Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.
Penderfyniad:
(a) Gofyn i’r Swyddog Monitro ddod yn ôl gydag
adroddiad i’r Pwyllgor, mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Tasg a
Gorffen, ar gamau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Richard Penn.
(b) Bod y Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol
yn cynnal trafodaeth gychwynnol gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref,
er mwyn dechrau deall yr anghenion yn y sir.
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganfyddiadau ac
argymhellion y Grŵp Tasg a sefydlwyd gan y pwyllgor i drafod
canfyddiadau’r Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru.
Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn croesawu
adroddiad y Grŵp Tasg, gan ychwanegu:-
·
Y bu’r ymarferiad yn gyfle i gymryd cam yn ôl o waith y Pwyllgor Safonau
a lle mae’n eistedd o fewn yr Awdurdod, a’i broffil.
·
Bod adroddiad Richard Penn yn gyfle i weld yr
hyn oedd yn digwydd mewn llefydd eraill, ac i ystyried a oedd yna syniadau neu
gyfleoedd i ddatblygu’r pwyllgor.
·
Ei bod nawr, ar drothwy Cyngor o’r newydd yn dilyn yr Etholiadau ym mis
Mai, yn amser da i ddechrau adeiladu ar hyn drwy’r broses anwytho, ayb.
·
Y gwelid o’r adroddiad bod yna lawer o bethau ymarferol y gellid eu
hymgorffori mewn rhaglen waith, ac mewn ffordd o weithredu hefyd, megis y
cysyniad yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bod arweinyddion
grwpiau gwleidyddol yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau. Roed gan y pwyllgor hwn rôl newydd i
hyrwyddo, cefnogi a monitro’r gwaith yma, ac roedd hynny’n agor y drws i gael
perthynas fwy byw ac agos gyda’r arweinyddion grwpiau. Byddai hefyd yn fodd o sicrhau gwell cyswllt
gydag uwch reolaeth y Cyngor, y swyddogion statudol eraill, neu o leiaf godi
ymwybyddiaeth o’r Pwyllgor Safonau.
·
Bod awgrym bod cynghorau cymuned a thref yn brif ffynhonnell problemau
Cod Ymddygiad, ac er bod yna elfen o wirionedd yn hynny, roedd y ffaith bod yna
dros 60 o gynghorau cymuned a thref o amrywiol faint ar draws Gwynedd, gydag
oddeutu 750 o gynghorwyr yn gwasanaethu ar y cynghorau hynny, yn golygu bod
canran yr aelodau sy’n dod ar draws materion Cod Ymddygiad yn gymharol
fychan. Gan hynny, roedd y gwaith
cenhadu a gwneud y cyswllt a rhoi’r gefnogaeth am fod yn waith cyson, ond fel
roedd yr adroddiad yn nodi, roedd rhaid cychwyn yn rhywle a chreu platfform i
ddatblygu perthynas fwy byw.
·
Fel y corff â’r cyfrifoldeb statudol tuag at
ymddygiad aelodau yn y cynghorau cymuned, roedd yn bwysig nad oedd y Pwyllgor
Safonau yn mynd ar goll yn y broses o gefnogi a hyrwyddo, a’i fod yn cael ei
weld fel y corff statudol gyda’r rôl drosolwg a chynnal.
Mewn ymateb i gwestiynau, nododd y Swyddog
Monitro:-
·
Ei bod yn amlwg bod yna amrywiaeth ar draws Cymru o ran sut mae
pwyllgorau safonau yn gweithredu. Roedd
sôn am ymestyn y Fforwm Cadeiryddion ar draws Cymru gyfan, a byddai hynny’n
rhoi cyfle i gychwyn cael cysondeb.
Roedd y pwyllgor hwn wedi ymateb i Adroddiad Richard Penn
drwy weld beth mae pobl eraill yn wneud, ac efallai y gellid dysgu o hynny er
mwyn edrych ar y ffordd mae’r pwyllgor yn gweithio. Ychwanegwyd mai’r neges o Gynhadledd Safonau
Cymru Gyfan a gynhaliwyd yn ddiweddar oedd bod lle i ni ddysgu oddi wrth ein
gilydd.
·
O ran y rhwystredigaeth na all aelodau bellach gymryd rhan mewn
trafodaethau ar faterion lle mae ganddynt gyfraniad i’w wneud, bod modd cael goddefeb ar gyfer arbenigedd penodol. Fodd bynnag, ni chredid y byddai yna newid
i’r arweiniad na’r ddeddfwriaeth o amgylch datgan buddiant. Fel roedd y Grŵp Tasg wedi amlygu, efallai
y dylai’r hawl a’r seiliau ar gyfer goddefeb gael eu
hamlygu yn gliriach, fel, os ydi’r sefyllfa’n codi, bod modd cyflwyno cais, er
derbyn bod yr amserlen ar gyfer gwneud hynny yn heriol iawn.
Mewn ymateb, nododd aelodau:-
·
Y credid bod lle i fod yn fwy hyblyg yma. Roedd ymgeisio am oddefiad yn drefn glogyrnaidd
iawn, ac roedd pobl yn debygol o gymryd y risg gyda materion cymharol fychan yn
y cynghorau cymuned, yn hytrach na mynd drwy’r broses.
·
Nad yw aelodau’n glir oes ganddynt fuddiant sy’n rhagfarnu ai peidio, a
bod y pwyllgorau craffu, yn enwedig, yn colli llawer o fewnbwn gan aelodau sydd
â phrofiad o’r hyn sy’n cael ei graffu, ond wedi gorfod gadael y cyfarfod. Yn hyn o beth, credid y byddai’n well
caniatáu iddynt gael dweud eu dweud, ond peidio pleidleisio ar y mater.
Nododd y Cadeirydd fod y drafodaeth ar
Adroddiad Richard Penn yn y Gynhadledd Safonau yn un
lefel uchel, ond ein bod ni, yng Ngwynedd, wedi gwneud camau breision i ddeall
yr adroddiad o’n safbwynt ni ein hunain.
Ychwanegodd, petai unrhyw bwyllgorau safonau eraill wedi cyflawni
ymarferiad tebyg i’r Grŵp Tasg yng Ngwynedd, y byddai’n ddiddorol dwyn yr
holl waith at ei gilydd er mwyn gweld oes yna themâu tebyg y gellid eu trafod
ymhellach.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro fod
Fforwm Cadeiryddion y Gogledd a’r Canolbarth wedi ennill ei blwyf, a’i bod yn
amlwg o argymhellion Richard Penn bod hwn am gael ei
wneud yn fforwm cenedlaethol fyddai’n gyfle i rannu ymarfer da, trafod
problemau a materion mwy gweithredol i’r pwyllgorau a lledaenu cysondeb.
Diolchwyd i’r Grŵp Tasg am eu gwaith a
mynegwyd cymeradwyaeth i’r argymhellion.
Awgrymwyd
mai’r her fwyaf fyddai’r angen i gael trefn datrys leol mewn lle, a holwyd sut
fyddai hynny’n gweithio yn ymarferol.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-
·
Bod yr egwyddor yn hollol briodol ac i’w gefnogi, gan ei bod yn llawer
gwell tynnu’r gwres o sefyllfa drwy drafodaeth a chytundeb yn lleol, na mynd
drwy broses gwynion ffurfiol a maith.
·
Gydag unrhyw gyfundrefn o’r fath, roedd yna ddwy ochr, a’r cam cyntaf
oedd sefydlu beth oedd y ddwy ochr.
Roedd pob cŵyn sy’n cael ei datrys yn
lleol yn cymryd amser ac adnoddau i sicrhau tegwch a chyfiawnder â’r ddwy ochr
.
·
Bod rhaid bod yn ofalus rhag codi disgwyliadau
pobl ynglŷn â gallu’r drefn i gyflawni heb fod yr adnoddau ar ei gyfer
mewn lle.
·
Bod rhaid i’r ddwy ochr arddangos dymuniad a pharodrwydd i ddatrys yn
lleol, ac nad oedd y drefn yn addas mewn rhai achosion oherwydd difrifoldeb yr
ymddygiad neu’r her.
·
Y dylai’r drefn ddigwydd yn sydyn ac effeithiol er mwyn datrys, ond roedd
angen buddsoddiad adnoddau ac amser i wneud chwarae teg â phobl mewn cyd-destun
fel hyn.
Mewn ymateb, nodwyd y cydnabyddid bod hyn
yn heriol a bod angen ewyllys da i wneud i’r drefn weithio, a phwysleisiwyd bod
aelodau’r pwyllgor ar gael, e.e. drwy is-bwyllgor, i gynorthwyo’r Swyddog
Monitro gyda’r gwaith.
Mynegodd y Swyddog Monitro ei siomedigaeth
nad oedd yn glir sut roedd argymhellion Richard Penn
am weithio o ran adnoddau, ayb, yn enwedig pe byddai’r drefn yn cael ei
hymestyn i gynghorau cymuned.
Ategodd y Cadeirydd y sylw hwn, gan
ychwanegu bod y broblem yn ddyrus o ran amseru hefyd,
gyda materion yn cymryd amser maith i fynd drwy’r drefn.
Diolchwyd i’r Swyddog Monitro a’i dîm am
roi cefnogaeth dda i Gyngor Tref Tywyn bob amser. Nodwyd nad oedd y bobl hynny oedd fwyaf angen
cefnogaeth yn mynychu’r sesiynau hyfforddiant, a bod yr aelodau weithiau’n amharod i drafod rownd bwrdd, ac yn methu gwneud
hynny bellach gan fod popeth yn digwydd ar Facebook.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi cefnogaeth briodol
i glercod cynghorau cymuned a thref, a holwyd a ellid cynnal cyfarfod rhithiol
gyda’r holl glercod fel dull o gynnig arweiniad a chefnogaeth. Ychwanegwyd ei bod yn anodd iawn dod o hyd i
bobl i wneud y gwaith, ac na chytunid â’r gofyn i glercod feddu ar gymhwyster,
yn enwedig yn y cynghorau lleiaf.
Croesawyd awgrym y Grŵp Tasg y dylid
cael llyfryn bychan syml yn esbonio’r Cod Ymddygiad i’w gyflwyno i aelodau wrth
iddynt dderbyn eu swyddi.
Rhannodd y Cadeirydd y sleidiau ‘Safonau – golwg o Wynedd’ a gyflwynodd i
Gynhadledd Safonau Cymru Gyfan yn ddiweddar.
Nodwyd
bod y cyfeiriad yn y sleidiau at fframio gwaith pwyllgor safonau yng
nghyd-destun Llesiant, ac yn enwedig y 5 ffordd gynaliadwy o weithio, yn bwynt
pwysig iawn, gan fod safonau yn torri ar draws pob dim ac yn greiddiol i
bopeth. Nodwyd hefyd bod ymddygiad, a
chwynion am ymddygiad, yn cael effaith ar iechyd a lles y dioddefwyr a’r sawl y
gwneir cŵyn yn eu herbyn.
Diolchodd y Swyddog Monitro i’r Grŵp
Tasg a’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau am eu gwaith, gan nodi:-
·
Y dymunai gyflwyno rhaglen waith i gyfarfod nesaf y pwyllgor yn
seiliedig ar adroddiad y Grŵp Tasg, gyda chamau ymarferol ar gyfer rhoi’r
materion hynny ar waith.
·
Yn y cyfamser, y byddai’n trafod yr adroddiad gyda Grŵp Llywodraethu’r
Cyngor, er enghraifft, ac yn amlygu rhai o’r pwyntiau sydd wedi codi o’r
drafodaeth, fel bod modd bwydo hynny i mewn i’r gwaith corfforaethol sy’n
ymwneud â chofrestru risg, ayb, a dod yn ôl i’r pwyllgor gydag adroddiad ar y
cyd â’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau.
·
Bod rhai o’r materion am ddod yn gamau gweithredu, ac eraill yn faterion
fydd yn cael eu hymgorffori i mewn i drefniadau arferol o ran cyd-gysylltu ayb,
gan hefyd gyd-blethu hyn oll gyda’r gwaith o baratoi’r protocol ar y berthynas
rhwng y Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol.
Mewn ymateb i awgrym, cytunwyd bod y
Swyddog Monitro a’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyd-weithio gyda’r
Grŵp Tasg ar lunio’r rhaglen waith cyn y pwyllgor nesaf, fel ffordd o
sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn adlewyrchu’r weledigaeth sy’n
deillio o’r gwaith.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â sut orau i
weithredu ar awgrym y Grŵp Tasg bod y Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor
Cymunedol yn gwneud darn o waith gyda chlercod cynghorau cymuned a thref i
ddeall yn well beth yw eu hanghenion.
Eglurodd y Swyddog Monitro, oherwydd yr
Etholiadau, na fyddai modd i’r Gwasanaeth ddarparu adnodd i wneud gwaith o
sylwedd i gefnogi’r broses ar hyn o bryd.
Cytunwyd bod y Cadeirydd a’r
Aelod Pwyllgor Cymunedol yn cynnal trafodaeth gychwynnol gyda sampl o glercod
cynghorau cymuned a thref, er mwyn dechrau deall yr anghenion yn y sir.
Awgrymwyd bod
angen sicrhau croesdoriad o glercod ar gyfer yr
ymarferiad hwn, e.e. grŵp yn seiliedig ar ddalgylch ysgol uwchradd, clerc
profiadol a chlerc llai profiadol, Partneriaeth Ogwen (sy’n cynnig cefnogaeth i
glercod), a chynghorau ardal Penllyn (sy’n rhannu clerc). Awgrymodd y Swyddog Monitro y gellid
defnyddio’r rhestr o gynghorau a baratowyd ar gyfer y peilot hyfforddiant fel
man cychwyn, ac adeiladu ar hynny.
PENDERFYNWYD
(a) Gofyn i’r Swyddog Monitro ddod yn ôl gydag
adroddiad i’r Pwyllgor, mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Tasg a Gorffen, ar
gamau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Richard Penn.
(b) Bod y Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol yn
cynnal trafodaeth gychwynnol gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref, er
mwyn dechrau deall yr anghenion yn y sir.
Dogfennau ategol: