Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams
Penderfyniad:
Cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd
statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion
yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion
11/2018.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNWYD
Cadarnhawyd yn
derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31
Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022,
yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a
gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi fod yr adroddiad hwn yn benllanw
proses sydd wedi cymryd rhai blynyddoedd. Amlygwyd fod 2 flynedd wedi bod ers
i’r Cabinet gytuno i fynd i drafodaeth gyda’r corf llywodraethol. Eglurwyd mai niferoedd isel, cyson a bregus
yr ysgol yw sail y pryderon sydd wedi arwain at yr adroddiad hwn. Eglurwyd
heddiw mai pwrpas yr adroddiad yw i’r Cabinet ystyried y gwrthwynebiadau sydd
wedi ei derbyn cyn penderfynu os y bydd angen cau’r ysgol a darparu lle i’r
disgyblion yn Ysgol Sarn Bach.
Pwysleisiwyd nad yw’r penderfyniad sydd yn cael ei drafod yn un hawdd ac
amlygwyd ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i pawb sydd ynghlwm ar ysgol ac
diolchwyd i bawb sydd wedi cyfrannu i’r drafodaeth. Eglurwyd fod yr Aelod
Cabinet wedi derbyn cais i ymweld a’r ysgol ond ei fod wedi mynychu’r ysgol o’r
blaen fel rhan o’r trafodaethau cychwynnol ac nid yr adeilad sydd tu o’r i’r
argymhelliad ond yr heriau sydd yn wynebu’r ysgol. Cyfeiriwyd at rhai
gwrthwynebiadau a oedd yn cwestiynu penderfyniadau y Cyngor ac os oes
gwrandawiad teg wedi ei gynnig. Pwysleisiwyd nad oes dim sail i’r pryderon yma
ac fod pwyso a mesur gwrthrychol wedi ei wneud cyn gwneud unrhyw benderfyniad.
Rhoddodd y Pennaeth Adran hanes yr eitem. Mynegwyd fod penderfyniad wedi
ei wneud ar y Rhybudd Statudol i gau yr ysgol ym mis Mehefin 2021 ond fod y
drafodaeth wedi cychwyn ôl ym Medi 2019. Eglurwyd fod tri cyfarfod gyda’r corff
llywodraethol wedi eu cynnal rhwng Hydref a Ionawr 2020 a oedd yn trafod yr
opsiynau posib i’r ysgol. Ym Medi 2020, bu i’r Cabinet benderfynu ymgymryd a
phroses ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysol Abersoch. Cadarnhawyd y
penderfyniad ar y 3 Tachwedd yn dilyn i’r penderfyniad gwreiddiol gael ei alw i
mewn a’i gyfeirio yn ôl i’r Cabinet gan y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi.
Amlygwyd prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol a arweiniwyd at yr
adolygiad. Eglurwyd fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn gyson ers 2016 a
bellach mewn sefyllfa fregus. Mynegwyd fod yr ysgol o ganlyniad i hyn yn wynebu
pwysau cyllidebol gynyddol. Amlygwyd fod yn holl blant yn cael ei dysgu mewn un
ystafell ddosbarth, ynghyd a fod 21 plentyn o fewn y dalgylch yn mynychu ysgol
arall gyda 5 disgybl yn mynychu’r ysgol o tu hwnt i’r dalgylch. Nodwyd fod cost fesul disgybl yn Ysgol
Abersoch yn £17,404 sydd yn llawer uwch nac yr ychydig dros £4000 sydd i’w
gweld ar draws y sir. Pwysleisiwyd trwy gydol y cyfnod fod Egwyddorion Addysg i
Bwrpas ynghyd a Strategaeth Gynradd o’r Ansawdd Gorau i Blant Gwynedd wedi bod
yn rhan greiddiol o unrhyw benderfyniad.
Tywysodd y Swyddog Addysg yr aelodau drwy’r gwrthwynebiadau a 2 ddeiseb
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol. Diolchwyd i bawb am eu
holl sylwadau nid yn unig drwy’r cyfnod gwrthwynebu ond drwy’r cyfnod o ddwy
flynedd. Nodwyd fod 211 gwrthwynebiad wedi di dderbyn ynghyd a 2 ddeiseb.
Mynegwyd fod nifer o’r sylwadau a gyflwynwyd wedi ei cyflwyno o’r blaen ac
felly mod y themâu yn debyg i’r hyn sydd wedi ei thrafod yn flaenorol. Ond
pwysleisiwyd fod pob ymateb wedi cael sylw dyledus.
Tynnwyd sylw at y prif themâu.
·
Effaith
ar y gymuned – Nodwyd fod yr ysgol yn cael ei gweld fel calon y pentref ac y
buasai ei gau yn cael effaith negyddol ar yr ymdeimlad o gymuned. Eglurwyd fod
yr adran wedi gwneud asesiad effaith pellach a nodwyd fod nifer o blant yn mynd
i Ysgol Sarn Bach ac felly fod cyswllt rhwng yr ysgol amgen a’r gymuned.
Ychwanegwyd os penderfyniad yn cael ei wneud y bydd Abersoch yn rhan o dalgylch
Ysgol Sarn Bach ac y bydd gofyniad i’r ysgol gynnwys Abersoch fel rhan o fywyd
yr ysgol.
·
Addysgol
– derbyniwyd nifer o sylwadau’n amlygu y posibilrwydd o gynnydd yn y niferoedd
yn yr ysgol. Eglurwyd fod niferoedd wedi bod yn gostwng ers 2016 ac wedi yn
fregus ers peth amser. Nodwyd fod rhagolygon yn rhagweld niferoedd yn parhau yn
isel dros y 5 mlynedd nesaf ac na fydd effaith mawr ar y niferoedd. Tynnwyd
sylw fod y cyfnod ansicr hwn yn amlwg wedi cael effaith ar niferoedd.
·
Maint
Dosbarthiadau yn Ysgol Sarn Bach – tynnwyd sylw at faint dosbarthiadau yn Ysgol
Sarn Bach a nododd yr adran os y penderfyniad yn cael ei wneud fod gofyn i’r
Pennaeth a’r Corff Llywodraethol i addasu ac i edrych ar opsiynau ar gyfer
maint a staffio dosbarthiadau.
·
Ansawdd
yr Addysg – derbyniwyd sylwadau yn nodi fod ansawdd addysg Ysgol Abersoch yn
arbennig o dda ond pwysleisiwyd fod lefel ansawdd Ysgol Sarn bach yn un lefel
ac wedi ei amlygu yn ymateb Estyn i’r ymgynghoriad.
·
Iaith –
Tynnwyd sylw at yr ymatebion a oedd yn amlygu y bydd effaith negyddol ar
ddiwylliant a’r iaith o gau’r ysgol. Cydnabuwyd gwaith da sydd yn cael ei wneud
gan yr Ysgol i ddatblygu’r iaith yn yr ysgol ac o fewn y gymuned. Eglurwyd fod
disgwyliad i bob ysgol fod yn gwneud gwaith i ddatblygu’r Gymraeg ac y bydd
angen i’r ysgol amgen barhau ar gwaith da sydd yn cael ei wneud.
·
Cylch
Meithrin Ti a Fi – nodwyd fod nifer o ymatebion yn nodi fod yr ysgol yn fwy
cynaliadwy o ganlyniad i agor y cylch. Eglurwyd fod yn gadarnhaol ond o
ystyried maint y cynnydd y buasai heriau yn parhau. Mynegwyd yr awydd i drafod
gyda’r cylch am y posibilrwydd o ddefnyddio’r lleoliad presennol i’r dyfodol.
·
Proses
Statudol – nodwyd anfodlonrwydd gyda’r broses statudol yn benodol drwy cyfnod y
pandemig, cyfarfodydd rhithiol a’r diffyg gyfarfodydd
cyhoeddus. Nododd yr adran nad oedd y Cod yn nodi y gofyn i gynnal cyfarfodydd
cyhoeddus ac fod y drefn yn gwbl dderbyniol.
·
Llwybr
i’r ysgol – amlygwyd nad oedd y llwybr i’r ysgol amgen yn addas i gerddwyr ond
fod yr adran yn barod yn rhoi cludiant di dal i Ysgol Sarn Bach ac y bydd lle
ar y bws i’r disgyblion eraill. Nodwyd anfodlonrwydd na fydd bws i blant meithrin ond tynnwyd sylw at
Bolisi Cludiant y sir sydd yn nodi mai cyfrifoldeb rheini yw cludiant plant
meithrin.
·
Effaith
ar Ddisgyblion – nodwyd fod y cyfnod yma o ansicrwydd i ddisgyblion Ysgol
Abersoch yn gallu arwain at straen. Eglurwyd y bydd yr adran yn cynnig pob
cefnogaeth posib i’r disgyblion.
·
Effaith
ar Staff – eglurwyd os yn penderfynu i gau y bydd staff yn colli eu swyddi ond
y bydd camau yn cael ei rhoi mewn lle gan yr adran Adnoddau Dynol.
·
Adeilad
– Eglurwyd y bydd yr adran yn dilyn polisi ôl-ddefnydd y sir os y penderfyniad
i gau a fydd yn rhoi ystyriaeth lawn i ôl ddefnydd yr adeilad.
·
Dyddiad
Cau – nodwyd fod anfodlonrwydd wedi bod i gau yn ganol blwyddyn ysgol. Eglurwyd
fod yr adran yn credu ei fod yn ddigon o amser i’r adran weithio gyda’r ddwy
ysgol ac yn rhoi amser effeithiol i baratoi’r disgyblion i ddechau yn yr ysgol
amgen ym mis Ionawr.
Nododd yr Aelod Lleol fod effaith ddifrifol am a fod i’r pentref o
ganlyniad i golli’r ysgol o ran diwylliant a Iaith. Amlygwyd balchder fod y
swyddogion wedi adnabod gwaith da mae’r corff llywodraethol wedi ei wneud yn
agor Cylch Meithrin a Ti a Fi. Tynnwyd sylw ar niferoedd yr ysgol sydd wedi
parhau yr un peth drwy’r cyfnod sydd yn amlygu hyder y rhieni yn yr Ysgol.
Tynnwyd sylw at gyfraniad Abersoch i Gymru ac y sir gyda nifer uchel o
arian treth wedi ei dalu drwy Dreth Trafodai Tir a Premiwm Treth Cyngor – a
gofynnwyd beth mae’r adran yn ei gael yn ôl. Nodwyd fod y arian premiwm ar
gyfer cael tai i drigolion Gwynedd ac fod Abersoch wir angen tai. Eglurwyd fod
yr aelod yn cyd-weithio gyda’r Adran Tai ac Eiddo a y bydd tai yn cael ei
adeiladau yn yr ardal, ynghyd a posibilrwydd o dai ychwanegol ar dir sydd yn
eiddo Darparwr Tai Cymdeithasol. Pwysleisiwyd os tai yn cael ei codi angen
sicrhau fod adnoddau addysg ar gael yn yr ardal, a gyda un ysgol yn y dalgylch
dros ei gapasiti erfyniwyd i’r aelodau fod yn ofalus
cyn gwneud y penderfyniad.
Nodwyd newyddion da fod gwesty yn cael ei godi yn Abersoch sydd yn
fuddsoddiad o £15miliwn a swyddi i dros 40 o bobl. Pwysleisiwyd os swyddi ar
gael i bobl leol a tai newydd, fod hyn yn ddatblygiad newydd a nad oes dim sôn
wedi bod yn yr adroddiad i’r datblygiadau hyn.
Nodwyd anfodlonrwydd yn y broses fod gofyn iddo ymateb i adroddiadau ar
fyr rybydd yn aml. Yn ogystal mynegwyd ei bod wedi bod yn her yn y cyfnod cofid
ac fod yn amhosib i gynnal cyhoeddus ac felly wedi bod yn annheg ar gymdeithas.
Mynegwyd nad oes newid wedi bod ers y cyfarfod cyntaf ac felly fod yr Aelod
Lleol yn credu o bosib fod y penderfyniad wedi ei wneud peth amser yn ôl ac
felly nad oedd y drafodaeth yn un deg.
Amlygwyd gyda
cynlluniau yn yr ardal ar y gwell gyda tai a swyddi gofynnwyd i ohirio’r
penderfyniad i edrych ar y wybodaeth newydd i sicrhau fod yr adnoddau yn ddigon
da, neud i wthio’r dyddiad cau ymlaen i ddiwedd y flwyddyn addysgol i roi
tegwch i’r disgyblion.
Mewn ymateb i’r Aelod Lleol cydnabuwyd sylwadau’r aelod ynghyd ar parch
sydd wedi ei amlygu drwy’r cydweithio dros y cyfnod. Pwysleisiwyd fod yr adran
wedi dilyn y Ddeddf Safonau a’r Cod yn
llawn. Ychwanegodd y Swyddog Addysg fod maint yr adroddiadau yn dangos y manylder
mae’r adran wedi mynd iddi i sicrhau fod trafodaeth deg yn cael ei gynnal.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd
fo y daith wedi bod yn un hir a nad oedd
unrhyw benderfyniad wedi ei wneud o flaen llaw. Nodwyd nad oes unrhyw nodwedd
ychwanegol wedi ei amlygu heddiw i newid y penderfyniad ar gau’r ysgol.
Mynegwyd fod cau yr ysgol am fod a effaith ond fod angen gwneud popeth posib i
geisio sicrhau fod y Cylch Meithrin a Ti a Fi yn parhau ar y safle.
¾
Tynnwyd
sylw at yr elfen Ieithyddol gan dynnu sylw at y gwaith mae Ysgol Abersoch wedi
ei wneud i ddatblygu sgiliau dwyieithog y disgyblion ynghyd a ennill gwobr aur
y Siarter Iaith, gofynnwyd pam gefnogaeth fydd i sicrhau fod y gwaith yn
parhau. Mynegwyd fod gwaith arbennig o dda wedi ei wneud ac ei fod yn anarferol
gyda plant mor ifanc ond fod y cynllun wedi gweithio. Nodwyd fod disgwyliad i’r
ysgol amgen barhau’r gwaith da.
¾
Nodwyd
o ran effaith ar y gymuned nodwyd fod yr ysgol yn nodwedd amlwg ac bydd y gymuned yn ehangu ac y bydd angen
lliniaru’r addasiadau yma. Pwysleisiwyd y bydd rôl yr Aelod Lleol yn flaenllaw
i sicrhau y gymuned i’r dyfodol.
¾
Mynegwyd
fod yr adroddiad yn benllanw proses ond nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei
wneud o’r blaen. Amlygwyd fod holl ddisgyblion Abersoch yn cael eu haddysgu
mewn un dosbarth gyda 10 disgybl ac fod hyn yn peri pryder. Eglurwyd fod angen
gofyn pam fod rheini yn anfon plant i ysgolion eraill tu hwn i’r dalgylch.
Holwyd os y bydd effaith o symud y plant yn ganol blwyddyn ysgol. Nododd y
Pennaeth Addysg nad oes unrhyw dystiolaeth yn nodi fod effaith andwyol ar
ddisgyblion os yn symud yng nghanol blwyddyn addysgol.
¾
Mynegodd
fod yr Aelod Cabinet wedi gwrando ar y drafodaeth wedi darllen yr holl
wybodaeth ac o’r farn nad oes unrhyw beth wedi newid yn y mater ers mis
Mehefin, ac felly gofynnwyd am gadarnhad i gau’r ysgol.
Awdur:Gwern ap Rhisiart
Dogfennau ategol: