Lleoli 9 carafan gwyliau sefydlog yn lle 12 carafan deithiol ynghyd a gwelliannau amgylcheddol
AELODAU LLEOL: Cynghorydd Anne Lloyd Jones a’r Cynghorydd Mike Stevens
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y
cais
Cofnod:
a) Amlygodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau
presennol i leoli 9 carafán gwyliau sefydlog yn lle 12 carafán deithiol sydd
gyda chaniatâd ar y safle carafanau presennol. Amlygwyd bod safle’r cais yn
disgyn tu allan i ffin y safle carafanau presennol ac wedi ei leoli ar dir gwastad yng nghefn gwlad oddi ar
yr A493 rhwng Tywyn a Bryncrug.
Cyflwynwyd
y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol
Adroddwyd bod y
safle yn gorwedd o fewn parth llifogydd C1 sy’n cael ei gysylltu gyda Nodyn
Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl o Lifogydd (NCT 15). Ystyriwyd y bwriad yn un sy’n agored iawn i niwed ac yn
rhan 6.2 o NCT 15 nodi’r mai’r unig amser y bydd cyfiawnhad dros leoli
datblygiad o’r fath oddi fewn parth C1 yw pan ellid tystiolaethu bod y bwriad
yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol. Amlygwyd, er bod trafodaethau wedi cael eu
cynnal gydag asiant yr ymgeisydd ynglŷn â’r materion hyn, na fyddai mwy o wybodaeth yn cael ei gyflwyno yn ymwneud a’r
mater.
Daeth yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd i’r casgliad
nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda NCT 15. Yn
dilyn asesiad Swyddogion i ystyriaethau paragraff 6.2 o NCT 15 ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cwrdd gyda’r gofynion perthnasol ac
felly yn groes i ofynion NCT 15 ynghyd a materion llifogydd Polisi PS 6.
Ystyriaeth
arall a roddwyd i’r bwriad oedd y byddai’n cynyddu’r nifer o garafanau sefydlog
ar y safle o’r 35 gwreiddiol i 55 - cynnydd oddeutu 57% sydd ymhell i’r 10% y
cyfeirir ato ym Mholisi TWR 3 CDLL. O
ganlyniad, ystyriwyd y bwriad yn groes i bwynt 4 iii o Bolisi TWR 3 gan nad yw’n gynnydd bychan yn nifer yr unedau ar y safle.
Mewn
ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn mynegi pryder am effaith weledol y bwriad ar
y tirwedd, ymddengys bod y cais wedi nodi bwriad tirlunio cynhenid ychwanegol
ond nad oedd manylion wedi ei derbyn. O ganlyniad, ni ellid asesu effaith y bwriad yn llawn o ran
ei osodiad yn y tirwedd ehangach ac yn sgil hynny ni ystyriwyd y byddai’n
ychwanegu at gynnal neu gwella’r tirwedd ac yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4
CDLL.
Argymhellwyd gwrthod y cais.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y
pwyntiau canlynol:
Mewn ymateb i bryderon llifogydd, nododd
·
Bod safle'r cais yn gorwedd ar ymyl parth risg
llifogydd llanw gyda rhan fwyaf o'r maes carafanau, gan gynnwys y fynedfa, ar
dir sych
·
Nad oedd CNC wedi ystyried bod carafanau gwyliau
statig gyda gwagle o oddeutu +750mm o dan yr unedau - ni fyddai’r garafán yn
cael ei heffeithio
·
Bod mynediad i dir sych o fewn y safle petai llifogydd
- gellid rheoli hyn gydag amod a chynllun gwacáu llifogydd.
·
Byddai’r datblygiad yn disodli 12 o garafanau teithiol
gydol y flwyddyn, gyda 9 carafán gwyliau statig, felly bydd gostyngiad yn nifer
y carafanau gwyliau ar y rhan yma o'r safle. Yn yr ystyr hwn mae'r datblygiad
yn dderbyniol yn nhermau polisi gan ei fod mewn gwirionedd yn lleihau'r nifer
gyffredinol a ganiateir ar y safle
Mewn ymateb i bryderon effaith Tirwedd a Gweledol
·
Yn wahanol i'r hyn a nodir yn yr adroddiad pwyllgor,
nid yw safle'r cais yn amlwg yn y dirwedd ehangach ac mae wedi'i sgrinio yn dda
·
Ei fod yn annog yr Aelodau i ymweld â’r safle i
dystiolaethu’r tirweddu presennol
·
Petai angen tirlunio ychwanegol, bydd modd ymdrin â
hynny drwy amod cynllunio ac er nad yw'n
angenrheidiol, byddai’n barod i wneud hynny os bydd angen. Llywodraeth Cymru yn
annog tirfeddianwyr i
blannu mwy o goed, ond i osod persbectif, bod
fferm gyda phanel solar 15 erw, 700 metr o’i safle yn ddolur llygad.
·
Nôd y cais yw sicrhau cynaliadwyedd tymor hir Parc
Carafanau Pall Mall fel busnes gwledig fyddai’n creu cyflogaeth i bobl
leol
·
Bod ei ferch wedi graddio gydag anrhydedd dosbarth
cyntaf mewn Twristiaeth ac eisiau gweithio ym musnes y teulu. Nododd ei bod yn angerddol
am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac yntau am roi’r cyfle gorau iddi aros
gartref. Byddai cymeradwyo’r cais yn gymorth i gynnal ei fusnes
·
Bod sawl pwynt yn yr adroddiad yn hollol anghywir a
chamarweiniol yn portreadu agwedd negyddol. Ategodd bod y cais yn un syml a gellid mynd i’r afael a’r materion hynny sydd yn
peri pryder.
·
Bod Cyngor Tref Tywyn yn gefnogol i’r cais ac yn
gwerthfawrogi'r buddion economaidd cadarnhaol y gellid ei derbyn
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn bryderus am rai datganiadau
yn yr adroddiad
·
Bod y safle wedi ei sgrinio yn effeithiol ac felly
ddim yn rheswm gwrthod
·
Bod y safle wedi'i hen sefydlu, yn
aeddfed ac wedi'i reoli'n dda
·
Byddai’n dod a buddion economaidd i’r
ardal
·
Bod maint yn safle yn ddi-nod o
ystyried safleoedd yng Ngogledd y Sir
·
Nad oedd llifogydd wedi bod yn yr ardal
ers dros 50 mlynedd a bod y llifogydd hynny heb fod yn rhai peryglus
·
Angen ystyried ac annog meysydd
carafanau ar gyfer ymwelwyr er mwyn
ceisio cadw adeiladau brics a mortar ar gyfer pob lleol
·
Angen sicrhau adnoddau digonol ar gyfer ymwelwyr
iddynt gael mwynhau prydferthwch yr ardal
·
Os ystyried gohirio, annog ymweliad safle cyn
penderfynu
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
d) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Mewn ymateb i sylw a wnaed yng
nghyflwyniad yr ymgeisydd, angen
ymchwilio ymhellach i gyfnod amser y tymor carafanau teithiol
·
Bod gosod y carafanau ar blinthiau yn cyfarch y
broblem petai llifogydd
·
Bod angen asesiad manylach a gwybodaeth bellach i
ystyried tirweddu posib
PENDERFYNWYD
Gwrthod
y cais am y rhesymau canlynol:
1.
Mae’r bwriad yn un sydd yn agored iawn i niwed ac sydd wedi
ei leoli oddi fewn i barth llifogydd C1.
Nid yw’r bwriad yn rhan o strategaeth adfywio neu strategaeth gan yr
awdurdod lleol nag ychwaith yn cyfrannu at amcanion cyflogaeth allweddol sy’n
cael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol a phartneriaid allweddol eraill. Nid yw’r bwriad ychwaith wedi ei leoli ar dir
a ddatblygwyd o’r blaen ac mae’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd
gyda’r cais wedi methu dangos fod
risgiau a chanlyniadau llifogydd yn gallu cael ei reoli i lefel derbyniol. Nid yw’r bwriad felly yn cwrdd gyda’r
gofynion cyfiawnhad a geir ym mharagraff 6.2 o Nodyn Cyngor Technegol Cymru :
Datblygiad a Pherygl o Lifogydd ac yn sgil hynny mae hefyd yn groes i ofynion
Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
2.
Nid yw’r cynnydd yn y niferoedd arfaethedig o garafanau
gwyliau sefydlog yn fach, nac yn gydnaws a graddfa’r gwelliannau a fwriedir i’r
safle ac mae uwchlaw’r cynnydd o 10% argymhellir i’r niferoedd gwreiddiol ar y
safle, felly yn groes i egwyddorion pwynt 4 o bolisi TWR 3 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau a Llety
i Dwristiaid.
3.
Ni roddwyd ystyriaeth ddigonol i faterion tirweddu fel
rhan o’r cynnig. Yn sgil hyn ni ystyrir
y byddai’r bwriad yn ychwanegu at gynnal neu wella’r tirwedd a bod y bwriad yn
groes i ofynion Polisi PCYFF 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: