Dymchwel
modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr ymgeisydd
a theulu a ffrindiau yn achlysurol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell
Penderfyniad:
Gwrthod
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
ac effaith gweledol niweidiol
Cofnod:
Dymchwel
modurdy unllawr. Codi modurdy dwbl gydag anecs trosodd at ddefnydd personol yr
ymgeisydd a theulu a ffrindiau yn achlysurol.
Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu
bod y cais yn un ar gyfer dymchwel
modurdy presennol a chodi adeilad deulawr
yn ei le gyda modurdy dwbl
ar y llawr gwaelod ac anecs anheddol yn gysylltiedig
â’r prif dŷ. Lleolir y safle o fewn gardd
tŷ Derwen Deg sydd yn
eiddo ar wahân o fewn ffin
datblygu Llanbedrog
Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais
yr Aelod Lleol.
Adroddwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn gan
gynnwys un gan y Cyngor Cymuned yn datgan
pryder fod y bwriad yn orddatblygiad,
bod y safle yn anaddas ac y byddai cael ffenestri ar y llawr cyntaf
yn goredrych eiddo preifat gan
greu effaith niweidiol ar gymdogion
cyfagos
Nodwyd bod yr egwyddor yn dderbyniol
ar y cyfan er bod y bwriad yn sylweddol fwy
o faint na’r hyn sydd yn bodoli
yn barod. Er hynny, ystyriwyd
bod y bwriad yn gweddu gyda’r ardal
drefol sydd o natur wasgaredig ac yn parchu cyd-destun
y safle. Ategwyd bod y dyluniad yn dderbyniol
ac nad oedd yn niweidiol i
gymeriad yr ardal nac yn
creu effaith arwyddocaol ar gymdogion - gellid gosod amod i
sicrhau bod y ffenestri sy’n goredrych yn cael eu
cadw’n afloyw yn barhaol ac y gellid rheoli’r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio drwy
amod cynllunio priodol
Defnydd y bwriad yw fel modurdy
ac anecs anheddol ac fe ellid rheoli’r
defnydd drwy osod amod i sicrhau mai dim ond at ddefnydd atodol i’r prif
dŷ y defnyddir yr anecs ac nid
at unrhyw ddiben arall. Byddai angen
caniatâd cynllunio ychwanegol ar gyfer
unrhyw newid defnydd materol o’r anecs.
Ystyriwyd fod y
bwriad yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a
mwynderau cyffredinol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau
canlynol:
·
Nifer o bryderon wedi eu hamlygu gan drigolion lleol
·
Bod yr eiddo wedi ei leoli ar odrau Mynydd Tir y Cwmwd
·
Bod y system garthffosiaeth ar y lleoliad yn anaddas
·
Bod yr anecs yn bell o’r tŷ - potential i’r uned fod yn hunangynhaliol i’r dyfodol
·
Gosod cynsail beryg o greu ail dy yn yr
ardd
·
Estyniad fuasai’r syniad gorau os am
gael un stafell wely ychwanegol
·
Materion croesi'r ffordd yn achosi pryder – y ffordd yn anaddas
i’r tai
·
Bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais
·
Y bwriad yn orddatblygiad
c) Cynigiwyd gwrthod y cais yn groes i’r argymhelliad am y rhesymau
canlynol:
·
Bod y bwriad yn orddatblygiad
o’r safle
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Byddai estyniad
ar y tŷ yn fwy naturiol
·
Er o fewn y ffin datblygu, y bwriad yn
ymddangos fel tŷ newydd yng nghanol cefn gwlad
·
Wedi ei leoli mewn safle amlwg o fewn y
pentref
PENDERFYNWYD
Gwrthod
Rhesymau:
Gor-ddatblygiad
ac effaith gweledol niweidiol
Dogfennau ategol: