Estyniadau ac addasiadau
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts
Penderfyniad:
Gwrthod y
cais
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.
Cofnod:
Estyniadau
ac addasiadau
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais
yr Aelod Lleol
a) Ymhelaethodd
y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais gan nodi y byddai’r gwaith yn cynnwys :
·
Codi estyniad ochr deulawr
ar safle modurdy unllawr presennol - bydd yn ymestyn tua’r
dwyrain (ochr) yr un pellter a´r
modurdy presennol ond yn ymestyn
1.4m o flaen y tŷ presennol a 1.8m tua’r cefn ac o’r un uchder a tho’r tŷ presennol. Bydd modurdy, iwitiliti
ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
a llofft ac ystafell ymolchi ar y llawr
cyntaf. Bydd talcenni newydd ar flaen a chefn
y tŷ gyda balconi “Juliette” ar y llawr cyntaf yn
y cefn
·
Codi estyniad deulawr cefn ar ben gorllewinol
yr eiddo gydag ystafell ardd ar y llawr
gwaelod a llofft ar y llawr cyntaf.
Bydd yr estyniad
yn ymestyn 3.7m tua’r cefn ac yn
creu talcen newydd yn wynebu’r
cefn.
·
Bydd gan yr estyniadau deulawr doeau brig o lechi gyda’r to brig newydd ar y blaen a’r
cefn yn is na lefel to’r
prif dŷ.
·
Bwriedir codi porth newydd ar y blaen
ynghyd a tho llechi unllethr ar draws y porth ag estyniad unllawr presennol arall.
Tynnwyd
sylw at y gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd a oedd yn awgrymu
nad oedd y dyluniad yn gweddu’r
stryd ac yn orddatblygiad fyddai’n cysgodi eiddo cymdogion.
Cyfeiriwyd at Polisi PCYFF
3 y CDLL sy'n ymwneud a'r agwedd lleoliad,
dyluniad ac effaith gweledol gan ddatgan
bod disgwyl i bob cynnig arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy'n rhoi
llawn ystyriaeth i gyd-destun yr
amgylchedd adeiledig o gwmpas. Ystyriwyd bod y cynnig yn cwrdd
gyda gofynion polisi PCYFF 3 y CDLl a rhestrwyd y rhesymau yn yr adroddiad.
Yng nghyd-destun gor-edrych a chysgodi eiddo cymdogion, ystyriwyd natur drefol y safle a’r rhyng-welededd
sydd eisoes yn bodoli rhwng
y tai a’r gerddi'n lleol. Ni ystyriwyd y byddai’r estyniadau yn cael niwed
arwyddocaol ychwanegol ar breifatrwydd cymdogion nac y byddai niwed arwyddocaol
ychwanegol i fwynderau cymdogion, na’r ardal yn
gyffredinol, yn deillio o’r datblygiad.
Ystyriwyd bod y cynnig yn dderbyniol dan bolisi PCYFF 2 y CDLl.
b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Adeiladwyd Sandpiper yn 1967 fel
cartref gwyliau i'w Daid.
·
Yr eiddo mewn cyflwr enbyd – dim buddsoddiadau diweddar
·
Bod 2 ystafell wely i
fyny'r grisiau ac 1 ystafell wely i
lawr y grisiau gydag ystafell ymolchi; y tŷ yn cael ei
wresogi gan storage
heaters ond heb ei insiwleiddio - hyn yn anaddas
i'r amgylchedd. Angen uwchraddio systemau trydan a dwr yn llwyr
gan eu bod yn beryglus ac anaddas
·
Y bwriad
yw ymestyn uwchben y garej ac allan i’r cefn
i mewn i'r
ardd - yn debyg iawn i
estyniadau eraill yn y stryd. Bydd
hyn yn darparu
4 ystafell wely i fyny'r grisiau
sy'n flaenoriaeth oherwydd nifer plant a Nain sy'n aros yn
rheolaidd
·
Mae’r cynsail i foderneiddio wedi ymestyn ar hyd
y stryd a hyd yn oed os
caniateir y cais bydd yr eiddo
yn un o'r tai lleiaf o'i gymharu
â maint y plot
·
Y bwriad
yw defnyddio adeiladwr a masnachwr lleol
·
Bod addasu
a moderneiddio’r tŷ yn sicrhau eu
bod yn cydymffurfio gyda gofynion amgylcheddol
cyfredol ac yn cwrdd â'r rheoliadau
adeiladu cyfredol. Bydd insiwleiddio’r llofft, y waliau, y lloriau ar waliau
allanol ynghyd a newid pob ffenestr
yn lleihau ôl troed carbon. Bydd y system gwres canolog newydd hefyd yn cwrdd
â gofynion newydd y llywodraeth
·
Trafodwyd y cynlluniau gyda chymdogion er mwyn
arbed amser a derbyniwyd cefnogaeth ysgubol ganddynt. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol gyda phawb yn
gytûn mai’r budd mwyaf fyddai
moderneiddio’r tŷ sydd wedi ei
esgeuluso dros y blynyddoedd diwethaf.
·
Derbyniwyd sylwadau cadarnhaol
gan yr Adran
Cynllunio (Mawrth 2021) yn nodi nad
oedd gwrthwynebiad i’r cais yn
nhermau ystyriaethau cynllunio
·
Nid yw’r dyluniad yn mynd yn
groes i unrhyw
bolisïau cynllunio ac nid yw’r ardal
yn cael ei
ystyried yn ardal o harddwch eithriadol.
c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Ei fod yn amlygu pryderon cymdogion
·
Dim gwrthwynebiad
i’r estyniad ar y modurdy ond
anghydweld gydag estyniad i’r cefn
·
Byddai’r addasiadau yn welliant i’r eiddo,
ond estyniad i’r cefn yn
cael effaith difrifol ar ardd
cymydog
·
Bod yr
eiddo yn dy haf ar
gyfer defnydd teuluol (ar hyn
o bryd)
·
Awgrym cynnal ymweliad safle neu fod ambell
aelod o’r Pwyllgor yn ymweld
·
Bod y bwriad yn orddatblygiad
Mewn ymateb i sylw ynglyn a chynnal
ymweliad safle, nododd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd nad oedd ymweliad safle
yn ymarferol o dan reoliadau covid a bod tystiolaeth ddigonol yn cael ei
gyflwyno drwy luniau a chyflwyniad y swyddog.
d)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen
gwella a moderneiddio’r tŷ
·
Awgrym cynnal trafodaethau
pellach gyda’r ymgeisydd ynglŷn ag estyniadau i’r cefn
·
Angen ystyried pryderon cymdogion a Chyngor Cymuned
·
Arwydd ‘No parking’ o flaen y tŷ
- angen arwydd ddwyieithog
·
Angen ystyried ail sefydlu
panel ymweld - yr awgrym o gynnal ymweliad safle yn dderbyniol - gellid cymryd gofal
ac ymbellhau yn unol â chanllawiau
f) Mewn ymateb i gwestiwn
yn ymwneud ag ‘angen’ yr ymgeisydd
am dŷ mwy; bod yr addasiadau yn
gwella cyflwr y tŷ er mwyn
gosod i’r dyfodol; pam bod angen newid cymeriad y tŷ? ydi tŷ
achlysurol ei ddefnydd ‘angen’ estyniad?,
nododd y Rheolwr Cynllunio nad oedd
cyfiawnhad o’r ‘angen’ am estyniad yn ystyriaeth o dan Polisi Cyff 3. Ategwyd bod
yr estyniad i’r cefn yn
ymestyn 1.8m allan i’r ardd o’r
tŷ presennol ac y byddai effaith gysgodol yn debygol
ar ddiwedd y dydd.
g) Pleidleisiwyd
ar y cynnig i ganiatáu y cais.
Disgynnodd
y cynnig
h) Cynigwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais yn
groes i’r argymhelliad
PENDERFYNWYD:
Gwrthod y cais
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
ac effaith andwyol ar eiddo cyfagos.
Dogfennau ategol: