Diwygiadau
ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gynyddu maint feranda a mynediad droed
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Caniatau
gydag amodau
Diwygiad
Ansylweddol :
Cwblheir y
diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun
rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin 2021, ac
a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os
nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er gwaethaf y
diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad mewn
cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd cynllunio
rhif C19/0982/42/LL.
COFNODION:
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
Diwygiadau ansylweddol i ganiatâd C19/0982/42/LL i gadw cynnydd
ym maint y feranda
a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio
bod y cais yn un am ddiwygiad ansylweddol i ganiatâd
cynllunio C19/0982/42/LL i gadw gwaith o ymestyn
feranda ar yr eiddo. Eglurwyd
bod ffrâm y feranda eisoes wedi ei
adeiladu, ond nad yw’r
to llechi wedi ei osod. Ategwyd
bod y colofnau yn ymestyn 1.6m allan
o wal flaen yr eiddo - 50cm yn fwy na’r
caniatâd cynllunio a gymeradwywyd eisoes. Cyflwynwyd y cais i geisio cadw’r
newidiadau yn dilyn camau gorfodaeth
cychwynnol ac ar gais yr Aelod
Lleol
Eglurwyd, o dan Rhan 96 A o’r Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 mae modd cyflwyno ceisiadau
am Ddatblygiadau Ansylweddol
i Ganiatâd Cynllunio presennol ers 1 Medi 2014. Mae Canllaw Cynllunio: Cymeradwyo Diwygiad Ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio
sy’n Bodoli Eisoes gan Lywodraeth
Cymru ar yr hyn a ystyrir
yn ddatblygiad ansylweddol gyda phrofion asesu pendant wedi eu rhestru.
Ni ystyriwyd y byddai’r newid bychan yma
yn amlwg wrth edrych ar
y safle o unrhyw fan cyhoeddus ac wrth nodi sylwadau’r cymydog, ni
ystyriwyd y byddai unrhyw effeithiau mwynderol niweidiol ychwanegol yn deillio
o’r newid.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Eu bod
wedi symud i’r ardal tua dwy flynedd yn ôl ac wedi prynu Terfyn gyda'r bwriad o
adnewyddu'r eiddo a oedd, yn anffodus, yn dadfeilio.
·
Ystyriwyd
bod y datblygiad yn Terfyn wedi bod yn unol ag arddull yr eiddo ac ar gost
ychwanegol sylweddol, wedi cynnal ffasâd yr adeilad
·
Camgymeriad
syml rhyngddo ef a'r adeiladwr oedd gwraidd yr angen i addasu’r feranda, gyda’r
adeiladwr yn ei adeiladu ychydig yn rhy ddwfn o'i gymharu â'r cynlluniau a
gyflwynwyd.
·
Fe’u cynghorwyd gan y
swyddog cynllunio i ailgyflwyno diwygiadau ansylweddol i'r cynlluniau
gwreiddiol a wnaed ym mis Mawrth 2021
·
Derbyniwyd bod gwrthwynebiadau wedi'u
codi ynghylch maint y feranda a hefyd y byddai’n effeithio preifatrwydd eiddo cyfagos
·
Gan fod y feranda wedi'i hadeiladu'n rhannol yn unig,
gellid derbyn y byddai pryderon yn codi
gan y gallai ymddangos, yn ei
chyflwr hanner adeiledig, bod to'r feranda yn
wastad, ac y byddai'n bosibl i rywun
gerdded allan i'r feranda a chael
golygfeydd sylweddol dros eiddo cyfagos
·
Bydd y feranda orffenedig
yn un o lechi yn unol â tho
presennol yr eiddo ac ni fydd
yn bosib cerdded arno - nid yw’r honiad
felly y byddai’r feranda yn cael effaith
andwyol ar breifatrwydd yn ddilys
·
Nid ydynt wedi gwneud unrhyw newidiadau
i arddull a maint a lleoliad nac ar ffenestri'r eiddo felly nid oes unrhyw newid
sylweddol i'r elfen breifatrwydd sy'n effeithio ar unrhyw eiddo
cyfagos - ategir hyn gan asesiad
y swyddog cynllunio sydd wedi ystyried
ystyriaethau cynllunio deunydd o dan adran
96A o ddeddf cynllunio tref a gwlad 1990
·
Bod y swyddogion
cynllunio yn nodi na ellid cytuno â'r
honiad bod y newid yn or-ddatblygiad neu'n sylweddol wahanol i'r hyn
a gymeradwywyd eisoes; nid ydynt yn
credu y byddai ymestyn dyfnder y feranda yn achosi
newid sylweddol i breifatrwydd cymdogion. Ystyriwyd yr holl elfennau
perthnasol yn unol â chanllaw cynllunio llywodraeth Cymru ac mai na oedd ateb y swyddogion i’r cwestiynau a ystyriwyd.
·
Nid yw’r
swyddogion cynllunio yn credu y byddai'r mân welliant hwn yn amlwg wrth edrych
ar y safle o unrhyw fannau cyhoeddus
·
Bod
ffenestri'r cymdogion eisoes yn wynebu gardd ffrynt Terfyn, ac felly mae
preifatrwydd eisoes wedi'i golli
·
Bod cynyddu dyfnder y feranda yn annhebygol o waethygu'r sefyllfa ac o ganlyniad, roedd o'r farn bod y gwelliant yn dderbyniol.
·
Ei fod yn annog y pwyllgor i dderbyn argymhellion
y swyddogion cynllunio a chaniatáu'r gwelliant ansylweddol
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Bod y
tŷ yn dŷ mawr ar ochr y ffordd fawr
·
Bod
estyniadau eisoes wedi eu caniatáu i’r tŷ ‘amlwg’ yma – wedi cael yn
‘hael’
·
‘Bach’
oedd y newid i fod ar flaen y tŷ, ond bellach mae feranda wedi ei chodi
·
Bod yr addasiad yn un sylweddol - yn agor drysau i
bosibiliadau i’r dyfodol o or- edrych dros eiddo cymdogion
·
Bod
mynediad llwybr troed i’r tŷ wedi ei addasu heb ganiatâd
·
Pa nifer o ychwanegiadau fydd yn cael eu
gwneud heb ganiatâd?
·
Erfyn ar osod amodau clir bod rhaid i do'r
feranda fod yn do crib o lechi fel nad yw’r
ffenestr ganol yn cael ei
throi yn ddrws ar tŷ
yn troi yn
llety gwyliau
·
Os na
chynhwysir yn amodau hyn, gofynnir i’r Pwyllgor wrthod y cais
ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r to crib wedi ei wneud
o lechi gan mai dyma oedd
wedi ei gynnwys
yn y cynlluniau
d) Cynigiwyd gwrthod y cais am y rhesymau canlynol:
·
Bod y
datblygiad yn ormesol
·
Yn
effeithio preifatrwydd cymdogion cyfagos - goredrych
dd) Mewn ymateb i’r
cynnig nododd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol bod y rhesymau gwrthod yn amlygu camddehongliad o’r cais gerbron.
Atgoffwyd yr aelodau mai cais
am ddiwygiad ansylweddol oedd gerbron y Pwyllgor ac nid cais cynllunio
e) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
f) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod y bwriad yn nodi to llechi
- angen sicrhau bod yr ymgeisydd yn
cadw at hyn - posibilrwydd o newid ond angen cadw
llygad.
·
Cadarnhau mai feranda oedd dan sylw
ac nid balconi
ff) Mewn ymateb i sylw
am gadarnhad mai feranda oedd dan
sylw cyfeiriwyd at y cynlluniau ar dudalen
164 o’r rhaglen.
PENDERFYNIAD
Caniatáu
gydag amodau
Diwygiad
Ansylweddol :
Cwblheir
y diwygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar
gynllun rhif 03/DR19, a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 21 Mehefin
2021, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r
cais, os nad oes amod sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad hwn. Er
gwaethaf y diwygiadau a ganiateir drwy hyn rhaid cwblhau gweddill y datblygiad
mewn cydymffurfiad gyda'r manylion ac amodau a gynhwysir o fewn caniatâd
cynllunio rhif C19/0982/42/LL.
Dogfennau ategol: