Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2021 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran /
gwasanaeth.
Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau
ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor
wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn
ymateb i’r argyfwng.
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn
parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen
arbedion.
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr
Adran Plant a Theuluoedd.
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u
egluro yn Atodiad 2).
• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾ Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾ Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r argyfwng Covid.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr eitem gan
y Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /
gwasanaeth.
Nodwyd fod effaith ariannol Covid yn
parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion
incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn
ymateb i’r argyfwng.
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth
Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad yw’n cyfarch gorwariant
oherwydd llithriad yn y rhaglen
arbedion.
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
eleni, tra fod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr Adran Plant a
Theuluoedd.
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2).
• Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
Tanwariant o (£285k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i
gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant net o (£1,957k) ar gyllidebau Corfforaethol yn mynd i
Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i wynebu’r heriau
ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad i’r
argyfwng Covid.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw Cyngor ynghyd a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Amlygwyd fod effaith ariannol sylweddol wedi bod i’r Cyngor o ganlyniad i Covid
19 gyda cyfuniad o gostau ychwanegol ynghyd â cholledion incwm. Eglurwyd fod y
Cyngor yn gwneud ceisiadau i ad-hawlio costau yn fisol o Gronfa Caledi
Llywodraeth Cymru.
Mynegwyd yn ôl ym mis
Ionawr fod camau wedi ei gwneud i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer
2021/22, ond eglurwyd fod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai
meysydd, gyda oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg.
Tynnwyd sylw at y prif
faterion gan nodi fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran
Oedolion, gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r
gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran ac fod
gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau
ychwanegol am y cyfnod.
Eglurwyd yn dilyn
penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant
yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau
arbedion amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran.
Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn
parhau yn yr adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu
arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k ac fod yr adran wedi wynebu costau
ychwanegol yn ymateb a covid, ond fod Llywodraeth Cymru eisoes oedi digolledu a
fod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.
Yn Gorfforaethol nodwyd
fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu
treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor.
Nodwyd y penderfyniad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
¾
Eglurodd y Pennaeth
Cyllid nad oedd arian grant Llywodraeth wedi ei ragdybio llynedd, ond fod hynny
wedi ei wneud eleni, ac o ganlyniad ar y cyfan fod y sefyllfa yn gyffredinol
foddhaol.
¾
Ychwanegodd y
Pennaeth Cyllid fod angen cyflawni arbedion, ond fod sefyllfa dau adran yn
anodd eleni.
¾
Mynegwyd o ran yr Adran
Oedolion fod yr adran dan bwysau o ganlyniad i achosion gofal dwys ynghyd a
gweithio dan amodau Covid. Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud llynedd i
hawlio costau, ynghyd a derbyn grantiau hwyr.
¾
Mynegwyd yn y maes
Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod cynnydd yn y gwastraff sydd yn cael ei gasglu
ynghyd ag addasiadau i’r gwasanaeth o ganlyniad i reoliadau Covid. Amlygwyd
pryder am salwch staff, ynghyd a cholled incwm i’r adran, a nodwyd fod gwaith
yn cael ei wneud i ddod o hyd i swm sylweddol o arian.
¾
Diolchwyd ar ran yr
Adran Plant a Theuluoedd fod y cynllun arbedion Dechrau i’r Diwedd wedi ei
ddileu, ac o ganlyniad bod sefyllfa ariannol yr adran yn foddhaol eleni..
¾
Amlygwyd fod pryder
yn parhau am gostau cludiant yr Adran Addysg, ac fod angen edrych ar ddarpariaeth
ôl-16.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: