Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18 mis diwethaf.

 

Cofnod:

Croesawyd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i gyd-swyddogion, swyddogion yr Adran Addysg a Phennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol Talsarnau, Pennaeth Ysgol Botwnnog a Phennaeth Ysgol Pendalar i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn cyflwyno gwybodaeth i’r pwyllgor craffu ar y Gagendor Lles a Chyrhaeddiad, gan gynnwys:-

 

·         Effaith Covid ar addysg yr holl ddisgyblion;

·         Pa gynlluniau sydd gan ysgolion o ran llesiant yr holl ddisgyblion

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy nodi:-

 

·         Er bod y gagendor lles a chyrhaeddiad wedi gwaethygu efallai yn ystod y pandemig, bod angen cydnabod bod y problemau hyn wedi bodoli ers rhai blynyddoedd.

·         Bod presenoldeb swyddogion GwE yn y cyfarfod hwn yn tanlinellu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gyda GwE, a bod hyn yn ein galluogi i ymateb yn bositif i’r broblem ddyrys yma.

·         Ei fod yn awyddus i’r pwyllgor gael darlun drwy lygaid gweithwyr rheng flaen, a’i fod felly’n hynod ddiolchgar bod cynrychiolwyr o’r uwchradd, y cynradd ac arbennig yn y cyfarfod i rannu eu profiadau.

 

Ategwyd sylwadau’r Aelod Cabinet gan y Pennaeth Addysg, a nododd ymhellach:-

 

·         Bod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’r ysgolion, a bod yr Awdurdod, GwE, yr ysgolion a phartneriaid eraill wedi cydweithio’n agos iawn er mwyn lleihau’r problemau i’r graddau mwyaf oedd yn bosib’.

·         Bod adroddiad Estyn ynghylch i ba raddau roedd yr Awdurdod wedi bod yn llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr yn ystod y cyfnod yma yn adroddiad clodwiw, a’i fod yn ymwybodol bod Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a’i dîm hefyd wedi derbyn adroddiad yr un mor ganmoliaethus ar eu gwaith hwy yn ystod y cyfnod hwn, oedd eto’n amlygu’r cydweithio rhyngddynt.

 

Gosododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y cyd-destun i’r Strategaeth Adnewyddu a Diwygio, sy’n cefnogi lles a dysgu’r disgyblion ar draws Gogledd Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar Wynedd.

 

Yna derbyniwyd cyfres o gyflwyniadau gan swyddogion GwE, fel a ganlyn:-

 

·         Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) – prif benawdau’r Strategaeth (Atodiad 1)

·         Uwch Arweinydd – Uwchradd – blas o’r gwaith ymgysylltu gyda’r ysgolion i ddal cynnydd ac effaith y gweithredu sydd wedi bod hyd yma (Atodiad 2)

·         Arweinyddion Craidd – Cynradd / Uwchradd – diweddariad ar y defnydd a’r effaith o’r Grant Cyflymu’r Dysgu (Atodiad 4)

 

Nododd aelod mai un sgil-effaith o’r cyfnod Covid yw’r diffyg cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer a siarad ar lafar gyda’i gilydd, a bod y cyfeiriad yn y papurau at ‘ailgodi’ sgiliau llafar a thrafod Cymraeg yn tanlinellu bod rhywbeth wedi syrthio.  O gofio mai prif bwrpas y Siarter Iaith yw hybu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg, holwyd beth fyddai rôl y Siarter Iaith yn y cyfnod hwn wrth geisio cyflymu’r dysgu, a pham nad oedd cyfeiriad penodol at waith allweddol y Siarter Iaith yn yr adroddiad cyflymu dysgu?  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad hwn yn cyfeirio at ffocws y grant yn benodol.  Yn dilyn cyflwyniadau GwE, byddai swyddogion yr Awdurdod yn ymhelaethu ar y gwaith partneriaethol sydd wedi digwydd rhwng yr Awdurdod a GwE, a byddai cyflwyniad Swyddog Addysg Uwchradd Gwynedd yn manylu ar ddylanwad y Siarter Iaith.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Uwchradd Gwynedd ar effaith y cyfnod Covid ar y Gymraeg mewn ysgolion.  Mewn ymateb i’r cwestiwn penodol a godwyd ynghylch y Siarter Iaith, eglurodd:-

 

·         Yr edrychwyd ar raglen waith y Cydlynydd Siarter Iaith a Chydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd y sir, a chefnogwyd ysgolion i weithredu prif flaenoriaethau’r Siarter Iaith drwy raglen waith y cydlynwyr hyn.

·         Wrth ail-ddiffinio rolau a chynlluniau gwaith y cydlynwyr iaith ym mhob dalgylch o’r sir, a sicrhau bod y Cydlynydd Siarter Iaith a’r Cydlynydd Strategaeth Iaith yn eu cefnogi fel rheolwyr llinell, llwyddwyd i sicrhau parhad yng nghyfrwng addysg Gymraeg wrth i ddisgyblion drosglwyddo yn ôl i’r ysgolion yn dilyn y cyfnod clo, a hefyd wrth iddynt drosglwyddo o’r cynradd i’r uwchradd.

·         Y sicrhawyd hefyd bod holl gynlluniau clwstwr y Gymraeg, sy’n ymateb i grant y Gymraeg, yn cyd-fynd gyda deilliannau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir.

·         Y cryfhawyd cydweithio rhwng y cynradd a’r uwchradd er mwyn sicrhau’r parhad ieithyddol, gan hefyd ymateb i anghenion lleol fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion Gwynedd gael defnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol, a thrwy hynny gynyddu’r ganran o blant cynradd ac uwchradd sy’n hyderus i wneud defnydd o’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

 

Cyfeiriodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE at y cynllun ‘Ein Llais Ni’, sy’n rhoi cyfle i ysgolion gydweithio â Phrifysgol Bangor a GwE i hyrwyddo sgiliau llafaredd dysgwyr, gan nodi y byddai’n falch o adrodd yn ôl i’r pwyllgor ar yr union bwynt a godwyd ar ôl i’r cynllun gael cyfle i wreiddio.  

 

Holodd aelod a oedd y strategaethau a’r camau y cyfeiriwyd atynt yn y cyflwyniadau yn gweithio fel y dylent, ac yn gwneud gwahaniaeth, ar draws Gwynedd.  Mewn ymateb, eglurwyd:-

 

·         Bod symudiad wedi bod yn rhanbarthol yn lled ddiweddar ynghylch y cynllun yma, o ran cefnogaeth wahanol i ysgolion, a bod hynny wedi gorfod digwydd yn sgil yr hyn a ddysgwyd drwy Covid.

·         Mai’r drydedd goes oedd yr ysgolion, a’u parodrwydd a’u gallu i gydweithio.

·         Bod gwaith da iawn yn mynd ymlaen, nid yn unig ar lefel sirol, ond ar lefel dalgylch hefyd, sy’n cael ei arwain gan yr Awdurdod a swyddogion GwE.  Roedd cyfarfodydd cyson yn cael eu cynnal ynghylch ansawdd y ddarpariaeth i’r ysgolion a’r gefnogaeth, a hefyd i asesu i ba raddau mae hynny yn ei dro yn dangos cynnydd priodol.

·         Credid ei bod yn ddyddiau cynnar, os nad yn gynamserol, i fod yn pwyso a mesur pa mor effeithiol ydi hynny ar hyn o bryd, ond roedd yr ysgolion, oherwydd sefyllfaoedd lleol, a’r graddau y mae Covid wedi amharu ar eu gallu i weithredu ar ryw lefel o normalrwydd, yn amrywio yn ôl y cyd-destun.  Fodd bynnag, at ei gilydd, roedd wedi cael derbyniad da gan yr ysgolion.  Roedd y cydweithio’n dda ac roedd effaith y gwaith yma i’w weld yn gynyddol wrth symud ymlaen.

·         Yn naturiol, roedd yn mynd i fod yn heriol ar hyn o bryd i ysgolion ymdopi yn llawn ar y parhad yma yng nghyd-destun y daith wella, ond roedd yn ofyn arnom i gyd fod yn gwneud hynny.  Gobeithid bod hynny’n cael ei wneud mewn modd sensitif a rhesymol, a chredid ein bod yn cefnogi ein hysgolion hyd eithaf ein gallu, gan gymryd y cyd-destun lleol i ystyriaeth.

 

Nododd aelod na ellid bod yn siŵr beth fydd effaith y cynlluniau yma, gan ei bod yn ddyddiau cynnar, ac edrychid ymlaen at gael adroddiad ar hynny.  Nododd hefyd fod athrawon y sir wedi gwneud gwaith gwyrthiol ac arwrol dros y 18 mis diwethaf, gan roi lles y plant o flaen eu lles eu hunain, ac y dylid mynegi diolchiadau’r pwyllgor iddynt am eu holl waith.

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan Swyddog Addysg Ardal Meirion / Dwyfor ar y Strategaeth Addysg Ddigidol (tudalen 241 o’r rhaglen).

 

Nododd aelod fod yr ysgolion a’r Awdurdod i’w llongyfarch am y ffordd y bu iddynt ymateb i’r her drwy ddarparu dyfeisiadau ar gyfer dysgu o gartref yn ystod y cyfnod clo, ac edrychid ymlaen at dderbyn adroddiad pellach ar y Strategaeth maes o law.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, nododd Swyddog Addysg Ardal Meirion / Dwyfor, er ei bod yn dechnegol bosib’ i’r ysgolion ail-fenthyg dyfeisiadau i blant sydd gartref o’r ysgol yn dioddef o Covid, neu’n hunan-ynysu, bod her mewn rhai cartrefi lle nad oes cysylltiad digon sydyn i fand llydan, neu ddim cysylltiad we o gwbl.  Hefyd, er y byddai modd i blentyn sydd gartref gael mynediad i waith dosbarth sy’n disgyn i mewn i’r model dysgu cyfunol, nid oedd yn bosib’ gwneud popeth dros y cyfrwng digidol, oherwydd y pwysau fyddai hynny’n ei roi ar yr athrawon.  Nodwyd hefyd bod cyflenwad o ddyfeisiadau MiFi ar gael petai’r angen i ddysgu o bell yn codi eto. 

 

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cynorthwyol ADY a Chynhwysiad ar effaith y cyfnod Covid ar y gwasanaeth ADY a CH (tudalen 242 o’r rhaglen)

 

Nodwyd bod pryder ym meddyliau plant ynglŷn â chymysgu a mynd yn ôl i’r ysgol a phwysleisiwyd pwysigrwydd bod yn effro i sut mae’r plant yn teimlo’n ddyddiol.

 

Nododd y Pennaeth Addysg y gwahoddwyd cyflwyniadau gan 3 phennaeth, yn cynrychioli’r proffesiwn i gyd, fel bod modd i aelodau’r pwyllgor glywed o’r rheng-flaen am yr heriau mae’r ysgolion wedi, ac yn parhau, i wynebu.  Diolchodd i’r 3 am roi o’u hamser prin i ddod i annerch yr aelodau, ac i holl benaethiaid y sir am y gwaith maent wedi gwneud, ac yn parhau i’w wneud, dan amgylchiadau heriol ofnadwy.

 

Derbyniwyd cyflwyniadau gan yr isod:-

 

·         Pennaeth Ysgol Cefn Coch ac Ysgol Talsarnau (cynradd)

·         Pennaeth Ysgol Botwnnog (uwchradd)

·         Pennaeth Ysgol Pendalar (arbennig)

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r penaethiaid am eu cyflwyniadau, gan nodi bod clywed o’r rheng-flaen wedi bod yn agoriad llygaid i’r aelodau, ac wedi amlygu pa mor bwysig yw gwrando ar leisiau pobl o’r tu allan.  Ychwanegodd y gallai’r pwyllgor roi sylw i graffu rhai o’r materion a godwyd fel mae’r blynyddoedd yn mynd yn eu blaenau.   Awgrymodd hefyd y byddai wedi bod yn fuddiol petai’r pwyllgor wedi derbyn y cyflwyniadau hyn ar gychwyn, yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfarfod.  Nododd ymhellach ei bod yn falch o glywed bod y penaethiaid yn derbyn cefnogaeth gan yr Awdurdod, a diolchodd i holl staff yr ysgolion am eu holl waith er lles plant y sir.

 

Yn ystod y drafodaeth yn dilyn y cyflwyniadau, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-

 

·         Diolchwyd i’r penaethiaid am fod mor onest ynglŷn â’r heriau.

·         Diolchwyd i’r Awdurdod ac i GwE am y cydweithio clir, a’r arweiniad clir a doeth i ysgolion yn ystod y cyfnod anodd hwn.

·         Awgrymwyd y dylai’r Cyngor llawn glywed cyflwyniadau’r 3 phennaeth yn y dyfodol agos, fel bod pob cynghorydd yn deall beth sydd wedi bod yn digwydd, sut mae’r staff wedi gweithio mor galed drwy hyn, a beth yw’r heriau sy’n wynebu ysgolion i’r dyfodol.  Mewn ymateb, nododd y Cadeirydd y gellid edrych ar y posibilrwydd o roi’r cyflwyniadau i’r cynghorwyr i gyd.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â pha gefnogaeth ariannol fydd ar gael i’r ysgolion yn y dyfodol, a phwysleisiwyd yr angen i gydweithio i sicrhau bod yr ysgolion yn cael y gefnogaeth maent yn ei haeddu i’r dyfodol.

·         Nodwyd mai’r garfan sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y pandemig ydi’r bobl ifanc, a’u bod wedi eu hamddifadu o ran allweddol o’u magwraeth ac o’u cysylltiadau â phobl eraill.

·         Nodwyd, er bod y We wedi bod yn fendith i gysylltu’r hefo’r disgyblion, ac i’r disgyblion gyfathrebu â’u cyfoedion, nad oedd cysylltu ar y We yn brofiad braf bob amser, a holwyd a welwyd cynnydd sylweddol yn y materion hynny ers y cyfnod clo?  Mewn ymateb, nodwyd na welwyd cynnydd yn y problemau o ran rhwydweithiau cymdeithasol, a bod y broblem wedi tawelu rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf wrth i bawb ddod yn fwy hyddysg o ran gwybod sut i’w ddefnyddio’n ddoeth.  O ran y defnydd ohono ar gyfer dysgu, roedd Hwb yn creu sefyllfa eithaf diogel ar gyfer y disgyblion o ran y dysgu ar-lein a’r cydweithio rhwng yr athrawon a’r disgyblion, a’r disgyblion â’i gilydd.

·         Nodwyd na ellid gor-bwysleisio ymdrech y darparwyr addysg a’r staff, ac y byddai’n rhaid parhau i roi cefnogaeth iddynt i’r dyfodol, gan nad ydw’r pandemig drosodd.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd yr Aelod Cabinet fod gwahodd cynrychiolwyr o’r rheng-flaen i annerch y craffwyr wedi bod yn ddatblygiad newydd yn y pwyllgor hwn, a’i fod yn awyddus i ymestyn hynny, gan gymryd i ystyriaeth efallai y dylai’r cyflwyniadau ddod ar gychwyn, yn hytrach nag ar ddiwedd y cyfarfod yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chofnodi ein diolchiadau i’r gweithlu am eu cyfraniad yn ystod y 18 mis diwethaf.

 

Dogfennau ategol: