Ystyried diweddariad o adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor fis Ionawr 2020 oedd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr Dementia ac yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd a’r waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg o’r hyn sydd ar waith i
gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng Ngwynedd.
COFNODION:
Derbyniwyd
diweddariad gan yr Aelod Cabinet am y gefnogaeth sydd ar gael i unigolion a’r
cyflwr dementia yng Ngwynedd, gan amlygu ei bod yn gyfnod hynod brysur.
Amlygwyd fod niferoedd a’r cyflwr dementia ar gynnydd ac er bod cyfnod Covid
wedi bod yn heriol, eglurwyd fod gwaith datblygol wedi parhau.
Ychwanegodd yr
Uwch Reolwr Gwasanaethau Oedolion fod y cyfnod Covid wedi gorfodi’r Adran i ail
edrych ar sut maent yn cynnig y gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a
rheoliadau Covid, ynghyd a chynnig y gwasanaethau angenrheidiol i’r unigolion.
Cadarnhawyd fod Asesiad Anghenion Poblogaeth ar y gweill a fydd yn rhoi mwy o
ddealltwriaeth i’r Adran am yr anghenion a’r ddarpariaeth fydd eu hangen yn
lleol am y blynyddoedd i ddod.
Cadarnhawyd mai y
camau nesaf fydd i ail edrych ar y cynlluniau gwaith sydd yn cynnwys y gwaith
sydd yn cael ei wneud gan Dementia Actif, y gwaith cefnogi a’r gwaith addasu
cartrefi y Cyngor. Amlygwyd pryderon am gyllid craidd a fydd yn sicrhau y bydd
modd ariannu’r gwaith i’r dyfodol.
Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :
O ran argaeledd
ac addasrwydd staff, cadarnhawyd bod cyflogi staff addas gyda’r sgiliau cywir
yn her, ond bod y Cyngor yn gwneud llawer o ymdrech i ddenu staff addas gan
ddatblygu rhaglen hyfforddiant priodol.
Nodwyd bod cynnydd wedi bod yn nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi yn
y maes, ond bod angen parhau i ddenu
staff i’r maes ar gyfer unrhyw ddatblygiadau y dyfodol.
O ran argaeledd
gwlâu preswyl arbenigol i unigolion a Dementia, eglurwyd fod mwyafrif o wlâu
cartrefi’r Cyngor yn llawn a bod rhestrau aros yn bodoli. Oherwydd cyfyngiadau
Covid, bu’n rhaid oedi agor uned arbenigol dementia gydag 8 gwely mewn un
cartref gyda’r gobaith y bydd yn bosib agor yr uned yn raddol yn y dyfodol
agos.
Wrth drafod
materion ariannol eglurwyd fod yr Adran yn manteisio ar bob cyfle posib am
arian o wahanol ffynonellau. Amlygwyd pryderon am arian tymor hir gan fod
grantiau’r Llywodraeth yn dueddol o fod am gyfnod o 2 i 3 blynedd.
Nodwyd ei bod yn
sefyllfa anodd pan mae unigolyn yn gorfod symud o’r ardal i dderbyn
gwasanaeth. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr
Gwasanaethau Oedolion bod yr Adran yn y broses o gwblhau darn o waith ar
leoliadau all sirol sydd yn amlygu i le mae unigolion yn symud i dderbyn gofal.
Gall hyn fod o ganlyniad i'r ffaith nad oes darpariaeth addas ar gael yn lleol
neu yn ddewis personol.
O safbwynt
cynlluniau y Cyngor i gynyddu Unedau Dementia arbenigol yng Ngwynedd,
cadarnhawyd bod cynlluniau i ehangu, ynghyd a rhai cynlluniau cyffelyb yn y
sector breifat. Amlygwyd Cynllun Hwb Dyffryn Nantlle a Safle Penrhos fel
cynlluniau i’r dyfodol gan bwysleisio fod angen rhoi sylw i ardaloedd eraill yn
ogystal. Eglurwyd y bydd y Gwasanaeth yn
parhau i weithio ar gynlluniau blaengar gan ail-edrych ar y rhaglen buddsoddi
mewn 12-18 mis.
PENDERFYNWYD : Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi diweddariad a throsolwg
o’r hyn sydd ar waith i gefnogi unigolion sydd yn byw gyda Dementia yng
Ngwynedd.
Dogfennau ategol: