Cais ar gyfer codi ty fforddiadwy
gyda mynedfa a parcio a tirweddu cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith Humphreys
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Gohirio y penderfyniad er mwyn cynnal
trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd i ganfod
Cofnod:
a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi bod y safle wedi ei leoli mewn cae amaethyddol ar gyrion pentref
Penygroes ar hyd
ffordd gul sy’n troi’n llwybr cyhoeddus. Amlygwyd bod y cais yn
ail gyflwyniad o’r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0853/22/LL ac wedi ei
gyflwyno gerbron y pwyllgor cynllunio ar gais yr Aelod Lleol.
Eglurwyd
bod Polisi TAI 16 ‘Safleoedd Eithrio’ yn datgan os gellid dangos bod angen
lleol wedi’i brofi am dai fforddiadwy na ellid ei gyfarch o fewn amserlen
resymol ar safle marchnad tu mewn i’r ffin datblygu, fel eithriad caniateir
cynigion am gynlluniau 100% tai fforddiadwy ar safleoedd sy’n union gerllaw’r
ffiniau datblygu sy’n ffurfio estyniad rhesymegol i’r anheddle.
Adroddwyd
nad oedd gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn
nodi bod safle’r cais yn cyffwrdd â’r ffin ddatblygu – ymddengys bod bwlch
rhwng y safle a’r ffin ddatblygu yn ymddangos fel llwybr cyhoeddus. Yn nhermau
polisi cynllunio mae’r safle wedi ei ddiffinio fel lleoliad yng nghefn gwlad
agored ac felly nid yw’n berthnasol ei ystyried yn nhermau Polisi TAI 16,
‘Safleoedd Eithrio’ - ceir hyn ei ategu
yn y Canllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’.
Nodwyd
bod y bwriad yn cael ei gynnig fel tŷ fforddiadwy. Er bod Tai Teg wedi
cadarnhau bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer prynu eiddo fforddiadwy neu eiddo
fforddiadwy i’w adeiladu ei hun, nid oedd gwybodaeth bellach ynglŷn ag angen penodol yr ymgeisydd am dŷ fforddiadwy wedi ei
gyflwyno fel rhan o’r cais. Amlygwyd bod arwynebedd llawr mewnol y tŷ
unllawr dwy lofft oddeutu 110m sgwâr sydd yn 50m sgwâr yn fwy na’r uchafswm a
nodir yn y Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer tŷ unllawr 2 ystafell wely
fforddiadwy. Nodwyd hefyd bod uchder y prif do yn golygu bod potensial i
ddarparu llawr ychwanegol uwchben rhan o’r tŷ yn y dyfodol. Ystyriwyd bod
safle’r cais (sydd yn cynnwys y tŷ bwriedig a’i gwrtil) yn fawr iawn ac y
byddai darparu cwrtil o’r maint yma yn debygol o godi gwerth yr eiddo a all olygu na fydd y tŷ yn fforddiadwy o ran ei bris.
Ar sail hyn, ystyriwyd y bwriad yn groes i ofynion polisi TAI 15 o’r CDLl a CCA
Tai Fforddiadwy o ran yr arwynebedd llawr sydd wedi ei ddangos.
Eglurwyd
bod polisi PCYFF 2 yn darparu meini prawf datblygu ac yn datgan fod yn rhaid i
gynigion gydymffurfio gyda holl bolisïau perthnasol y Cynllun a pholisïau a
chanllawiau Cenedlaethol yn y lle cyntaf. Ategwyd bod y polisi yn rhestru
cyfres o feini prawf sy’n ymwneud a gwneud y defnydd gorau o dir, ymgorffori
gofod mwynderol, cynnwys darpariaeth ar gyfer storio, ailgylchu a rheoli
gwastraff, a chynnwys darpariaeth ar gyfer trin a chael gwared a rhywogaethau
ymwthiol yn effeithiol. Yn arferol byddai disgwyl i safle o’r maint yma
ddarparu oddeutu 3 uned byw - disgwylir darparu tai
newydd ar raddfa o 30 uned byw yr hectar.
Ystyriwyd y bwriad
arfaethedig yn annerbyniol, ac yn groes i ofynion polisïau lleol a
chenedlaethol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn siarad o blaid y cais cynllunio
ar gyfer codi annedd fforddiadwy dwy ystafell wely, un llawr, ar ddarn o dir
ger Oxton Villa ym Mhenygroes
·
Ei fwriad yw adeiladu tŷ
hunan-adeiladu cymedrol.
·
Ei fod yn 30 mlwydd oed ac yn chwilio am
rywle i setlo lawr, ac ymhen amser, magu teulu. Ei nod yw adeiladu cartref am
byth ym Mhenygroes fyddai’n caniatáu iddo aros yn ei gymuned enedigol
·
Ei fod yn berson lleol - wedi mynychu'r
ddwy ysgol ym Mhenygroes.
·
Ei rieni yn dod
o'r pentref, teulu ei rieni yn parhau i fyw ym Mhenygroes; ei chwaer yn byw yn
y pentref ynghyd a nifer o’i ffrindiau, sy’n profi bod ganddo sawl cysylltiad
gyda’r ardal.
·
Ei fod yn chwarae rhan weithredol yng
nghymuned y pentref a byddai caniatáu iddo adeiladu cartref ym Mhenygroes yn
caniatáu iddo barhau i gyfrannu tuag at y gymuned.
·
Bod y plot yn eiddo i’w deulu, ac felly yn
gyfle prin ac arbennig iddo adeiladu tŷ fforddiadwy iddo’i hun yn y
pentref.
·
Bod Polisi Cynllunio Cymru yn ceisio
cefnogi caniatáu amrywiaeth o safleoedd cynaliadwy ar gyfer pob math o
adeiladwr tai, gan gynnwys rhai yn y sector
hunan-adeiladu.
·
Er bod arwynebedd llawr mewnol y
datblygiad arfaethedig yn 110 metr sgwâr, eglurwyd ei fod yn dŷ
maint cymedrol ar gyfer ei deulu i’r dyfodol. Petai’n adeiladu tŷ 58 metr
sgwâr, golygai hyn y byddai rhaid rhoi estyniad ar y tŷ yn y dyfodol ar
gyfer ei deulu.
·
Bod cartrefi fforddiadwy dwy ystafell wely
a adeiladwyd gan Grŵp Cynefin ym Mhenygroes yn mesur mwy na 58 metr sgwâr.
·
Bod Cyngor wedi caniatáu cais Cynllunio
(cyfeirnod: FPL/2018/40) ar gyfer tŷ fforddiadwy ym Menllech a gafodd ei
wahanu oddi wrth y ffin datblygu gan fynediad cae - gobeithiai y byddai ei gais
yn cael ei ystyried fel eithriad gan mai llwybr troed yn unig oedd yn gwahanu’r
ffiniau yma
·
Nad oedd unrhyw wrthwynebiadau i’r
datblygiad arfaethedig wedi eu cyflwyno
gan drigolion lleol
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei bod yn gefnogol i’r cais
·
Bod y cyfle yn un arbennig i’r ymgeisydd
adeiladu cartref ar ddarn o dir sydd yn berchen i’w deulu - cartref cynaliadwy,
tafliad cartref o’i gartref genedigol
·
Ei fod yn gweithio yn lleol – lleoliad y
cartref yn gyfleus
·
Cyfle gwych i berson ifanc aros yn ei
gynefin
·
Bod lled y llwybr cyhoeddus yn hanner medr
– A yw hyn yn sail resymol dros nodi ‘tu allan i’r
ffin’?
·
Bod yr ymgeisydd wedi cynnig darparu gofod
lle i droi
·
Nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad
·
Enghreifftiau o dai fforddiadwy mwy yn
cael eu caniatáu
·
Cyfle i gynorthwyo a chefnogi person ifanc
i ymgartrefu yn ei gymuned leol
ch) Cynigwyd caniatáu y cais yn groes i'r argymhelliad am y rhesymau
canlynol:
·
Bod y lleoliad yn addas
·
Yn gyfochrog â’r ffin - ‘llain cul' o dir
yn unig sydd rhwng y ffin a’r safle
·
Bod tai eraill fforddiadwy wedi eu
caniatáu o faint mwy
·
Pam cyfyngu arwynebedd pan fydd angen mwy
o le i deulu i’r dyfodol? - hyn yn creu rhwystr
·
Bod y dyluniad yn dderbyniol
·
Bod modd ystyried amod cytundeb 106
d) Mewn ymateb i’r cynnig, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac
Amgylchedd bod y rhesymau yn dderbyniol o safbwynt materion technegol, ond bod
diffygion yn y cais yn ymwneud a chwrdd ‘â’r angen’ yn hytrach na ‘dymuniad’.
Awgrymodd y dylid gohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd
dd)
Cytunodd y cynigydd i dynnu ei gynnig yn
ôl gan ail gynnig gohirio fel bod swyddogion yn cael cyfle i drafod ymhellach gyda’r
ymgeisydd
e) Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r
penderfyniad fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd
f)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nad oedd lled y llwybr yn bryder, ond bod
y plot yn addas ar gyfer tri thŷ - awgrymwyd trafod gyda’r ymgeisydd gosod
tŷ arall fforddiadwy ar y safle fel bod modd cael mwy o werth o’r tir
·
Angen sicrhau cysondeb o ran maint
arwynebedd llawr tŷ fforddiadwy
PENDERFYNWYD
Gohirio'r penderfyniad er mwyn cynnal
trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd i ganfod
·
Beth yw’r ‘angen’ presennol?
·
A yw wedi ystyried rhoi tŷ arall fforddiadwy ar
y safle i gael mwy o werth allan o’r plot?
·
A yw’n fodlon ystyried cytundeb 106 tŷ
fforddiadwy angen lleol ar yr eiddo?
Dogfennau ategol: