Diwygio amod 2
o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn
ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn galluogi cyflwyno cais caniatáu materion a
gadwyd yn ôl
AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams
Dolen
i'r dogfennau cefndirol perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i
Bennaeth Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau perthnasol sy’n ymwneud a:-
Nodyn: Angen cyflwyno cais
system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Cofnod:
Diwygio amod
2 o ganiatâd cynllunio rhif C17/0438/18/LL ar gyfer datblygiad preswyl er mwyn
ymestyn y cyfnod o 3 mlynedd er mwyn
galluogi cyflwyno cais caniatáu materion
a gadwyd yn ôl
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd
yn nodi bod ardal y cais erbyn
hyn wedi ei ddynodi’n statudol
gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi
Gogledd Orllewin Cymru. Er y dynodiad ni
ystyriwyd y byddai’r bwriad o’i ganiatáu
yn tanseilio’r dynodiad gan ystyried
sylwadau CADW.
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais
llawn ydoedd ar gyfer newid
amod 2 o ganiatâd cynllunio amlinellol rhif C17/0438/18/LL er mwyn ymestyn yr
amser a roddwyd i gyflwyno cais
materion a gadwyd yn ôl. Eglurwyd,
fel yn flaenorol,
bod y manylion sy’n ymwneud a graddfa, golwg, tirweddu a mynedfa i’r safle
wedi eu cadw’n
ôl i’w hystyried
yn y dyfodol trwy gyflwyno cais
materion a gadwyd yn ôl. Nodwyd
bod y bwriad yn parhau i olygu
datblygu’r safle ar gyfer 27 o dai
(gan gynnwys 5 tŷ fforddiadwy ar gyfer angen
lleol cyffredinol), creu mynedfa newydd
ynghyd a darparu llecyn amwynder. Ategwyd bod y cais gwreiddiol (C09A/0396/18/AM) yn destun cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn darparu
elfen o dai fforddiadwy a bod y cytundeb cyfreithiol sydd wedi ei arwyddo
yn wreiddiol gan yr ymgeisydd
yn parhau i fod yn
ddilys.
Adroddwyd bod yr egwyddor o ddatblygu’r
safle ar gyfer datblygiad preswyl eisoes wedi ei dderbyn
boed hynny yn 2014 a 2017, ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau
neu’r sefyllfa gynllunio wedi newid ers caniatáu’r
ceisiadau blaenorol. Yn sgil polisïau lleol, penderfynodd yr Awdurdod Cynllunio Lleol y cais amlinellol
ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd a’r cais i ymestyn
y cyfnod o 3 mlynedd rhannol ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol a rhannol ar sail y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn - Fersiwn Cyfansawdd. Erbyn hyn, y ddogfen polisi cynllunio lleol mabwysiedig yw’r CDLL ac fe gyfeiriwyd at y polisïau perthnasol yn yr
adroddiad.
Nodwyd mai lefel cyflenwad dangosol Deiniolen dros gyfnod y Cynllun
yw 45 uned gyda disgwyl i’r
cyflenwad dangosol gael ei gyfarch
trwy safle dynodiad tai T65 a trwy safleoedd ar hap – o ganlyniad mae modd
cefnogi’r bwriad o dan Polisi TAI3. Bydd 5 tŷ fforddiadwy yn cael eu cynnwys
yn y bwriad sy’n gyfystyr ag 18% o’r
datblygiad. I’r perwyl hyn, mae’r
bwriad yn parhau i gwrdd
â throthwy tai fforddiadwy
a nodwyd o fewn Polisi TAI15.
Bydd y bwriad
yn darparu cymysgedd ac amrywiaeth eang o dai i
gyfarch yr angen am y fath dai yn Deiniolen
yn unol ag Asesiad Angen Tai Gwynedd ac asesiad ar gyfer
pentref Deiniolen sy’n dangos yr
angen am dai fforddiadwy 2 a 3 llofft a thai marchnad agored
2, 3 a 4 llofft.
Wedi ystyried yr holl faterion
perthnasol gan gynnwys y gwrthwynebiadau, ni ystyriwyd fod
y bwriad o ymestyn yr amser a roddir
o dan ganiatâd rhif
C17/0438/18/LL er mwyn cyflwyno materion a gadwyd yn ôl
yn groes i’r polisïau na’r
canllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:
·
Nifer o dai eraill wedi eu hadeiladu
yn ystod y cyfnod - pryder am gapasiti yr ysgol
gynradd
·
Awgrym i’r Cyngor brynu
darn o dir gerllaw'r ysgol a’r safle
bwriadedig ar gyfer estyniad i’r ysgol i’r
dyfodol
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganatau’r cais
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau :-
1. Cyfnod
dechrau’r gwaith
2. Cyflwyno
materion a gadwyd yn ôl.
3. Deunyddiau a gorffeniadau (gan gynnwys llechi
naturiol i’r toeau).
4. Mynediad
a pharcio
5. Tirweddu
a thirlunio.
6. Tynnu
hawliau a ganiateir oddi ar y tai fforddiadwy.
7. Amodau
Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd.
8. Amodau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed draenio tir a dŵr
hwyneb.
9. Diweddaru’r amodau parthed mesuriadau lliniaru'r asesiad ecolegol.
10. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad
Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.
Dogfennau ategol: