Estyniad ochr
unllawr
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Gruffydd Williams
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
Gwrthod y
cais yn groes i’r argymhelliad
Cofnod:
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y
cais yn gais llawn i adeiladu estyniad unllawr yn mesur 4.5 medr x
3.6 medr fyddai’n cynnwys ystafell gardd ar fwthyn unllawr wedi ei leoli ar
lethrau Mynydd Nefyn. Nodwyd bod y tai preswyl agosaf dros 40 medr i’r gogledd
a gogledd ddwyrain o’r estyniad bwriededig a bod y cais wedi ei gyflwyno i
Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.
Eglurwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y caniateir
cynigion, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol,
os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys, bod y cynnig
·
yn
ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y
gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r
drychiadau
·
parchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol;
·
defnyddio
deunyddiau sy’n briodol i’r hyn sydd o’u hamgylch ac yn ymgorffori tirlunio
meddal;
·
gwella
rhwydwaith cludiant a chyfathrebu diogel ac integredig;
·
cyfyngu
rhediad dwr a pherygl risg llifogydd ac atal llygredd;
·
cyflawni
dyluniad cynhwysol
·
galluogi
mynediad i bawb
·
helpu creu
amgylcheddau iach a bywiog gan ystyried iechyd a lles defnyddwyr y dyfodol.
Amlygwyd
bod yr estyniad yn cynnwys ystafell gardd gyda ffenestri gwydr sylweddol o
faint a graddfa dderbyniol ac addas ar gyfer y lleoliad. Er bod
y safle yn uchel ar lethrau Mynydd Nefyn gyda golygfeydd dros yr arfordir, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad
yn cael effaith niweidiol sylweddol ar fwynderau a chymeriad yr AHNE cyfagos
oherwydd natur y tirwedd lleol a llys tyfiant o fewn yr ardal leol. Mewn ymateb i wrthwynebiad a dderbyniwyd yn
honni effaith y bwriad ar y bwthyn ynghyd a’r AHNE nodwyd, er bod bwriad
adeiladu’r estyniad o ddeunydd a dyluniad cyfoes, ni fyddai lleoliad yr
estyniad ar dalcen y bwthyn ynghyd a’i faint yn amharu yn sylweddol ar
edrychiad a chymeriad yr eiddo na’r AHNE.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Cais
ydoedd am ystafell ardd fach ar ochr ffrynt Orllewinol y bwthyn.
·
Pwrpas yr
estyniad fyddai darparu lle byw ychwanegol a chael mwy o olau i mewn i'r eiddo.
·
Gan ei fod yn fwthyn bach Cymreig
mae'n eithaf tywyll gyda ffenestri bach iawn yn wynebu'r Gogledd.
·
Trwy agor
pen y talcen a gosod gwydr, y gobaith yw
cael mwy o oleuni i mewn i’r eiddo a chaniatáu iddynt wneud y gorau o'r
golygfeydd hyfryd ar draws Bae Nefyn a Phorthdinllaen.
·
Byddai'r
estyniad ar y talcen yn cael ei adeiladu o wydr yn bennaf, ond defnyddio teils
llechi Cymreig ar y to i gyd-fynd â'r teils presennol gan gadw cymeriad yr
adeiladwaith gwreiddiol.
·
Bod y
cynnig yn unol â chymeriad yr ardal ac yn gynnig cymharol gymedrol o'i gymharu
â llawer o estyniadau tebyg
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Atgoffwyd
yr Aelodau o ofynion statudol gwarchod yr AHNE
·
Bod
bythynnod traddodiadol ar hyd y mynydd
·
Dim angen
gor-ddatblygiadau ar lechweddau’r Mynydd
·
Bod tri
llwybr cyhoeddus yn dod ynghyd ar fuarth yr eiddo
·
Effaith
goleuadau llachar ar statws awyr dywyll – y golau yn tynnu sylw
·
Er o faint
bychan gall amharu yn sylweddol
·
Bod y
bwthyn yn uned gwyliau
·
Erfyn ar y Pwyllgor i wrthod y cais
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais am y
rhesymau canlynol:
·
Angen gwarchod adeiladau traddodiadol
·
Angen ystyried statws awyr dywyll
·
Byddai’r addasiad yn newid cymeriad y
bwthyn - debyg o osod cynsail beryglus
d) Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Rheolwr Cynllunio bod maint
yr estyniad yn ddatblygiad a ellid ei adeiladu heb ganiatâd cynllunio, ond bod
y deunyddiau y bwriedir eu defnyddio (gwydr yn yr achos yma) yn gorfodi cyflwyno
cais gerbron Pwyllgor. O ran materion dylunio a’r effaith ar yr AHNE,
derbyniwyd y rhain fel rhesymau gwrthod teg.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau Swyddog yr AHNE, cadarnhawyd mai
sylwadau’r Swyddog oedd wedi eu cynnwys
ac nid sylwadau’r Cyd bwyllgor AHNE
dd) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Estyniad bychan oedd gerbron
·
Angen ystyried sylwadau proffesiynol
y swyddogion
·
Nad oedd uned gwyliau yn fater
cynllunio
·
Derbyn yr angen am fwy o oleuni mewn
tŷ tywyll
·
Bod angen defnyddio amodau cynllunio
a rheolau cynllunio i reoli’r bwriad
·
Bod dyletswydd o warchod ‘golwg
traddodiadol y tŷ’ i’r dyfodol
·
Bod talcen y tŷ i’w weld yn glir
o Nefyn
·
Ni fyddai’n cyd-fynd a gweddill y tai
sydd ar Fynydd Nefyn
·
Bydd yr estyniad yn ymddangos fel
‘bwlb’ - yn cael ei weld o bob cyfeiriad
·
Bydd talcen o wydr yn estronol - yn
sefyll allan gan greu effaith ar yr awyr dywyll
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â’r angen am ganiatâd ar gyfer stafell haul o gerrig
a tho gwydr, nodwyd na fyddai angen caniatâd ar gyfer maint yr ystafell ac un o
wneuthuriad gorffenedig rendr i gadw edrychiad y tŷ presennol, ond byddai
angen caniatad cynllunio ar gyfer un o wneuthuriad gwydr.
PENDERFYNIAD
Gwrthod
y cais yn groes i’r argymhelliad
• Dyluniad a deunyddiau'r estyniad yn
estronol
• Effaith ar yr AHNE a Statws Awyr
Dywyll
Dogfennau ategol: