Agenda item

I Ddiweddaru’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd a chychwynnwyd drwy atgoffa’r Pwyllgor o brif faterion ynghylch cludiant cyhoeddus sef y gost, gorddibyniaeth ar rhai cwmnïau penodol, a gorddibyniaeth pobl ar fysiau. Pwysleisiwyd bod y rhwydwaith bysiau wedi datblygu yn ddiweddar ac ategwyd bod anghenion trigolion wedi newid o ganlyniad i newid arferion dros y cyfnod pandemig.

Trafodwyd y prif faterion yr ystyriwyd wrth greu’r adolygiad strategol dan sylw, gan gynnwys y canlynol:

- Adnabod yr angen sydd ym mhob cymuned gan fod rhai yn hollol ddibynnol ar deithiau penodol er mwyn cyfarch eu hanghenion sylfaenol.

- Y gwaith ymgysylltu sydd wedi digwydd yn lleol er mwyn defnyddio’r ymatebion i adnabod yr angen.

- Adnabod beth yw’r gwerth cymdeithasol buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

- Atgoffwyd bod sefyllfa Gwynedd fel ardal fwy gwledig yn creu fwy o heriau ynghylch anghenion trafnidiaeth.

- Trafodwyd yr her o ysgogi defnyddwyr i deithio ar fysiau unwaith eto ar ôl cyfnod o ddefnydd isel.

Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

- Diolchwyd am y wybodaeth ddefnyddiol o fewn yr adroddiad a nodwyd bod colli gwasanaeth mewn rhai cymunedau wedi bod yn ergyd gan fod llawer o bobl eu hangen ar gyfer ymweld â’r deintydd neu feddyg.

- Cynigwyd bod angen edrych ar amserlen y bysiau er enghraifft cynnig gwasanaeth cynharach er mwyn defnyddio at ddibenion gwaith neu addysg.

- Gofynnwyd am eglurder o ran y wybodaeth ar dudalen 33 o’r rhaglen am Wasanaeth Rhif 14 yn adroddiad y Brifysgol.

- Holwyd a oes trafodaethau ynghylch y bysiau wennol gan eu bod yn darfod yn gynnar, a byddai teithiau hwyrach yn fantais i bentrefi a threfi elwa o ymwelwyr.

- Ategwyd y byddai bysiau hwyrach yn galluogi pobl parcio yng Nghaernarfon a theithio i Eryri yn hytrach na pharcio ger y mynyddoedd.

- Holwyd a ydi’r amserlen yn adlewyrchu angen presennol y bobl leol gan fod bysiau yn

pasio’n hanner gwag.

- Ategwyd bod angen ysgogi hen ddefnyddwyr i ddychwelyd yn ôl i ddefnyddio’r bysiau gan fod gwerth cymdeithasol uchel i bobl fynd i siopa a theithiau tebyg.

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, nododd y Pennaeth Adran Amgylchedd y canlynol:-

- Bod yr adran yn ceisio pwyso ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu hamserlenni fodd bynnag maent yn awyddus bod yna daith eithaf sydyn drwy Gymru.

- Nododd bod awgrym i’r Llywodraeth Cymru bod bob yn ail daith y gwasanaeth T2 yn mynd i mewn i gymunedau a’r gweddill yn fwy uniongyrchol drwy Gymru.

- Eglurodd bod adran newid hinsawdd wedi ei sefydlu o fewn y Llywodraeth a’u bod yn canolbwyntio ar gludiant cyhoeddus a threnau bysiau er mwyn lleihau ôl troed carbon.

- Byddai’n cysylltu gyda’r aelod o ran y wybodaeth am Wasanaeth Rhif 14.

- Mewn perthynas â’r sefyllfa parcio ar gyfer ymweld ag Eryri, nododd bod gwaith yn digwydd ar y cyd efo Parc Cenedlaethol er mwyn edrych ar ddatrysiadau i leihau’r defnydd o drafnidiaeth bersonol.

- Cytunwyd bod angen diwygio’r amserlen fel bod teithiau hwyrach a chynt yn digwydd.

- Nododd mai sylfaen y gwaith sydd gerbron y pwyllgor heddiw yw archwilio a yw’r gwasanaeth presennol yn addas i bwrpas ac yn cyfarch anghenion y defnyddwyr.

- Ategodd bod angen cynllunio ar gyfer yr holl ddefnyddwyr er bod anghenion pawb yn wahanol.

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

Dogfennau ategol: