I ystyried
cais Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi
trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y
meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd
drwy sicrhau:
• Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO
PREIFAT – Mr A
` Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais
a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd
i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar
droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am
gefndir y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y gollfarn yn un ar
gyfer hylendid bwyd ac nad oedd wedi troseddu cyn nac ar ôl hynny. Nododd bod
ganddo deulu ifanc a'i fod angen swydd ychwanegol oedd yn cynnig hyblygrwydd
iddo dreulio amser gyda’i deulu. Eglurodd bod ganddo brofiad o fod yn ofalwr ac
felly yn deall y cyfrifoldebau oedd yn ymwneud a bod yn yrrwr tacsi addas a
phriodol a bod ganddo gwmni tacsi oedd yn fodlon ei gyflogi.
PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y
canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu
ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau
ar lafar gan yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn Ionawr 2020 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Gogledd Cymru ar dorri unrhyw ddarpariaethau rheoliadau hylendid bwyd,
yn groes i Erthyglau 14 (1) 16 18 (2) 18 (3) neu 19 o Reoliad (EC) 178/2002
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Derbyniodd ddirwy o £330 gyda thal ychwanegol
o £33.00 a chostau £150
Ystyriwyd
paragraff 2.4 o Bolisi’r Cyngor sydd yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng
nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r
mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae rhan 17 o’r Polisi
yn ymwneud â thorri deddf, is-ddeddf neu amod trwydded. Nodir ei fod yn
annhebygol y rhoddir trwydded i ymgeisydd â ganddo gollfarn neu fater arall i’w
ystyried yn gysylltiedig â thorri deddf, oni bai bod cyfnod o 12 mis wedi mynd
heibio ers yr achos mwyaf diweddar.
Daeth yr Is-bwyllgor i
gasgliad bod digon o amser wedi mynd heibio ers i’r ymgeisydd gael ei
ddyfarnu'n euog am i'r trothwy deuddeg mis o dan y Polisi fod wedi mynd heibio.
Ni chafwyd unrhyw gollfarnau dilynol ac ni chafwyd unrhyw gollfarnau blaenorol
eraill. Derbyniwyd bod yr ymgeisydd yn cydnabod difrifoldeb troseddau yn
ymwneud â diogelwch bwyd ac yn derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriad ynghyd a
deall a derbyn difrifoldeb a phwysigrwydd y cyfrifoldeb fyddai arno wrth yrru a
chludo teithwyr.
Ystyriwyd hefyd nad
oedd tystiolaeth bod ei gyflwr meddygol (Clefyd Siwgr Math 2 ysgafn) yn broblem
a'i fod yn cael ei gadw dan reolaeth trwy ddeiet yn unig.
Wedi pwyso a mesur y
dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y
cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd