Aelod
Cabinet: Cyng. Dyfrig Siencyn
Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd
i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor
weithredu arnynt i’r dyfodol.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cafwyd rhagair i’r
adroddiad gan Arweinydd y Cyngor gan bwysleisio pwysigrwydd bod y Pwyllgor yn
cael cyfle i drafod y pwnc Newid Hinsawdd.
Eglurodd bod Bwrdd
Newid Hinsawdd bellach wedi ei sefydlu ar gyfer cynnig trosolwg corfforaethol
i’r gwaith sy’n digwydd o fewn y Cyngor ar ddatrysiadau. Trafododd ymrwymiad y
Cyngor i ostwng eu hallyriadau carbon fel modd o gyrraedd sero net Carbon erbyn
2030 sef targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector gyhoeddus yng
Nghymru. Croesawyd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd a phenodwyd i arwain ar y
gwaith yma gyda chyfeiriad corfforaethol ac ar gyfer cydlynu gwaith
trawsadrannol.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Reolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gan gyfeirio at y gwaith sydd wedi
digwydd hyd hyn, gan gynnwys:
-
Mapio’r holl elfennau perthnasol gan adnabod
bylchau er mwyn medru llunio cynllun gweithredu i’r dyfodol
-
Egluro sut mae’r Cyngor
yn bwriadu, ac eisoes wedi, ymateb i effeithiau Newid Hinsawdd
-
Nodi bod yr adroddiad yn crynhoi’r prif
enghreifftiau o’r gwaith
Yn ystod y
drafodaeth, cafwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
-
Croesawyd y Rheolwr Rhaglen i’w rôl newydd.
-
Holwyd aelod sut daeth y Bwrdd Newid Hinsawdd i
fodolaeth a gofynnwyd pwy yw’r aelodau. Ategwyd bod arbenigedd ar y pwnc ymysg
rhai aelodau a chynigwyd y dylai’r Bwrdd manteisio ar
yr arbenigedd yma.
-
Gofynnwyd am wybodaeth ynghylch a’r pwynt cyswllt o
fewn y Cyngor os yw aelodau yn dod ar draws mater sy’n effeithio ar newid
hinsawdd.
-
Cyfeiriwyd aelod at yr Adroddiad, yn arbennig pwynt
2.6, a holwyd os yw’r Cyngor yn manteisio ar ail-ddefnyddio gwastraff sy’n cael
ei greu, er enghraifft, drwy waith trin ffordd.
-
Mewn perthynas â chyrraedd net sero Carbon,
gofynnwyd am eglurder ynghylch dulliau cyrraedd y targed hwn.
-
Gofynnwyd am eglurder ar effaith gynlluniau gwaith
megis ffordd osgoi Llanbedr, gwaith ar y Morglawdd ag ati, ar allu’r Cyngor i
gyrraedd net sero Carbon.
-
Holwyd am y gwaith i ymdrin â ‘chlwyf yr Onnen’ a
sut mae’r Cyngor yn bwriadu datrys y broblem gan fod angen coed ar gyfer
amsugno carbon.
Mewn ymateb i’r
sylwadau nodwyd:-
-
Nodwyd bod cynrychiolaeth o benaethiaid ac aelodau
ar y Bwrdd Newid Hinsawdd a sefydlwyd fel bwrdd i roi statws i’r maes. Ategwyd
bod modd ystyried ehangu’r aelodaeth i gynnwys arbenigedd eraill.
-
Awgrymwyd i’r aelod mai’r Rheolwr Rhaglen fyddai’r
pwynt cyswllt os bydd unrhyw faterion yn codi, ac atgyfnerthwyd pwrpas y
Pwyllgor Craffu sef i ganiatáu i aelodau tynnu sylw swyddogion at y materion
sy’n codi yn eu wardiau.
-
Eglurwyd mai diffiniad net sero yw bod sefydliad yn
cyd-bwyso eu hallyriadau carbon gyda’u capasiti i
amsugno/storio carbon mewn coedwigoedd a thiroedd eraill.
-
Eglurwyd gan mai cynlluniau Llywodraeth Cymru a
Chyfoeth Naturiol Cymru yw’r gwaith ffordd y soniwyd yr aelod amdano, na fydd
hynny’n cael effaith ar waith Cyngor o
ran eu hôl troed Carbon.
-
Diolchwyd i’r aelod am ei gwaith fel pencampwr
Bioamrywiaeth ac awgrymwyd bod angen lledaenu negeseuon ynglŷn â'r gwaith
mae’r Cyngor yn ei wneud o ran Newid Hinsawdd.
-
Nodwyd bod cynllun gwaith er mwyn ymdrin â Chlwyf
yr Onnen i adnabod faint o goed sydd wedi eu heffeithio fel bod modd plannu
coed tebyg iddynt o ran bioamrywiaeth yn eu lle. Ategwyd bod y coed yn chwarae
rhan bwysig wrth amsugno Carbon.
-
Rhagwelir cyllido y swydd Rheolwr Rhaglen mewn
cyllideb parhaol, byddai’n ofynnol i wneud bid ariannol i’w ariannu. Y rôl yn
bwysig i gydlynu a sicrhau dealltwriaeth adrannol.
Dogfennau ategol: