Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Cofnod:

Gohiriwyd trafod yr adroddiad yma yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr, 2015, oherwydd swmp y wybodaeth i alluogi’r aelodau i roi sylw priodol i’r adroddiad.

 

         Gosododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi y sefydlir trefn fwy trylwyr i alluogi’r Pwyllgor i fodloni ei hun bod y camau gweithredu i ymateb i gynigion gwella adroddiadau archwilwyr allanol wedi eu gweithredu.

 

Nodwyd y cyflwynir adroddiad o ran archwiliadau allanol bob 6 mis i’r Pwyllgor. Eglurwyd mai’r bwriad o dan y drefn newydd yw ystyried pob cynnig/argymhelliad yn unigol a pan fo’r Pwyllgor yn fodlon fod cynnig/argymhelliad wedi ei gwblhau neu nad yw bellach yn berthnasol gellir ei dynnu o’r rhestr.

 

Mewn ymateb i bryderon aelodau o ran cael sicrwydd gwirioneddol bod y camau gweithredu i gynigion gwella wedi eu gweithredu, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod rhaid ymddiried yng ngwaith y Penaethiaid Adran a’r swyddogion ond os yw’r Pwyllgor o’r farn bod angen eglurhad pellach gellir galw Aelodau Cabinet neu swyddogion gerbron.

 

Nododd y Prif Weithredwr mai rôl y Pwyllgor fel y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu oedd cadw trac ar y camau gweithredu gan benderfynu os yw’n fodlon eu bod wedi eu cwblhau neu gyda’r cynnydd hyd yn hyn ac nid ail-wneud gwaith y Pwyllgorau Craffu.

 

Tywysodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau drwy’r atodiad a oedd yn nodi’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol yn ystod y tair blynedd diwethaf ynghyd a’u cynigion ar gyfer gwella, y cynlluniau gweithredu i ymateb i’r cynigion gan yr archwilwyr ynghyd â’r cynnydd hyd yn hyn. Rhoddwyd sylw yn benodol i’r argymhellion lle nodwyd eu bod wedi eu cwblhau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod rhai sylwadau yn hirfaith felly gofynnir am wybodaeth fwy cryno ar gyfer y dyfodol gan gyfeirio at brosiect yng nghynllun strategol y Cyngor pan fo’n berthnasol e.e. Arolwg Estyn;

·         Y dylid ystyried cynnwys dolenni i’r adroddiadau yn y tabl;

·         Tudalen 15 1.2.1 4i. Sicrhau bod gwasanaeth yn hybu annibyniaeth i bobl hyn - angen derbyn cadarnhad mai ond yng nghyswllt teleofal y cwblhawyd y gwaith;

·         Tudalen 20 1.2.2 ii. Cynllunio strategol gyda BIPBC yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) angen derbyn cadarnhad bod monitro’r gwasanaeth therapiwtig ar gyfer plant/pobl ifanc sy’n cael eu lleoli tu allan i ardal yr awdurdod yn digwydd;

·         Bod angen eglurdeb o ran arweinydd/cyfrifoldeb lle na nodir;

·         Tudalen 21 1.2.2 iii. Ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau eiriolaeth – y dylid derbyn mwy o wybodaeth gan nad yw’r sylwadau yn cadarnhau bod cysondeb yn ansawdd y cynlluniau gofal;

·         Tudalen 23 1.2.2 iia. Cyfleoedd i fanteisio ar ofal iechyd a llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (Llety) - y dylid derbyn cadarnhad o ran bwriadau'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghyswllt ymateb i’r diffyg amrediad lleoliadau sydd ar gael i rai sydd hefo anghenion cymhleth;

·         Tudalen 26 1.2.2 i. Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau a gofynion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a gweithredu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithredu’r gweithdrefnau – y dylid derbyn cadarnhad pam fod ceisiadau DoLS wedi cynyddu o 7 yn 2013-14 i 365 yn 2014-15;

·         Tudalen 58 2.2 Adolygiad Gwasanaeth Gofal Cartref Pobl Hyn Gwynedd gan yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC) nodir fel cynnyddAr waith (parhaus)’, byddai’n fwy synhwyrol nodi ei fod wedi ei gwblhau ar ddyddiad penodol gan ddweud ei fod yn waith parhaus. Nodwyd y gofynnir am gadarnhad o’r sefyllfa;

·         Tudalen 59 a 60 2.3 Adolygiad Cenedlaethol o DoLS yng Nghymru 2014 – Awdurdod Lleol Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – AGGCC nodir yn y golofn cynnydd bod camau penodol yn y cynllun gweithredu wedi eu gwireddu ond ddim yr argymhelliad i gyd. Dylid nodi un cynnydd sefAr waith’;

·         Tudalen 64 2.5 C3 Sicrhau nad yw’r broses o drosglwyddo gweithgareddau hyrwyddo budd-dal o’r Cyngor i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) yn cael effaith negyddol ar y broses o ymgysylltu a dinasyddion - Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed cytundeb blynyddol gyda CAB yn dod i ben 31 Mawrth 2016, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y byddai cytundeb blynyddol newydd ar gyfer y flwyddyn 2016-17.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad y byddai adroddiadau cenedlaethol archwilwyr allanol yn cael eu cynnwys pan gyflwynir y rhestr i’r Pwyllgor ymhen 6 mis ynghyd â’r rhai sydd yn benodol i Wynedd. Ychwanegodd y Prif Weithredwr pan ystyrir adroddiadau cenedlaethol y dylai’r Pwyllgor fodloni ei hun o ran y rhesymeg peidio gweithredu yn unol â rhai argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Tynnu o’r rhestr yr argymhellion sydd wedi eu cwblhau heblaw am y rhai y gofynnir am eglurhad/gwybodaeth bellach, sef:

·         Tudalen 15 1.2.1 4i. Sicrhau bod gwasanaeth yn hybu annibyniaeth i bobl hŷn;

·         Tudalen 20 1.2.2 ii. Cynllunio strategol gyda BIPBC yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS);

·         Tudalen 21 1.2.2 iii. Ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau eiriolaeth;

·         Tudalen 23 1.2.2 iia. Cyfleoedd i fanteisio ar ofal iechyd a llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (Llety).

(ii)    Gofyn am eglurhad/gwybodaeth bellach o ran yr argymhellion isod lle nodir eu bod ‘Ar waith’:

·         Tudalen 26 1.2.2 i. Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau a gofynion Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a gweithredu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer gweithredu’r gweithdrefnau;

·         Tudalen 58 2.2 Adolygiad Gwasanaeth Gofal Cartref Pobl Hyn Gwynedd gan yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGCC).

(iii)  Cymeradwyo’r drefn hon fel trefn ar gyfer y dyfodol i’r Pwyllgor fod yn fodlon ar weithrediad y Cyngor i ymateb i adroddiadau archwilwyr allanol, gan gynnwys adroddiadau cenedlaethol.

 

Dogfennau ategol: