Agenda item

Talybont Uchaf Farm, Talybont, Bangor, Gwynedd  LL57 3YW.

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Gohirio gwneud penderfyniad llawn ar y cais hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno a derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo fel a ragwelir gan y cais trwydded eiddo.

 

Os a phan  bydd caniatâd cynllunio priodol, bydd yr Is-bwyllgor hwn yn ailymgynnull i ystyried y cais ymhellach, yn ogystal â gwneud penderfyniad llawn

 

Cofnod:

CAIS AM DRWYDDED EIDDO – TALYBONT UCHAF FARM, TALYBONT, BANGOR

 

Ymgeisydd                 Simon a Caroline Higham

 

Aelod Lleol                Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Preswylwyr Lleol      Liz Watkins, Meinir Jones, David Pritchard, Grace Crowe, Peter Green, Geraint Hughes a Jên Morris

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Nigel Pegler, Haf Jones a Tina Moorcroft (preswylwyr lleol) ac Aneurin Rhys (Swyddog Rheolaeth Datblygu - Gwasanaeth Cynllunio)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer adeilad rhestredig gradd 2 sydd wedi ei drawsnewid i gynnwys buarth, ystafell barti a man adloniant dan do. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol ar yr eiddo yn unig; cerddoriaeth byw ac wedi recordio, ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos oedd yn berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a phryderon o gynnydd sylweddol mewn traffig ar y ffordd oedd yn arwain at yr eiddo

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn caniatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadauôGwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeiswyr:

·      Mai’r bwriad oedd creu man cyfarfod (venue) fyddai’n cynnig digwyddiadau unigryw, moethus  safonol gyda lle i aros

·      Nad oes eiddo o’i fath yn lleol – nid yw’n cynnig yr un gwasanaeth a Hendre Hall

·      Buasai’n rhoi sicrwydd busnes i gwmnïau lleol e.e., glanhawyr, siopau blodau

·      Bod dwy lôn yn arwain at yr eiddo gyda bwriad cyfeirio traffig i ddefnyddio un lôn yn benodol. Y ffordd benodol yma yn addas gyda mannau pasio gydag arwyddion a chyfarwyddiadau yn cael eu rhannu gydag ymwelwyr i hyrwyddo’r defnydd

·      Eu bod yn byw yn yr eiddo gyda theulu ifanc - dim eisiau ysgogi problemau sŵn

·      Eu bod eisiau cydweithio gyda’r gymuned

·      Eu bod wedi gwahodd y preswylwyr cyfagos i fynychu cyfarfod  i rannu gwybodaeth am y bwriad ond neb wedi troi fyny

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amlder derbyn hyd ar 150 o bobl ar y safle, nodwyd nad oeddynt yn gwybod beth fydd y galw, ond yn rhagweld cynnal hyd at 15 priodas mewn blwyddyn ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Yr Aelod Lleol: Cynghorydd Dafydd Meurig

·      Bod teimladau lleol cryf yn erbyn y cais

·      Byddai sŵn yn aflonyddu bywydau pob dydd cymdogion lleol a thrafnidiaeth ychwanegol yn creu problemau - trafnidiaeth i’r eiddo eisoes wedi cynyddu ers i fusnes trwsio peiriannau cychod sefydlu ar y safle

·      Bod dwy lôn i’r safle ond bod y lôn fwyaf cyfleus/ dewisol yn gul iawn

·      Bod angen gwirio os oedd caniatâd cynllunio ar gyfer y gweithgaredd – caniatâd eisoes ar gyfer Gwely a Brecwast ond y fenter yma yn sylweddol fwy

·      Nad oedd gan y cwmni barch at drigolion lleol

·      Bod sŵn eisoes yn treiddio o Hendre Hall sydd wedi ei leoli ochr draw i’r A55 - byddai’r fenter yma yn creu'r un math o sŵn

·      Apelio i’r Is-bwyllgor ohirio gwneud penderfyniad hyd nes bydd caniatâd cynllunio yn cael ei ystyried

 

            Liz Watkin

·         Ei bod wedi gweld cynnydd traffig sylweddol ar y lôn ers iddi ymgartrefu yn yr ardal yn 1992 -  y lôn yn gul iawn gyda chorneli cudd

·         Byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at gynnydd pellach mewn traffig

·         Nad oedd palmant na golau stryd ar hyd y  lôn. Y gwrychoedd yn uchel

·         Nad oedd rhagrybudd o’r cais wedi ei rannu na bwriad y defnydd wedi ei arddangos mewn lle cyhoeddus

·         Bod gweinyddu alcohol hwyr yn y nos yn debygol o arwain at ddamweiniau

 

Meinir Jones

·         Bod y cais yn amlygu amharch llwyr tuag at y gymuned - mwyafrif o’r preswylwyr cyfagos wedi gwrthwynebu

·         Bod anerchiad yr ymgeisydd yn anghywir - nid yw’r lôn yn addas. Y lôn yn lôn wledig gul gydag un man pasio ‘swyddogol’ - mynedfeydd i gaeau yw’r gweddill.

·         Nad yw gosod arwyddion yn lleddfu’r broblem - nid yw’r arwyddion yn effeithiol - rhaid ystyried diogelwch y gymuned

·         Bod cynnydd sylweddol mewn traffig oherwydd datblygiadau diweddar – hyn yn achosi niwsans cyhoeddus

·         Loriau danfoniadau i’r busnesau yn cau'r ffordd ar adegau ac yn malu coed

·         Methu mwynhau mynd am dro gyda beic na phram oherwydd y traffig. Byddai caniatáu’r drwydded ar gyfer cynnal digwyddiadau ar y penwythnos yn gwneud hi’n amhosib i rywun gerdded ar hyd y ffordd ar unrhyw adeg – dydd a nos

·         Busnes yw unig flaenoriaeth yr ymgeisydd - erfyn ar yr Is-bwyllgor i flaenoriaethu diogelwch cymunedol.

 

Dafydd Pritchard

·         Sŵn eisoes yn cario o Hendre Hall – byddai caniatáu’r drwydded yn arwain at greu mwy o sŵn o safle Fferm Talybont

·         Y mesuriadau sŵn a gyflwynwyd yn gamarweiniol – angen mesur sŵn pobl ac nid sŵn natur a pheiriannau

·         Rhybudd wedi ei osod y funud olaf ar giât - hyn yn amheus iawn

 

Peter Green a Grace Crowe

·         Byddai caniatáu'r drwydded yn uchafu traffig a sŵn

·         Bod mynediad i’r eiddo ar hyd lôn gul iawn

·         Wedi byw yn yr ardal ers 1999 - ardal a oedd yn llonydd a thawel hyd ddyfodiad busnes trwsio cychod a busnes gwely a brecwast Fferm Talybont. Byddai cynnig priodasau yn gam rhy bell

·         Y traffig yn pasio eu tŷ - nid yw’r lôn ddewisol yn ymarferol - dim mannau pasio

·         Bod traffig cyfredol i’r busnesau yn anwybyddu arwyddion a chanllawiau defnyddio’r lôn a argymhellir - yn annhebygol o gymryd y lôn anuniongyrchol

·         Byddai caniatáu cerddoriaeth tu allan yn ychwanegu at gerddoriaeth sydd eisoes yn cario o Hendre Hall – sŵn dyrnu ac ail adroddus – nid yw cynnig gwneud rhywbeth yn wrthsain yn gwbl bosibl

·         Nad oedd y prawf mesur sŵn a gynhaliwyd yn ddigon trylwyr – nid oes ystyriaeth i gerddoriaeth ac fe’i cymerwyd ar amser tawel o’r diwrnod.

 

Geraint Hughes

·         Yr ardal yn ardal braf – derbyn hynny a bod angen ‘dathlu hynny’

·         Tystiolaeth barn sydd yma – siomedig gydag argymhelliad y Rheolwr Trwyddedu. Angen ystyried tystiolaeth preswylwyr hefyd

·         Ffawd oedd gweld y rhybudd a oedd wedi ei osod ar giât ar lôn breifat – nid mewn man cyhoeddus

·         Sail gwrthod y cais fyddai cynnydd mewn sŵn a thraffig - angen diystyru adroddiad mesur sŵn - nid yw’n adroddiad annibynnol

·         Bydd cynnydd sylweddol mewn traffig yn ystod y nos ac ar y penwythnosau (dyma’r unig gyfnodau tawel ar hyn o bryd)

·         Debyg bydd mwy na 15 priodas mewn blwyddyn

·         Adran Priffyrdd heb wrthwynebu cais cynllunio diweddar ar gyfer y busnes cychod ond gwnaed addewidion yn y cyfnod hwnnw gan yr ymgeisydd i gyfeirio traffig - nid yw hyn wedi digwydd

·         Llawer o yrwyr yn mynd ar goll wrth geisio cyrraedd y safle ac felly’n gorfod eu hail gyfeirio. O ganlyniad, defnyddir mynedfa ei eiddo i droi - hyn yn niwsans cyhoeddus

·         Byddai caniatáu y cais yn newid cymeriad yr ardal

·         Angen cyfiawnder i drigolion

 

Jên Morris

Nifer wedi cysylltu gyda Chyngor Cymuned yn amlygu pryderon:

·         Yr effaith bydd y bwriad diweddaraf yn cael arnynt

·         A oes caniatâd cynllunio priodol ar gyfer y bwriad?

·         Natur y drafnidiaeth i’r eiddo - faniau a lorïau danfoniadau

·         Natur pobl ddieithr i’r ardal yn ymddwyn yn wahanol – diffyg parch at gefn gwlad

 

Yn manteisio ar y cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeiswyr y pwyntiau canlynol:

·         Eu bod yn derbyn sylwadau ac adborth y trigolion ac yn ategu eu dymuniad i gydweithio gyda’r gymuned leol i leddfu problemau traffig ac aflonyddwch

·         Eu bod wedi creu grŵp whatsapp i rannu gwybodaeth a chyfeirio traffig – hyn wedi lleihau’r broblem, ond eu bod yn addo gwneud mwy

·         Bod bwriad creu lleoliad cyfeillgar (intimate) a phreifat

·         Yn byw ar y safle ac felly yn bresennol i reoli'r safle drwy’r amser - yn ystyried lles eu teulu a’r gymuned

·         Bod yr adroddiad mesur sŵn a gyflwynwyd wedi ei gwblhau ar gyfer y busnes trwsio cychod - ystyriwyd bod sŵn peiriant cwch yn gymhariaeth dda gyda sŵn band byw

·         Eu bod eisiau bod yn rhan o’r gymuned ac felly yn parchu pob sylw

 

Ymneilltuodd yr ymgeiswyr, yr ymgynghorwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD

 

Gohirio gwneud penderfyniad llawn ar y cais hyd nes bydd yr ymgeisydd wedi cyflwyno a derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo fel y rhagwelir gan y cais trwydded eiddo. Os a phan fydd caniatâd cynllunio priodol, bydd yr Is-bwyllgor hwn yn ailymgynnull i ystyried y cais ymhellach, yn ogystal â gwneud penderfyniad llawn

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth i law i’r graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r canlynol.

 

Derbyniwyd sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd, nifer ohonynt yn breswylwyr cyfagos, yn gwrthwynebu’r cais gan gyfeirio at yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch cyhoeddus. Yn gryno, mynegwyd pryderon y byddai caniatáu’r drwydded yn debygol o arwain at gynnydd mewn sŵn a phroblemau traffig. Er sylw, ni chyflwynwyd gwrthwynebiadau gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub, Adran  Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor nac Adran Priffyrdd y Cyngor.

 

Wrth ystyried y sylwadau, daeth i’r amlwg bod pryderon difrifol am ddiogelwch y ffordd. Y pryderon yn cyfeirio yn benodol at y ffaith bod y lôn sydd yn arwain i’r eiddo yn gul, gyda llefydd pasio cyfyngedig, heb balmant, heb olau stryd ac yn gwasanaethu tai eraill. Daeth hefyd i’r amlwg nad oedd gan yr eiddo dan sylw ganiatâd cynllunio priodol ar gyfer defnydd bwriedig yr eiddo.

 

Dymuniad yr Is-bwyllgor oedd gofyn i’r ymgeisydd wneud cais am ganiatâd cynllunio priodol gan ystyried canlyniad y broses honno cyn gwneud penderfyniad ar gais am drwydded eiddo. Amlygwyd mai'r rheswm dros hyn oedd bod y broses cynllunio yn fodd o asesu yn  fanwl goblygiadau diogelwch ffordd fyddai’n codi o ddefnydd bwriedig yr eiddo. Byddai cael penderfyniad ar ddiogelwch y ffordd yn deillio o ganiatâd cynllunio yn cynorthwyo’r Is-bwyllgor i ddod i benderfyniad cadarn, ar sail tystiolaeth, bod y cais yn gydnaws â’r amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus.

 

Am y rhesymau hyn, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y byddai’n gynamserol gwneud penderfyniad llawn ar y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr, gan nad oedd yr  Awdurdod Trwyddedu wedi pennu’r cais, nid oedd hawl gwneud apêl i’r Llys Ynadon.

 

 

Dogfennau ategol: