Creu maes
parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol newydd, llwybrau troed
ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos
AELOD LLEOL: Cynghorydd Paul Rowlinson
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol;
1. 5
mlynedd
2. Cydymffurfio
a chynlluniau
3. Darparu
CEMP
4. Darparu
Cynllun Tirlunio
5. Darparu
Cynllun Traffig Adeiladu
6. Materion
archeolegol
7. Cydymffurfio
a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol
8. Dim goleuo heblaw'r hyn sydd wedi ei gytuno
9. Triniaeth
ffin i’w gwblhau cyn defnyddio’r llecynnau parcio
Nodiadau
Cofnod:
Creu maes
parcio ar gyfer 30 o gerbydau, creu mynedfa gerbydol
newydd, llwybrau troed ynghyd a gosod 2 bae gwefru ceir trydanol a pheiriant talu ac arddangos
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir
y cais gan nodi bod y safle wedi ei leoli gyferbyn ffin datblygu canolfan
wasanaeth lleol Bethesda. Nodwyd nad oedd unrhyw bolisi penodol o fewn CDLl yn cyfeirio’n arbennig tuag at ddarparu meysydd parcio
o’r newydd ond ystyriwyd bod polisïau PCYFF 2, PCYFF 3, TRA 2 a TRA 4 yn
berthnasol i’r achos yma.
Eglurwyd mai pwrpas y
bwriad yw darparu llecynnau parcio cerbydol ar gyfer cymunedau Gerlan a
Gwernydd. Adroddwyd, oherwydd natur adeiledd a strydoedd cul yr ardal breswyl
yma, bod diffyg difrifol o lecynnau parcio (preifat a chyhoeddus) oddi ar y
rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o
hyrwyddo neu arwain at gynnydd defnydd cerbydau preifat, ond yn hytrach yn
lleddfu trafferthion parcio presennol y gymuned.
Nodwyd bod yr Uned
Drafnidiaeth wedi cadarnhau bod y bwriad yn cydymffurfio gyda safonau parcio ac
na fyddai’r fynedfa arfaethedig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch ffyrdd.
Ystyriwyd fod
lleoliad, maint a gosodiad y safle yn un rhesymegol ac yn dderbyniol ar sail
egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau, ffurf adeiladu lleol, materion
priffyrdd a mwynderau preswyl. Y bwriad felly yn cydymffurfio gyda gofynion
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
b)
Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd yr Aelod
Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei
fod yn cefnogi’r cais
·
Bod
gwir angen safleoedd parcio ychwaegol yn yr ardal - y
strydoedd yn gul a diffyg lle parcio yn achosi pryder i nifer
·
Bod
bysus yn cael trafferthion
·
Ei
fod yn diolch i’r Cyngor Cymuned (yr ymgeisydd) am gyflwyno’r cais
·
Bod
nifer wedi amlygu pryderon yn ymwneud a ymwelwyr i’r Carneddau yn parcio yn yr
ardal - hyn yn digwydd beth bynnag
·
Ni
fyddai creu'r safle parcio yn ychwanegu at bryderon llifogydd
·
Bydd
y wal garreg draddodiadol yn cael ei dymchwel ai hail ddefnyddio
·
Bydd
gwrychoedd yn cael eu plannu ar gyfer bywyd gwyllt
·
Croesawu
gosod pwyntiau gwefru ceir trydan - hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir
·
Bod
angen sicrhau bod y safle yn cael ei reoli yn dda
ch) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod parcio yn amlwg
yn broblem yn yr ardal
·
Pryder y bydd
preswylwyr yn gorfod talu am barcio, ond debyg
mai mater i’r Cyngor Cymuned yw trafod
a rheoli hyn
·
Awgrym bod angen cynnal asesiad
dichonoldeb - a fydd trigolion lleol yn fodlon talu
neu yn parhau i barcio ar
y lon? Os na fydd digon
yn talu am y safle parcio a fydd hyn yn
cael effaith ar gynllun y Cyngor Cymuned i ad-dalu
eu dyled?
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;
1. 5 mlynedd
2. Cydymffurfio
a chynlluniau
3. Darparu CEMP
4. Darparu Cynllun Tirlunio
5. Darparu Cynllun Traffig Adeiladu
6. Materion archeolegol
7. Cydymffurfio
a gofynion awgrymiadau’r Asesiad Amgylcheddol Cychwynnol
8. Dim goleuo heblaw'r hyn sydd
wedi ei gytuno
9. Triniaeth ffin i’w gwblhau
cyn defnyddio’r llecynnau parcio
Nodiadau
• Ordinary Watercourse Consent
• SUDS
• Dŵr
Cymru
Dogfennau ategol: