Estyniad
llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd ag estyniad llawr cyntaf i greu
feranda
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dewi W Roberts
Penderfyniad:
Gwrthod
Rhesymau: Gor-ddatblygiad, effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos
Cofnod:
Estyniad llawr cyntaf uwchben modurdy presennol ynghyd
ag estyniad llawr cyntaf i greu feranda
a) Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais
yn un ar gyfer
estyniad a newidiadau i eiddo anheddol presennol . Byddai’r newidiadau’n
cynnwys :
·
Estyniad llawr cyntaf dros ben modurdy presennol – byddai’r
estyniad terfynol yn 7.6m o uchder, 0.7m yn is na tho’r tŷ presennol, Bydd
talcen do o lechi gyda balconi “Juliette” ar flaen y llawr cyntaf.
·
Codi balconi ar hyd llawr cyntaf yr eiddo presennol,
(fyddai’n gweithredu fel feranda llawr gwaelod) – bydd sgrin preifatrwydd ar
ddau ben y balconi
·
Codi estyniad unllawr ar gefn yr eiddo gyda thalcen do o
lechi
Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.
Adroddwyd bod Polisi PCYFF 2 y
CDLl yn annog gwrthod cynigion fydd yn cael effaith niweidiol sylweddol ar
fwynderau eiddo lleol. Mynegwyd pryder gan gymydog y byddai creu balconi ar
flaen yr eiddo yn galluogi gor-edrych a fyddai'n niweidiol i'w preifatrwydd ac
yn sgil y sylwadau hynny fe ddiwygiwyd y cynlluniau i gynnwys sgriniau
preifatrwydd ar ochrau’r balconi blaen. Er bydd posib gweld ychydig o erddi
blaen eiddo cymdogion o’r balconi fel yr ail-ddyluniwyd, mae blaenau’r tai ar
Lôn Gwydryn eisoes yn agored i'r stryd ac yn weladwy o fannau cyhoeddus. Ni
ystyriwyd y byddai’r balconi’n ychwanegu’n arwyddocaol at niwed i breifatrwydd
yr eiddo sy'n wynebu'r stryd.
Wedi asesu’r cais yn erbyn
gofynion y polisïau perthnasol ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol o agwedd
mwynderau gweledol, yr effaith ar yr AHNE a mwynderau cyffredinol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:
·
Bod adroddiad y Swyddog, sy'n cefnogi'r datblygiad
arfaethedig, yn mynd i'r afael â'r holl bryderon sydd wedi'u nodi yn yr
ymatebion.
·
Bod trafodaethau cyn cyflwyno cais wedi eu cynnal gyda
swyddogion cynllunio a bod y sylwadau wedi eu hymgorffori'n llawn yn y dyluniad
terfynol.
·
Bod rhai gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn cynnwys
materion nad ydynt yn seiliedig ar faterion cynllunio ac felly yn amherthnasol
·
Bod y pryderon a godwyd mewn perthynas â sŵn ac
aflonyddwch posibl o'r balconi arfaethedig yn rhagdybiaethau y bydd mwy o bobl
yn byw yn y tŷ - nid yw hyn yn gywir gan nad yw nifer yr ystafelloedd yn
newid. Yr un yw’r ymateb i bryderon cynnydd mewn traffig
·
Bod y gwrthwynebiadau i raddau helaeth yn nodi bod y
datblygiad yn ormesol ac y byddai eiddo cyfagos yn colli preifatrwydd
·
Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i ddyluniad yr ychwanegiadau gan
ddefnyddio'r ôl troed presennol i wella'r eiddo. Er derbyn bod y bwriad yn
creu'r argraff o faint mwy, byddai’r estyniad wedi'i leoli uwchben y garej
bresennol, sydd dros 5 metr i ffwrdd o'r
eiddo cyfagos
·
Bod modd ymateb i faterion goredrych drwy osod amod bod
ffenestri ychwanegol ar y cefn yn lleddfu pryderon - hapus i gydymffurfio â'r
amod yma
·
Ni dderbyniwyd sylwadau gan yr Uned Priffyrdd ac ni chodwyd
pryderon gan yr uned AHNE
·
Bod adroddiad y swyddogion yn cadarnhau bod graddfa'r bwriad
yn briodol ar gyfer y lleoliad a bod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio
â'r holl bolisïau lleol a chenedlaethol gan wella cymeriad ac ymddangosiad yr
eiddo. Ni fydd y bwriad mewn unrhyw ffordd yn niweidiol - mewn gwirionedd bydd
yn gwella’r strydlun.
c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol:
·
Ei fod yn ategu pryderon y Cyngor Cymuned – y bwriad yn
orddatblygiad
·
Nid yw yn gweddu i’r ardal
·
Mae’n amharu ar breifatrwydd trigolion cyfagos
·
Bod pob drws llofft yn agor allan ar y balconi ac felly
sŵn yn deillio o’i ddefnydd
·
Bod cais tebyg yn 2004 wedi ei dynnu yn ôl
·
Y balconi yn edrych dros neuadd y pentref ac i lawr i’r pentref - creu
teimlad dominyddol
ch) Cynigiwyd ac
eiliwyd i wrthod y cais am y rhesymau canlynol:
·
Bod y
bwriad yn orddatblygiad
·
Yn
gynsail peryglus
·
Yn creu effaith ar fwynderau cymdogion
d) Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod angen ystyried yr elfen goredrych
·
Dim
golygfa o’r balconi, felly beth fydd ei ddefnydd?
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â goredrych, nodwyd bod amod i sicrhau gwydr afloyw i
ffenestri yng nghefn yr adeilad a bod oddeutu 22m rhwng yr eiddo a'r tŷ
agosaf sydd yn cael ei ystyried fel pellter digonol.
PENDERFYNIAD
Gwrthod
y cais yn groes i’r argymhelliad
·
Gor-ddatblygiad,
effaith gweledol niweidiol ac effaith niweidiol ar breifatrwydd tai cyfagos
Dogfennau ategol: