynghylch
sensitifrwydd y dirwedd yn yr ardal.
Er hynny, nid oedd y swyddogion
cynllunio yn ystyried y byddai’r estyniadau fel y’u dyluniwyd yn
cael effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol ar ansawdd y dirwedd ddynodedig ac na
fyddai’r bwriad yn effeithio gosodiad
yr AHNE, neu’r golygfeydd allan ohoni, mewn ffordd
niweidiol. Ystyriwyd bod y bwriad yn welliant
ar y cynllun a wrthodwyd yn flaenorol
o safbwynt ei effaith ar y tirlun
a’i fod yn
cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.
b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Atgoffwyd
yr Aelodau o ofynion statudol i warchod
yr AHNE
·
Bod bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd o Nefyn i Pistyll
·
Eiddo
gerllaw i’r bwriad wedi derbyn
nifer o estyniadau rhwng 2008 a 2011
·
Dim angen gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd
·
Creu
effaith ar y golygfeydd
·
Bod pobl yn
dod i aros
yn yr ardal
i werthfawrogi yr hyn sydd
o’u cwmpas
·
Bod polisïau yn gadael gormod
o ddisgresiwn i’r swyddog roi ei
farn yn hytrach
na sylwadau cyd bwyllgor ymgynghorol
ac unigolion
·
Y datblygiad yn un cam rhy bell
·
Bod prisiau tai allan o gyrraedd pobl leol
·
Bod cynlluniau o’r fath yn
boneddigeiddio’r ardal
·
Erfyn
ar y Pwyllgor i wrthod y cais
c) Cynigwyd ac eiliwyd
i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:
- Y
bwriad yn orddatblygiad
- byddai’r bwriad
yn cael effaith
andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal
- byddai’n cael
ardrawiad andwyol ar olygfeydd i
mewn ac allan o’r AHNE
- creu effaith
gronnol os caniatáu
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y dyluniad yn un da – yn wellaint
i’r adeilad
·
Nad
oedd sail i wrthod
·
Mater o farn
·
Pryderon
apêl
·
Er
derbyn barn swyddogion, y gymuned leol yn
gwrthwynebu’r datblygiad yma a bod dyletswydd gwrando ar eu
sylwadau
·
Yn
dŷ mawr, sylweddol ei faint, yn ormesol ar
y tirlun
·
I'w
weld o Nefyn, Morfa Nefyn, Buan ac Edern
·
Pleser
un teulu yn ddiflastod i bobl
leol ac ymwelwyr
·
Nad
yw’r tai eraill sydd ar y mynydd
yn ymddangos mor ormesol
·
Yn
groes i Bolisi
PS19 - nid yw’n gwarchod / gwella'r ardal leol
·
Bod yr ymgeisydd
yn bwriadu newid cymeriad y tŷ maent wedi
ei brynu
·
Creu
ardal i’r boneddigion
·
Byddai’n
gam dinistriol i Fynydd Nefyn sydd
yn atyniad i Dwristiaid
·
Yn
ddiangen ac yn gynsail peryglus
d) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â beth yw pendraw estyniad
ar estyniad ar estyniad, nodwyd
nad oedd
polisïau yn rheoli trefn ar
yr hyn sydd
yn dderbyniol - bod mwy o ystyriaeth yn cael ei
roi ar ddyluniad,
ansawdd, maint ac edrychiad.
Gwnaed cais
am bleidlais gofrestredig
PENDERFYNWYD:
Gwrthod, yn groes i’r
argymhelliad:
Ystyriwyd yr estyniad yn
• or-ddatblygiad fyddai’n
cael effaith andwyol ar fwynderau
gweledol yr ardal
• byddai’n cael
ardrawiad andwyol ar olygfeydd i
mewn ac allan o’r AHNE yn groes
i Bolisi PCYFF 3 ac MG 1 o’r CDLl
Yn unol â’r Rheolau
Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol:
O blaid: Stephen Churchman, Elwyn Edwards, Simon Glyn, Louise
Hughes, Berwyn Parry Jones, Gareth T Jones, Dilwyn Lloyd, Edgar Owen, Eirwyn
Williams ac Owain Williams (12)
Yn erbyn : Anne Lloyd Jones (1)
Atal: (0)
Dogfennau ategol: