Agenda item

Codi pump tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth y ddau dy fforddiadwy a chwblhau Cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dy yn rhai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i amodau perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi a gorffeniadau

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Tynnu hawliau PD y Tai Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Cytuno ar enw Cymraeg/arwyddion

11.       Cytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu

12.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

13.       Cytuno ar fanylion triniaethau ffin

 

Nodiadau: SUDS a Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Codi pum tŷ ynghyd a mynedfa, parcio a thirlunio

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu 5 tŷ ynghyd ag addasu mynedfa, creu ffordd stad a llecynnau parcio ynghyd a thirlunio. Lleolir y safle ar gyrion tref Pwllheli o fewn ardal a adnabyddir fel Denio gyda thai preswyl gerllaw i gyfeiriad y de ac un tŷ gyferbyn y safle.

 

Byddai ffurf y tai yn ddeulawr gyda thri tŷ ar wahân a dau dŷ pâr. Yn allanol, byddent wedi eu gorffen gyda tho crib o lechen naturiol a gorffeniadau’r waliau allanol yn gyfuniad o rendr, carreg naturiol a choed.

 

Adroddwyd bod egwyddor o ddatblygiad preswyl ar y safle eisoes wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo trwy ganiatáu cais blaenorol ar gyfer 3 o dai (un yn fforddiadwy). Er bod cynnydd amlwg rhwng y cais presennol a’r blaenorol o ran niferoedd tai, ystyriwyd y byddai’r bwriad presennol yn cynnig datblygiad o well ansawdd ac yn gwneud y gorau o safle nad oedd wedi ei gyflawni yn flaenorol o ran dwysedd a chymysgedd tai. Yn ogystal, nodwyd fod y bwriad presennol yn cynnig dau fforddiadwy. Ystyriwyd bod y bwriad presennol yn welliant gan ddarparu un tŷ fforddiadwy yn ychwanegol yn ogystal â chynnig dwysedd gwell yn unol â gofynion cyfredol.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth, amlygwyd bod pryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol am effaith y bwriad ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, yr effaith cynyddol o ystyried datblygiadau eraill yn yr ardal gyfagos yn ogystal â’r symudiadau presennol a wneir a thai preswyl yr ardal a safle Coleg Meirion Dwyfor gerllaw. Ymgynghorwyd gyda'r Uned Drafnidiaeth ar y cais ac ni chodwyd gwrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt effaith niweidiol ar y rhwydwaith ffyrdd lleol.

 

Derbyniwyd fod y safle ar ben ei hun ac i ffwrdd o ganol y dref ac nad oedd cysylltiad presennol megis troedffordd rhwng y safle a’r dref. Fodd bynnag, ystyriwyd bod diffyg troedffordd yn nodwedd o'r ardal ac ar hyd nifer o strydoedd rhwng y safle a’r dref yn ogystal ag ardaloedd Penrallt a Denio yn gyffredinol. Adroddwyd bod tawelyddion traffig yn cadw cyflymder y traffig i gyflymder isel ac addas. Er felly yn nodi'r pryderon a dderbyniwyd, ni ystyriwyd y byddai'r bwriad yn peri niwed annerbyniol sylweddol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd a'i fod o ganlyniad yn dderbyniol o ran gofynion perthnasol polisi TRA 4 tra bod y nifer o lecynnau parcio a gynigir yn dderbyniol o ran gofynion polisi TRA 2.

 

Adroddwyd bod materion bioamrywiaeth, archeolegol ac isadeiledd yn dderbyniol a chyfeiriwyd at ymateb i’r datganiad iaith yn y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn nodi nad oedd gan yr Uned Iaith sylwadau ar y cais. Nodwyd bod y datganiad yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac o ganlyniad i faint y datblygiad a’r bwriad i farchnata'r ddwy uned marchnad agored yn lleol, bod yr asesiad o effaith niwtral yn un rhesymol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus gan ymgynghorwyr statudol yn ogystal â thrigolion lleol a’r hanes cynllunio, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ac yn unol â gofynion y polisïau perthnasol .

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod caniatâd cynllunio eisoes ar y safle ar gyfer dri thŷ ar wahân - tai weddol sylweddol yn ôl y cynllun hwnnw.

·         Y bwriad yw cynyddu’r nifer o dai i bump, gan greu cymysgedd gwell o dai ar y safle ac ychwanegu un tŷ fforddiadwy. Bydd hyn yn golygu tri thŷ marchnad agored a dau fforddiadwy.

·         Y bwriad gyda’r un tŷ marchnad agored pedwar ystafell wely yw y bydd yn cael ei adeiladu ar gyfer yr ymgeisydd gan ei fod yn awyddus i symud i’r tŷ penodol yma ar y safle. Mae’r ymgeisydd wedi ei fagu ym Mhwllheli ac wedi magu teulu ym Mhwllheli. Mae’r ymgeisydd wedi cael trafodaeth gyda nifer o bobl leol sydd wedi ei holi ynglŷn â phrynu ty ymlaen llaw - y ddau marchnad agored arall sydd ar y safle gyda thair ystafell wely.

·         Mae ymholiadau hefyd wedi cael eu gwneud ynglŷn â’r nifer fyddai’n  cydymffurfio gyda pholisi tai marchnad leol, er nad yw’r polisi yn benodol yn cael ei ddefnyddio ym Mhwllheli.

·         Mae’r ddau fforddiadwy wedi bod yn destun trafod efo chymdeithasau tai, a’r bwriad yw bod y tai yn cael ei gwerthu neu rentu drwy gytundeb gyda chymdeithas tai, megis Adra.

·         Bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Adran Polisi, yr Adran Iaith a gyda’r Uned Strategol Tai ynglŷn â’r cais, a cyn hynny gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Adroddwdy bod pawb yn gefnogol i’r cais ac mae’n bwysig nodi nad oes gwrthwynebiadau sylweddol lleol i’r datblygiad yma. Teimlir bydd dyluniad y tai o safon uchel a gan fod y safle ar ffin y dref, bod y cynllun tirlunio hefyd o safon uchel.

·         Mae’r Adran Polisi yn cadarnhau yn ei hymateb y gall y bwriad gyfarch angen y gymuned leol, a thrwy hyn cadw’r cydbwysedd ieithyddol lleol. Mae gan y datblygwr ymrwymiad i roi enw Cymraeg ar y bwriad, ac mae trafodaethau wedi bod yn barod gyda theuluoedd lleol ynglŷn â’r elfen marchnatai (fydd i’w rhagweld yn gyfyng dros ben ar y cais yma).

 

c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod caniatâd ar gyfer 3 tŷ eisoes yn bodoli - cynnydd o dai fforddiadwy i’w groesawu

·         Pryder am ddiogelwch y ffyrdd - cydnabod bod datrysiadau yn anodd

 

d)    Mewn ymateb i bryderon am ddiogelwch y cyhoedd ar hyd y ffordd, derbyniodd yr Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod y lôn yn gul iawn ac yn gwasanaethu o leiaf 25 o dai a’r Coleg yn yr ardal. Ategodd bod cyfyngiadau cyflymder traffig wedi eu gosod a bod twmpathau cyflymder ar hyd y ffordd. Er hynny, mynegodd na fyddai cynnydd o 3 - 5 yn debygol o wneud gwahaniaeth mawr i’r sefyllfa a bod y trefniant rhannu gofod sydd eisoes yn ei le i weld yn effeithiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i bennu disgownt priodol ar gyfer cyfyngu gwerth y ddau dy fforddiadwy a chwblhau Cytundeb 106 i sicrhau fod y ddau dy yn rhai fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i amodau perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cytuno ar fanylion deunyddiau allanol gan gynnwys llechi a gorffeniadau

4.         Tirlunio/Coed

5.         Materion draenio

6.         Materion Bioamrywiaeth

7.         Materion Archeolegol

8.         Tynnu hawliau PD y Tai Fforddiadwy.

9.         Materion Priffyrdd

10.       Cytuno ar enw Cymraeg/arwyddion

11.       Cytuno ar Gynllun Rheoli Adeiladu

12.       Mesurau Gwarchod a gwella’r gwrych

13.       Cytuno ar fanylion triniaethau ffin

 

Nodiadau: SUDS a Dŵr Cymru

 

Dogfennau ategol: