I ystyried yr
adroddiad
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Datganiad ac i’r
Cadeirydd lofnodi’r Datganiad
Cofnod:
Amlygodd y Pennaeth Cyllid bod etholwyr ym Môn, Conwy a Gwynedd wedi
cyflwyno cwestiynau i’r Pwyllgor yn ymwneud a buddsoddi cyfrifol. Croesawyd
derbyn y cwestiynau ymlaen llaw a gwerthfawrogwyd presenoldeb yr etholwyr yn y
cyfarfod. Penderfynwyd ymateb i’r cwestiynau cyn trafod yr adroddiad.
1.
Pa dystiolaeth
sydd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd bod eu polisi ymgysylltu mewn gwirionedd wedi
newid ymddygiad y cwmnïau maent yn gyfranddalwyr ynddynt?
Eglurwyd,
fel Cronfa, y cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda rheolwyr y gronfa gan dderbyn
adroddiadau cynnydd ar eu gweithgareddau ymgysylltu. Nodwyd bod rheolwyr y
gronfa yn weithgar iawn a’r cynnydd diweddar wedi bod yn foddhaol iawn gyda
thrafodaethau agored yn cael eu cynnal ynglŷn â strategaeth hinsawdd rhai
cronfeydd. Amlygwyd bod gan Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Ddarparwr
Pleidleisio ac Ymgysylltu sy’n cynorthwyo gyda’r broses ymgysylltu.
Cyfeiriwyd
at yr enghreifftiau canlynol o addasiadau ystyriol gan gwmnïau sydd o fewn
portffolios y Bartneriaeth.
a)
Archer Daniels Midland (ADM). Gwelwyd diffygion ym
mholisïau ADM oedd yn cyfrannu at ddatgoedwigo parhaus a diffyg amddiffyn
llystyfiant brodorol. Nodwyd bod Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu)
wedi cynnal trafodaethau gydag ADM ers 2020 ac wedi cyflwyno cynnig ar ran y
cyfranddalwyr ynglŷn â’u cyfraniad at ddatgoedwigo a chlirio llystyfiant
brodorol yn Ne America. Ym mis Mawrth 2021, tynnwyd y cynnig yn ôl gan fod y
cwmni wedi ymrwymo i:
·
osod ymrwymiadau â therfyn amser i ddileu
datgoedwigo erbyn 2030
·
olrhain y gadwyn gyflenwi soi yn llawn erbyn 2022
·
gynnwys llystyfiant brodorol yn eu Polisi Dim
Datgoedwigo
·
gyhoeddi protocol ymgysylltu â chyflenwyr
b)
Enel Spa. Adroddwyd bod Enel Spa (cwmni ynni
rhyngwladol o'r Eidal) yn weithgar yn y sectorau cynhyrchu a dosbarthu trydan.
Wrth arwain ar ymgysylltu cydweithredol o dan y fenter Climate Action 100+,
nodwyd bod Robeco wedi ymgysylltu sawl gwaith â rheolwyr gweithredol ac
anweithredol y cwmni sydd wedi arwain at ddatblygu strategaeth uchelgeisiol i
ddatblygu egni adnewyddol a digideiddio rhwydweithiau dosbarthu. Fel rhan o’r
ymdrechion i gryfhau llywodraethiant cwmnïau ar faterion hinsawdd, llwyddodd
Robeco i enwebu cyn Prif Swyddog Gweithredol Wind Power yn DONG Energy, i Fwrdd
Enel, ynghyd â grŵp o fuddsoddwyr sefydliadol. Bydd y camau nesaf yn eu trafodaethau
ymgysylltu yn ceisio mynd i’r afael ar fwriad y cwmni i gyflawni targed
net-sero erbyn 2050, a gosod targed tymor hir ar gyfer Allyriadau Scope 3
c)
ING. Adroddwyd bod Banc ING (darparwr gwasanaethau
ariannol yn yr Iseldiroedd), yn gosod ffocws cryf ar wasanaethau digidol ar
gyfer gwasanaethau bancio safonol. Nodwyd, yn 2018 y cyhoeddodd ING setliad
dirwy o 775 miliwn euro oherwydd eu methiant i ganfod materion gwyngalchu arian rhwng 2012 a 2016, ac yn gynharach yn y flwyddyn
diddymodd y bwrdd goruchwylio eu cynnig i gynyddu lefelau tâl gweithredol ar ôl
pwysau cymdeithasol. Amlygwyd bod Robeco wedi cynnal cyfarfodydd gyda
Chadeirydd y Bwrdd i asesu cryfderau a gwendidau ING ac wedi cysylltu gyda’r
Buddsoddwyr i geisio adolygu fframwaith rheoli risg. Awgrymwyd penodi
cyfarwyddwr annibynnol i’r Bwrdd yn 2019, a pharhau i ganolbwyntio ar
oruchwyliaeth annibynnol bellach.
Yn
ogystal, nodwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gweithio gyda Chronfeydd Pensiwn
Llywodraeth Leol eraill trwy LAPFF sydd yn hyrwyddo'r safonau uchaf o
lywodraethu corfforaethol i amddiffyn gwerth tymor hir cronfeydd pensiwn
awdurdodau lleol. Adroddwyd bod y Fforwm yn ymgysylltu'n uniongyrchol â
channoedd o gwmnïau drwy adeiladu perthynas iach a chynnal deialog agored
ynghylch cyfrifoldeb corfforaethol yn y meysydd o stiwardiaeth, risg hinsawdd,
risg gymdeithasol a risg llywodraethu. Ategwyd bod LAPFF yn cydnabod bod 'newid
yn yr hinsawdd yn risg buddsoddi sylweddol a brys', ac ystyriwyd LAPFF yn
fforwm defnyddiol iawn i sicrhau effaith gadarnhaol - enghreifftiau diweddar o
ymgysylltu gyda Shell, Mitsubishi UFJ Financial Group a Sainsbury.
Gwnaed
sylw pellach bod ymddwyn fel ‘cyfaill beirniadol’ yn fodd o ysgogi newid ac
ystyriwyd ymgysylltu fel y dull gorau o geisio newidiadau.
2.
A yw Cronfa Pensiwn
Gwynedd wedi edrych yn fanwl ar fuddsoddi cyfran o'r gronfa mewn prosiectau
lleol?
Mewn ymateb,
nododd yr Aelod Cabinet Cyllid, er yn aelod weddol newydd ar y Pwyllgor
Pensiynau, bod y mater o fuddsoddi mewn prosiectau lleol yn un
sy’n codi yn rheolaidd mewn cyfarfodydd. Adroddwyd, fel cronfa bensiwn unigol
ac yn genedlaethol fel PPC bod nod cyffredin o fuddsoddi'n lleol, ac yn
genedlaethol yng Nghymru. Cyfeiriwyd at gyfleoedd posib sydd yn cael eu
hystyried ynghyd a derbyn y gellid gwneud mwy o fuddsoddi effeithiol yng
Nghymru.
·
prosiectau adnewyddadwy a chymunedol ledled Cymru
·
prosiectau cais twf eraill
(bargen y ddinas).
Sylwadau
pellach i’r ymateb:
·
bod buddsoddi yn lleol yn agos at galonnau yr
Aelodau
·
bod angen diffiniad o’r gair ‘lleol’ - angen
gwahaniaethu rhwng lleol a phlwyfol. Y byd yn llai, cysylltiadau yn well ac
felly ‘lleol’ yn anodd ei ddiffinio
·
bod ymuno a chronfa PPC wedi cryfhau’r gobaith o
fuddsoddi yn lleol
3.
A yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ystyried
risgiau ‘stranded assets’ o ystyried bod datganiad diweddar gan yr Asiantaeth
Ynni Rhyngwladol yn nodi’r angen i atal pob datblygiad tanwydd ffosil newydd
eleni?
Mewn
ymateb, eglurwyd y cyfyngiadau i geisio osgoi cynhesu byd-eang ynghyd a sut
mae’r economi yn symud o ynni fel glo, olew a nwy i
ddefnyddio ynni adnewyddol gyda llywodraethau yn argymell cwmnïau i leihau
allyriadau carbon. Ategwyd bod Cyngor Gwynedd yn llwyr ymwybodol o'r risgiau
hyn a gyda chymorth ymgynghorwyr y Gronfa, yn ceisio sicrhau bod y rheolwyr
asedau, sy'n dewis y stociau, yn buddsoddi mewn cwmnïau sy'n arallgyfeirio eu
busnesau tuag at ynni adnewyddol, fel bod y Gronfa yn llai agored i risg.
Nodwyd bod y dewis o gwmnïau y mae’r Rheolwyr Buddsoddi yn buddsoddi ynddynt yn
cael ei fonitro yn barhaus a’i herio pan fydd angen gan y Pwyllgor a’r ymgynghorwyr.
Yn
ychwanegol, atgoffwyd yr Aelodau bod gan PPC Gronfa Global Opportunities,
strategaeth datgarboneiddio sy’n eithrio glo, oherwydd fe’i hystyrir fel “stranded
asset” - glo ydi'r ffynhonnell ynni lleiaf effeithlon o ran CO2, felly ceisir
osgoi glo.
4.
A fydd Cronfa
Bensiwn Gwynedd yn gosod amserlen ar gyfer dargyfeirio llwyr cyn
Cynhadledd
Hinsawdd COP26 ym mis Tachwedd 2021
Adroddwyd mai prif nod Cynhadledd COP26 yw:
‘Sicrhau sero net byd-eang erbyn canol y ganrif a chadw o fewn cyrraedd
1.5 gradd’ gan ‘ofyn i wledydd ddod ymlaen â thargedau uchelgeisiol ar gyfer
lleihau allyriadau 2030 sy’n cyd-fynd â chyrraedd sero net erbyn canol y
ganrif’
Er
mwyn cyflawni'r targedau estynedig hyn, bydd angen i wledydd:
·
gyflymu'r
cyfnod diddymu glo
·
lleihau
datgoedwigo
·
gyflymu'r
newid i gerbydau trydan
·
annog
buddsoddiad mewn ynni adnewyddol.
Eglurwyd,
fel ymddiriedolwyr cronfeydd pensiwn ei bod yn hanfodol cynllunio'n briodol,
gan weithredu a dylanwadu lle bo hynny'n bosibl er
budd yr amgylchedd. Nodwyd bod gan Gronfa Bensiwn Gwynedd ddyletswydd
ymddiriedol i holl gyflogwyr y cynllun, eu staff a'u pensiynwyr ac felly nid
yw'n gwyro am resymau anariannol yn unig. Golygai hyn y bydd penderfyniadau i
fuddsoddi neu beidio mewn cwmni penodol neu fath o ased yn seiliedig ar y gallu
i gynhyrchu enillion tymor hir cynaliadwy ar gyfer y gronfa, neu rywbeth a
fyddai’n cael ei ddylanwadu gan ddull y bydd cwmni'n ei gymryd tuag at newid yn
yr hinsawdd.
Nodwyd
fod y mater ynglŷn â bod yn berchen ar gwmnïau tanwydd ffosil yn fwy
cymhleth ei naws na dadfuddsoddi uniongyrchol. Tra bod
dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn lleihau’r sylw ar y gronfa bensiwn, nid yw
dadfuddsoddi yn ei hun yn cyfarch problemau carbon byd-eang. Ystyrir rhai y bydd tanwydd ffosil y parhau fel rhan hanfodol o’r gymysgedd
ynni drwy gefnogi twf economaidd ac incwm drwy’r byd i’r dyfodol. Cyfeiriwyd at
enghraifft lle mae eu defnydd mewn cynhyrchu a gosod tyrbinau gwynt - byddai
gwaredu cwmnïau tanwydd ffosil yn debygol o waredu’r cwmnïau ynni gorau sy’n
buddsoddi mewn cynhyrchu ynni adnewyddol. Dyma’r cwmnïau sydd yn cefnogi ac yn
gosod cyfeiriad a gyrru'r rhaglen trawsnewid ynni. Nodwyd bod ymgysylltu yn
fodd mwy effeithiol o annog newidiadau yn hytrach na dadfuddsoddi yn llwyr gan
ei fod yn caniatáu i berchnogion asedau megis Cronfa Bensiwn Gwynedd a PPC
ymgymryd â pherchnogaeth weithredol a chynnal perthynas tymor hir ar faterion fel
hyn.
Bydd
y Gronfa yn herio’r rheolwyr buddsoddi yn rheolaidd ar y camau maent yn cymryd
ar faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu gan geisio dargyfeirio o
danwydd ffosil yn gyffredinol fel rhan o’r strategaeth gyffredinol i leihau
allyriadau carbon ar draws pob sector. Ategwyd bod y Gronfa'n datblygu ei
strategaeth tymor hwy ar gyfer lleihau allyriadau carbon sydd yn gyson â
gofynion disgwyliedig y Task Force for Climate-Related Disclosures (Tasglu Datgeliadau Hinsawdd Cysylltiedig) (TCFD).
Cyfeiriwyd
at y camau sydd eisoes wedi ei cymryd i leihau allyriadau carbon:
·
Cronfa Carbon Isel Black Rock (12% o Gronfa
Gwynedd) - cronfa carbon isel pellach wedi ei ddatblygu sydd yn sgrinio tanwydd
ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel, ac felly yn lleihau allyriadau carbon
ymhellach o 44% (penderfyniad Pwyllgor Pensiynau, 14/10/2020).
·
Cronfa Global Growth (17% o Gronfa Gwynedd) -
ymdrechion gan reolwyr buddsoddi o fewn y gronfa i leihau ôl traed carbon.
Baillie Gifford wedi datblygu cronfa sydd yn dadfuddsoddi o gwmnïau echdynwyr
tanwydd ffosil a darparwyr gwasanaeth tanwydd ffosil (penderfyniad Pwyllgor
Pensiynau, 21/01/2021) a Pzena wedi penderfynu gwerthu stociau mewn cwmni a oedd yn cyfrannu i 35% (31/12/20) o allyriadau carbon y
gronfa benodol yma.
·
Cronfa
Global Opportunities (17% o Gronfa Gwynedd) – PPC wedi gweithredu
‘decarbonisation overlay’ gan Russell Investments sy’n lleihau’r ôl-troed
carbon o 25%. Bydd posib gweithredu’r un ‘overlay’ ar drosglwyddiad nesaf i
gronfa marchnadoedd datblygol PPC (3% o gronfa Gwynedd) yn Hydref 2021.
·
Russell
Investments (Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau PPC) – wedi datgan eu bod
am gyflawni safon o allyriadau carbon net-sero yn eu portffolios buddsoddi yn
fyd-eang erbyn 2050.
·
Meincnod
ESG GRESB – meincnod byd eang ar gyfer ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a
llywodraethol o fewn y maes eiddo. Cronfa Gwynedd gyda dyraniad 10% i
fuddsoddiadau mewn eiddo gyda rheolwyr eiddo perthnasol, UBS a Black Rock wedi
cadw safle rhif 1 a 2 yn ei grŵp o gyfoedion ar gyfer eu sgôr ‘ESG GRESB’
yn 2020.
·
Ymgysylltu
â rheolwyr - y Gronfa'n ymgysylltu â rheolwyr, e.e. yn gwirio eu cofnodion
pleidleisio, i geisio dylanwadu ar newid yn y cwmnïau y mae'r Gronfa yn
buddsoddi ynddynt, yn enwedig PPC a Black Rock
Er
nodwyd bod Russell Investments (Darparwr Datrysiadau Rheoli Buddsoddi PPC) wedi
datgan eu bod am gyflawni safon o allyriadau carbon net-sero yn eu portffolios
buddsoddi yn fyd-eang erbyn 2050, nid yw Cronfa Gwynedd wedi ymrwymo i’r
datganiad yma nac yn argyhoeddedig y dylid gosod targed mor
uchelgeisiol a diffiniol.
Amlygwyd
bod camau positif wedi eu gwneud o fewn y Gronfa ynglŷn â materion yn
ymwneud a’r hinsawdd a’u bod wedi ystyried yr opsiynau o ddifrif. Derbyniwyd y
gellid gwneud mwy, ond camau positif eisoes wedi eu cymryd gyda bwriad i barhau
fel yn briodol, drwy bwyso a mesur yn ofalus. Ategwyd bod egwyddorion Ffordd
Gwynedd yn cael eu gweithredu sy’n annog newid meddylfryd i geisio’r canlyniad
gorau.
Diolchwyd
am y cwestiynau ac am eu cyfraniad i’r Pwyllgor. Diolchwyd am y diweddariad i’r
datganiad - drwy gynllunio yn briodol bydd modd cymryd camau amserol wrth
fuddsoddi’n gyfrifol fydd, o ganlyniad yn dylanwadu buddion ein hamgylchedd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r datganiad ac i’r
Cadeirydd lofnodi’r datganiad
Dogfennau ategol: