Ystyried yr adroddiad, derbyn a nodi Datganiad o’r Cyfrifon drafft
Penderfyniad:
Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon
y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2020/21
Cofnod:
Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu
manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod
y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun
archwiliad sy’n cael ei weithredu
gan Archwilio Cymru
Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn
ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sy’n cael ei gyflwyno yn
y cyfrifon. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon y llynedd, wedi eu
harwyddo gyda pharagraff ‘emphasis of matter’ oherwydd
yr ansicrwydd gyda phrisiadau eiddo. Amlygwyd bod y 4 Rheolwr Eiddo wedi
datgan nad
oes ansicrwydd eleni. Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi
blwyddyn arferol i gyfraniadau a buddion heb newid
sylweddol. Er hynny, adroddwyd newid sylweddol mewn costau rheoli
a cyfeiriwyd at nodyn 12a sy’n egluro mai
cynnydd yn ffioedd perfformiad Ecwiti Preifat (Partners) oedd yn gyfrifol
am y newid gyda pherfformiad cryf mewn 3 cronfa yn
benodol. (Derbyniwyd eglurhad llawn gan y Rheolwyr pan heriwyd eu ffioedd).
Cyfeiriwyd at y cynnydd yn yr
Incwm Buddsoddi (nodyn 13) o ganlyniad i incwm o fuddsoddiadau
Ecwiti wrth i Bartneriaeth Pensiwn Cymru ddechrau
talu incwm a enillwyd ers
sefydlu ar holl is-gronfeydd y Bartneriaeth y mae’r gronfa wedi buddsoddi
ynddynt. Cyfeiriwyd hefyd at y ffigwr o £565.5 miliwn sef y cynnydd
yng ngwerth yr asedau ar
y farchnad yn dilyn blwyddyn lewyrchus iawn (nodyn 14a).
Yng nghyd-destun y datganiad asedau net, tynnwyd sylw at y newid yn yr asedau
buddsoddi (Nodyn 14a) sydd bellach wedi
cyrraedd £2.5 biliwn gyda chynnydd sylweddol
ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru wedi
i gyfran o Fidelity ac
Insight drosglwyddo i’r cronfeydd incwm sefydlog yn y flwyddyn.
Cymerodd y Pennaeth Cyllid y cyfle i ddiolch
i’r Tîm Buddsoddi
am eu hymroddiad i sicrhau bod Datganiad
Cyfrifon (drafft) wedi ei gwblhau
o few yr amserlen. Nododd ei fod
eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer
da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi
cyfle i holi
/ cyflwyno sylwadau.
Diolchwyd am yr adroddiad
Mewn ymateb i gwestiwn
a fydd treuliau ariannol yn ymddangos
yn gyson ymhen 2 flynedd
(hynny yw ffioedd yn adlewyrchu
nifer treuliau), nodwyd, gan fod
nifer o gyfuniadau prynu a gwerthu anodd fyddai cymharu
blwyddyn v blwyddyn, ond disgwylir gweld
cysondeb yn y tymor hir.
Mewn ymateb i gynnydd
sylweddol net o 0.6 biliwn, gofynnwyd petai modd adolygu’r
strategaeth i ystyried pecynnau / buddion atyniadol i staff e.e., ymddeol
yn gynnar. Nododd y Pennaeth Cyllid nad
oedd hawl gan y Gronfa na’r
Cyflogwr i addasu’r buddion gan eu bod wedi
eu gosod yn unol â chyflogau
a nifer blynyddoedd gwaith. Ategwyd, yn Ebrill 2022 bydd gwaith yn
dechrau ar adolygu’r prisiad teirblynyddol nesaf lle bydd modd,
yn ddibynnol ar y canlyniad, addasu cyfranddaliadau cyflogwyr.
Mewn ymateb i sylw
bod y llywodraeth yn addasu oed ymddeol
gyda phobl yn talu i
mewn yn hirach
yn cael effaith
ar yr arian sydd yn cael ei
dalu i mewn
i’r Gronfa, nododd y Pennaeth Cyllid bod y ffaith yn cael ei
ystyried wrth drafod y prisiad teirblynyddol, ond mai’r farchnad yw’r ffactor fwyaf
dylanwadol.
PENDERFYNWYD derbyn a
nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer
2020/21
Dogfennau ategol: