Aelod
Cabinet: Cyng. Catrin Wager
Diweddariad
ar: Gweithredu ar Risgiau Llifogydd Mewndirol a Risgiau
Llifogydd Arfordirol
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Cafwyd rhagair gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd yn nodi mai
llifogydd yw’r un o’r ffordd fwyaf nodweddiadol sy’n dangos i ni fod Newid
Hinsawdd yn effeithio ar gymunedau lleol. Cydnabuwyd bod effeithiau i’w gweld
yn barod gyda mwy o dywydd annisgwyl a llifogydd sy’n difrodi cymunedau.
Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw'r gwaith atal llifogydd fel y ffordd orau
i ddiogelu trigolion yn wyneb heriau Newid Hinsawdd.
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y strategaeth yn ddogfen fyw a bod
modd ychwanegu ato fel mae datblygiadau yn digwydd. Aethpwyd ati i dywys yr
aelodau drwy’r adroddiad gan gynnig eglurhad ar y gwaith sy’n digwydd i adnabod
o ble daw’r dŵr mewn achos o lifogydd.
Ategwyd bod gwaith ymgysylltu hefyd ar waith ynghyd a thrafodaethau
gydag adrannau eraill i sicrhau bod y negeseuon yn cyrraedd y cymunedau.
Yn ystod y
drafodaeth, cafwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
-
Diolchwyd am yr adroddiad sy’n creu darlun manwl
o’r problemau o fewn y dalgylchoedd. Ategwyd bod broblem yng nghwm Pennant
ynghylch eiddo sy’n dioddef o ganlyniad i lifogydd. Awgrymwyd y dylid edrych ar
leoliadau sydd o dan fygythiad gan fod posibilrwydd y byddant yn dioddef yn y dyfodol.
-
Holwyd aelod os oedd rhestr risg er mwyn ymdrin â
phroblemau, fel bod modd mapio'r rhain i ragweld lle mae’r peryglon o ddifrod.
-
Mynegwyd pryder bod llifogydd yn digwydd i raddau o
ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw mewn afonydd a nentydd, awgrymwyd y dylid
edrych ar ffyrdd cyfoes o adeiladu er mwyn gwarchod eiddo rhag llifogydd yn y
dyfodol.
-
Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y trosiant staff o fewn
adrannau’r Cyngor yn ddiweddar, a bod cyfoeth o wybodaeth leol yn cael ei golli
wrth i staff adael eu swyddi.
-
Eglurwyd bod bylchau o wybodaeth ar fapiau a
defnyddiwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru gan nad yw bob cwrs dwr i’w gweld
arnynt.
-
Ategwyd pwysigrwydd bod Cynghorwyr yn rhan o unrhyw
drafodaethau gan fod problemau llifogydd mewn nifer o wardiau.
-
Holwyd pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod y clawdd yn
ddiogel yn Nhalsarnau fel na fydd peryg i’r gymuned
leol o ganlyniad i’r difrod.
Mewn ymateb i
sylwadau’r aelodau, nododd Pennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd y canlynol:-
-
Eglurwyd bod angen ysgogi pobl i ddatgelu os yw eu
heiddo yn dioddef o ganlyniad i lifogydd fel bod modd creu rhestr, ategwyd bod
nifer yn gwrthod oherwydd pryder am werth eu tai.
-
Cytunwyd bod angen edrych ar ffyrdd i addasu
adeiladu tai ar gyfer y dyfodol fel modd o’u hamddiffyn rhag llifogydd.
-
Cydymdeimlwyd a phryderon yr aelod bod gwybodaeth
leol yn cael ei golli wrth i staff adael, fodd bynnag sicrhawyd bod berthynas
gwaith rhwng y Cyngor a sefydliadau eraill yn gwella gyda phawb yn rhannu’r un wybodaeth.
-
Nodwyd bod cynllun i addysgu pobl ar ddulliau i
leihau risg llifogydd yn eu heiddo ac o fewn y gymuned fel gwaith ataliol.
-
Nodwyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am
y clawdd a chytunwyd i drefnu sgwrs rhyngddynt ar y mater.
Dogfennau ategol: