Cyflwynwyd gan:Cyng. Catrin Wager
Penderfyniad:
Cymeradwywyd cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus
mewn perthynas â rheoli cŵn ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig
a atodir ar y sail eu bod yn fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.
Cymeradwywyd costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â
£67,620 o gyllideb refeniw ychwanegol un
tro eleni o’r Gronfa Trawsffurfio.
Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r gweithrediad yn cyfarch
blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw
parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.
Awdurdodwyd y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd
â chyflwyno’r GDMC.
COFNODION:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Catrin Wager.
PENDERFYNWYD
Cymeradwywyd
cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn perthynas â rheoli cŵn
ledled y sir yn unol â’r Gorchymyn Arfaethedig a atodir ar y sail eu bod yn
fodlon bydd y prawf o dan adran 59 o’r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol,
Troseddu a Phlismona 2014 wedi ei gwrdd.
Cymeradwywyd
costau un tro o £30,500 i gyflwyno GDMC, ynghyd â £67,620 o
gyllideb refeniw ychwanegol un tro eleni o’r Gronfa
Trawsffurfio. Hefyd, cadarnhau'r flaenoriaeth gan fyddai’r
gweithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl Gwynedd a rhagfarnu 'bid'
am £75,620
o gyllideb refeniw parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.
Awdurdodwyd y
Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i ymgymryd â chyflwyno’r GDMC.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi yn ôl ym mis ai y bu i’r Cabinet gytuno i fynd i
ymgynghoriad statudol ar y broseso o gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau
Cyhoeddus mewn perthynas o rheoli cŵn. Eglurwyd bellach fod yr
ymgynghoriad wedi cau ac fod dros 1300 o ymatebion wedi eu derbyn. Diolchwyd i
bob unigolyn a gymerodd amser i ymateb a bod yn rhan o’r ymgynghoriad. Tynnwyd
sylw at y prif sylwadau o’r ymgynghoriad a oedd yn cynnwys 95% o blaid gwahardd
cŵn o lefydd chwarae plant, 93% o blaid gwahardd cŵn o feysydd
chwarae a 99% yn credo y dylai perchnogion lanhau ar ôl i’w ci faeddu mewn
mannau cyhoeddus, a’i waredu mewn ffordd gyfrifol.
Eglurwyd
mai cais i symud ymlaen gyda cyflwyno y GDMC oedd yr adroddiad hwn ond eglurwyd
fod yr adran yn awyddus i fynd gam ymhellach. Amlygwyd fod yr ymgynghoriad wedi
amlygu fod 80% o’r ymatebwyr yn credu fod baw ci yn broblem o fewn eu cymunedau
ac eglurwyd fod hyn yn tystiolaethu beth mae mwyafrif o Gynghorwyd yn clywed ar
lawr gwlad. Pwysleisiwyd yr angen i weithredu felly eglurwyd fod yr adroddiad
yn gofyn am adnoddau ychwanegol i wella arwyddion, darparu mwy o finiau ac i
benodi dau swyddog a fydd yn cael ei cyflogi i fynd i wraidd y broblem.
Eglurwyd fod rhain ym awgrymiadau gan drigolion ac felly fod yr ymgynghoriad
wedi cynorthwyo i lunio’r rhaglen waith.
Nododd y
Rheolwr Gwasanaethau Stryd fod baw ci yn broblem Genedlaethol ac y bydd llawer
o waith yn cael ei wneud ar godi ymwybyddiaeth yn benodol ym mis Hydref.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
¾
Datganwyd gefnogaeth i’r adroddiad gan amlygu fod y problem wedi cynyddu yn
ystod y cyfnod clo. Amlygwyd fod yr adroddiad yn amlygu 10 cynghorydd a
ymatebodd i’r ymgynghoriad, nodwyd eu bod yn gobeithio fod y niferoedd yn uwch
ond heb glicio’r bocs cynghorydd.
¾
Pwysleisiwyd mai problem perchnogion anghyfrifol ydi hwn ac nid y cŵn
nac y Cyngor ond unigolion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid.
¾
Holwyd sut mae’r adran am ddal yr unigolion, eglurwyd y bydd y swyddogion
yn mynd allan i’r cymunedau tu hwnt i oriau arferol gwaith, pwysleisiwyd yn
ogystal bwysigrwydd newid ymddygiad drwy ymgyrchoedd gyda mudiadau megis Cadw
Cymru’n Daclus. Eglurwyd y bydd yn anodd ond nodwyd fod yr adran yn ffyddiog y
byddant yn llwyddiannus dwy adnodd ychwanegol a fydd yn defnyddio cyfuniad o
wahanol dechnegau.
¾
Mewn ymateb i gwestiwn am ddefnyddio camerâu mynegwyd fod camerâu personol
wedi cael eu defnyddio mewn rhai achosion ac fod modd gosod camerâu os
unigolion yn mynd a’i cŵn i’r un lle bob tro.
¾
Nodwyd fod y bid hwn am arian yn
flaenoriaeth gan fod y weithrediad yn cyfarch blaenoriaethau pobl
Gwynedd a rhag ddyfarnwyd y 'bid' am £75,620 o gyllideb refeniw
parhaol ychwanegol yng nghyllideb 2022/23.
Awdur:Steffan Jones
Dogfennau ategol: