Cais ar gyfer codi ty
deulawr gyda modurdy
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Owain Williams
Penderfyniad:
Gwrthod
Cofnod:
Cais ar gyfer codi tŷ deulawr gyda modurdy
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod safle’r cais o fewn ffin
datblygu pentref Clynnog Fawr ar lecyn o dir gwag wedi ei leoli yn gyfochrog a mynedfa
gerbydol safonol sydd yn arwain at dai preswyl sydd i gefn ac ochr lleoliad y
datblygiad arfaethedig hwn.
Eglurwyd bod cais blaenorol ar gyfer y bwriad wedi ei wrthod o dan
C20/1049/34/LL oherwydd maint, graddfa, dyluniad a’i effaith ar eiddo gerllaw.
Cydnabuwyd fod y bwriad oddeutu 0.5m yn is na’r hyn a wrthodwyd o dan y cais
blaenorol, ac mae asiant y cais wedi darparu cynlluniau ychwanegol sy’n cynnwys
strydlun a chynllun lefelau presennol.
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr
Aelod Lleol
Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor
12.07.2021 er mwyn cywiro cyfeiriad y safle ac ail-ymgynghori er mwyn sicrhau
fod ymgynghorwyr a chymdogion yn ymwybodol o safle’r cais.
Wrth ystyried mwynderau cyffredinol, gweledol a phreswyl, nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn man gymharol amlwg, yn gyfochrog gyda’r brif ffordd i mewn ac allan o’r
pentref ac wedi ei amgylchynu gan adeiladau o amrywiol faint, dyluniad ac
edrychiadau.
Nid yw swyddogion wedi eu hargyhoeddi yn yr achos yma bod maint a
dyluniad yr adeilad yn addas ar gyfer y
safle. Ystyriwyd fod angen ystyried ei leoliad a’r lefelau tir yn well er mwyn galluogi’r datblygiad i gyfrannu tuag
at gymeriad yr ardal yn ogystal â’i alluogi i integreiddio i batrwm a chymeriad
yr ardal leol mewn modd derbyniol. Ni ystyriwyd fod y dyluniad yn cyfleu hyn ac
felly ni ellid cefnogi’r datblygiad yn y ffurf y’i cyflwynwyd. Ystyriwyd fod y
bwriad yn groes i ofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 a PS5 o’r CDLl.
Nodwyd bod y bwriad yn osgoi cynnwys ffenestri o ffurf a nifer (ar
yr edrychiad gogleddol) a fyddai’n debygol o amharu ar drigolion yr eiddo
cyfochrog. Er hyn mae’r cynllun yn arddangos y byddai rhai o’r ffenestri wedi
eu cymylu ond ystyriwyd y byddai hyn yn cael effaith gwaeth na’r hyn a
gymeradwywyd yn y gorffennol gan gyfleu teimlad o oredrych
(oherwydd nifer a’u huchder) o safbwynt yr eiddo drws nesaf.
Yn ogystal, adroddwyd bod y safle yn sylweddol uwch na’r eiddo
drws nesaf a byddai’r bwriad o godi eiddo deulawr llawn ar y lefel tir yma yn
achosi nodwedd anghydnaws yn yr ardal ynghyd ac achosi effaith ormesol
sylweddol ar yr eiddo drws nesaf. Ategywd y byddai’r
lefel tir hefyd yn cynyddu’r elfen o oredrych i mewn
i ardd gefn yr eiddo drws nesaf - er bod yr ardd yn weladwy yn bresennol o’r
safle, nid oes defnydd o’r safle ac felly mae unrhyw oredrych
presennol yn achlysurol.
Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol, gan gynnwys
polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol yn nhermau graddfa, dyluniad, lleoliad a lefelau tir/llawr ar gyfer
y safle hwn. Yn ogystal, ystyriwyd fod y bwriad yn cael effaith andwyol ar
breifatrwydd a mwynderau'r eiddo drws nesaf o ran maint, uchder, lleoliad a
nifer ffenestri sy’n ystyriaethau perthnasol sy’n ffurfio rhan o’r ystyriaethau
dros argymell gwrthod y cais. Er bod y safle wedi ei leoli o fewn y ffin
datblygu a bod hanes cynllunio yn dangos fod eiddo preswyl wedi ei gymeradwyo
ar y safle yma yn y gorffennol, ni ystyriwyd fod y bwriad yn addas i gyfiawnhau
caniatáu’r datblygiad yn y ffurf a gyflwynwyd.
b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd gwrthwynebydd y cais y pwyntiau canlynol gan gyflwyno fideo
oedd wedi ei gymryd o’i
ystafell wely mewn eiddo gyferbyn
a’r safle:
·
Bod y bwriad i adeiladu
annedd deulawr ar dir ger Plas
Beuno yn creu effaith sylweddol
ar eu heiddo
gan ddifetha’r olygfa o du blaen eu eiddo. Yn
bendant ni fydd y golygfeydd a oedd yn
cael eu brolio
yn y pamffledi yn ystod cyfnod
gwerthu’r eiddo mewn bodolaeth
·
Bydd effaith
y datblygiad ynghyd a cholli golygfeydd yn creu ymdeimlad
o oredrych a chael ein ‘cau i
mewn’
·
Wedi symud
o Telford i'r ardal wledig hon yng Ngogledd Cymru i chwilio am fywyd gwell, gan ddewis
y lleoliad yma yn benodol oherwydd
bod ganddo olygfeydd hyfryd ac nad oedd
goredrychiad gan dai cyfagos
·
Wedi ymdrechu
i ymgartrefu yn y gymuned leol,
dysgu siarad Cymraeg ac adeiladu ein cartref
am byth, nid ydym am gael ein
gorfodi allan
·
Pe buasem yn ymwybodol
pan dderbyniwyd ein cynnig ar y tŷ
(plot 1 Plas Beuno) bod bwriad adeiladu annedd deulawr ar dir ger Plas
Beuno, byddwn yn bendant heb
fod wedi bwrw ymlaen â'r
pryniant. Wythnosau lawer ar ôl
i'n cynnig gael ei dderbyn
ac wedi ymrwymo'n ariannol i'r pryniant
ac yn methu â thynnu allan, yr
hysbysebwyd fod bwriad adeiladu ar y tir ger yr
eiddo yr oeddem wedi'i brynu.
·
Credaf fod
amseriad y cais cynllunio diwygiedig diweddar C21/0376/34/ LL yn weithred bwrpasol er mwyn peidio
â pheryglu gwerthiant y tai
eraill sy'n cael ei datblygu
ar safle ger Plas Beuno.
·
Bod yr holl ddeunyddiau
marchnata a hyrwyddo oedd yn gysylltiedig
â gwerthu eiddo ym Mhlas Beuno
yn dangos yn glir bod yr
ardal arfaethedig ar gyfer cynllunio
yn ymddangos fel llecyn gwyrdd
·
Bod caniatâd cynllunio wedi cael ei
wrthod ar y safle ar ddau
achlysur blaenorol – nid oes unrhyw
resymeg na seiliau rhesymol dros ganiatáu y tro hwn o ystyried
y byddai’r datblygiad yn cael effaith
sylweddol ar dai cyfagos
c) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod
wedi ei fagu
ac yn byw yng Nghlynnog ac yn aelod gweithgar
o’r gymuned
·
Bod y cais yn un i
adeiladu cartref yn y pentref iddo
ef a’i deulu
·
Wedi prynu
y safle 2017 yn ymwybodol bod caniatâd wedi rhoi ar
y safle yn 2008 i godi tŷ
teulu
·
Ei fod
wedi trafod y bwriad gyda Rheolwr
Cynllunio yn 2016 gan dderbyn sicrwydd
y bydd hawl cynllunio yn cael
ei ganiatáu ar y safle cyn
belled a bod y dyluniad yn addas a thebyg i’r un a ganiatawyd
yn 2008
·
Yn 2020, comisiynwyd pensaer i gynllunio tŷ
addas gan addasu cynlluniau blaenorol fel bod y cynllun yn cyd-fynd
a thai cyferbyn yn unol ag argymhelliad
y Rheolwr Cynllunio
·
Bwriad yw
symud tunelli o bridd fel bod modd
suddo’r tŷ i ddilyn patrwm
strydlun a lleihau goredrych
·
Siomedig mai’r argymhelliad yw gwrthod y cais
- dim gohebiaeth wedi ei dderbyn. Teimlo
ei fod wedi
cael ei gamarwain
gan y Rheolwr Cynllunio a awgrymwyd bod codi tŷ yn
dderbyniol cyn belled a bod
y dyluniad yn drawiadol
·
Yr adroddiad
yn gamarweiniol yn nghyd-destun patrwm tai - ystyrir bod y dyluniad presennol yn asio yn
well gyda thai gyferbyn
·
Ni fydd goredrych – bwriad yw gosod
ffenestri wed eu cymylu i osgoi
hyn
·
Ffens 6 troedfedd
y cael ei godi i greu
preifatrwydd
·
Perchennog y tŷ drws nesaf
wedi cyflwyno llythyr o gefnogaeth yn datgan ei
fod yn hapus
gyda mesurau lleihau goredrych
·
Siomedig nad oedd llythyrau
cefnogaeth eraill a gyflwynwyd gan gymdogion y safle wedi eu crybwyll
yn yr adroddiad
·
Diffyg tai yn lleol a dim tŷ ar werth
yng Nghlynnog - ei ddymuniad yw
adeiladu cartref addas iddo ef
a’i deulu fel ei fod
yn gallu aros yn y pentref
a pharhau i gyfrannu i’r gymuned
leol
·
Caniatáu y cais yn sicrhau
y byddai tŷ fforddiadwy yn cael ei ryddhau
i bobl leol
yn yr ardal
d) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Awgrym gan wrthwynebwyr bod trefniadau
gweinyddol gan yr ymgeisydd yn gamarweiniol
·
Rhai wedi prynu tai gan ddeall nad oedd bwriad adeiladu ar y
llecyn gwyrdd
·
Cais am lythyrau gohebiaeth gan yr
Adran Cynllunio i’r ymgeiswyr i’w rhannu gyda’r Aelod Lleol
·
Awgrym i ohirio penderfyniad –
anghytundeb ar y ddwy ochr
ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ymgeisydd yn cyfeirio at y
canllawiau cynllunio blaenorol
·
Nad yw’r dyluniad yn cydweddu’r ardal
·
Bod y math o dy a dyluniad yn anghywir
ac anaddas
·
Effaith andwyol gormesol ar y tai cyfagos
·
Y tŷ yn llenwi’r plot – yn orddatblygiad
·
Maint y tŷ yn ormod i’r safle
PENDERFYNWYD
Gwrthod
y cais am y rhesymau canlynol:
1. Mae’r tŷ
bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 1 o bolisi PCYFF2 a
meini prawf 1 a 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd
a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn benodol
ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr sy’n golygu nad yw’r bwriad yn cydweddu a
phatrwm adeiladu’r ardal.
2. Mae’r
tŷ bwriedig yn groes i faen prawf 13 o bolisi PS5, maen prawf 7 o bolisi
PCYFF 2 a maen prawf 10 o bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn 2017 o ganlyniad i faint a graddfa a dyluniad yr annedd newydd yn
benodol ei uchder, swmp, lefelau tir a llawr a lleoliad y ffenestri ar yr
edrychiad gogleddol sy’n golygu fod y bwriad yn achosi effaith andwyol
sylweddol ar fwynderau a phreifatrwydd trigolion eiddo sydd gyfochrog y safle.
Dogfennau ategol: