Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Read
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle (yn
ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau
diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)
Cofnod:
Prif gynllun
arfaethedig yn cynnwys dymchwel 56 o fflatiau, creu lleiniau newydd ar gyfer
lleoli carafanau statig, llety tîm newydd, caffi traeth newydd gan gynnwys
teras a man chwarae, amddiffynfeydd arfordirol newydd, adlinio ychydig ar Lwybr
Arfordir Cymru Gyfan yn ogystal â thirlunio cysylltiedig, gwaith draenio,
mynediad ac isadeiledd (cynlluniau diwygiedig)
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar
gefndir y cais. Rhannwyd y datblygiad yn barseli:
· Parsel B - Lleoli 27 o
garafanau sefydlog.
· Parsel E - Lleoli 3
carafan sefydlog a codi dau adeilad deulawr i ddarparu llety i staff.
· Parsel F - Dymchwel 4 bloc
rhandai (56 rhandy / 272 gofod i ymwelwyr) a lleoli 26 o garafanau sefydlog.
· Parsel G - Lleoli 80 o
garafanau sefydlog.
· Parsel H - Ailddatblygu
cyn safle gwaith trin carthion a chodi caffi unllawr gyda theras yn y blaen a
maes parcio
· Parsel I - Lleoli 18 o
garafanau sefydlog.
· Parsel J - Gwaith
amddiffyn yr arfordir sy'n cynnwys gwaith ar 320m o'r arfordir. Mae’r bwriad yn
golygu ail-linio'r arfordir i gyfeiriad y tir i greu traethau tywod a graean
rhwng pedwar morglawdd cerrig amddiffyn ar siâp cynffon pysgodyn. Bydd oddeutu 120m o'r gwaith yn cymryd lle yr
amddiffynfeydd carreg llinellol presennol. Bydd Llwybr Arfordir Cymru hefyd yn
cael ei ail-alinio.
Oherwydd maint y safle,
diffinwyd y cais fel ‘datblygiad mawr’ ac o ystyried bod sawl elfen i’r cynllun
aseswyd pob un ar wahân.
Adeiladu Caffi un-llawr newydd ar ffin ddwyreiniol y safle
fyddai’n cynnwys gofod parcio ceir, tirlunio a gwaith plannu.
O ystyried bod y safle
ar dir a oedd yn ffurfio rhan o'r cyn safle trin carthion, ystyriwyd bod hwn yn
dir a ddatblygwyd o'r blaen gyda’r defnydd hefyd yn briodol yng nghyd-destun
defnydd y safle ehangach fel parc gwyliau. Er bod adeiladau mwy wedi'u lleoli
tuag at ganol y parc gwyliau, mae'r strwythurau sydd i'w gweld ar hyd y morlin
yn bennaf yn siales a charafanau un-llawr.
Amlygwyd bod y cynllun gwreiddiol yn cynnwys adeilad caffi deulawr. Yn
dilyn cynnal trafodaethau gyda swyddogion, cytunwyd i’r adeilad fod yn un-llawr a bod
gyda gostyngiad yn raddfa a chymeriad yr adeilad bellach yn briodol ar gyfer ei
leoliad arfordirol. Ystyriwyd bod y dyluniad yn un o ansawdd uchel o ran ei
ddyluniad, gosodiad ac ymddangosiad ac y byddai yn ymestyn yr amrediad o
gyfleusterau yn ardal y cynllun. Cefnogwyd y bwriad gan Ddatganiad Economaidd
oedd yn amlygu y byddai’r cynllun yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth leol.
Adroddwyd bod modd cael
mynediad at y safle gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus, beicio a cherdded gyda’r
safle wedi'i leoli union gyferbyn â'r llwybr Arfordir -
nodwyd bod y datganiad cefnogi cynllunio yn cadarnhau bod y Caffi ar
gael i ddefnyddwyr y Llwybr Arfordir. Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio â
gofynion polisi MAN 1, MAN 6 a TWR 1 a bod yr egwyddor o adeiladu caffi yn
dderbyniol.
Gwaith Amddiffyn i 320m o'r morlin, gan gynnwys
ail-alinio'r tir ar y traethlin, gosod pedwar morglawdd 'rock-armour' mewn siâp
cynffon pysgodyn a chreu ardaloedd o draeth tywod/cerrig mân rhyngddynt.
Amlygwyd bod y cais wedi cael ei gefnogi gan dystiolaeth
arwyddocaol yn y Datganiad Amgylcheddol a'r Datganiad Economaidd fyddai’n
cyfiawnhau'r gwaith yma. Nodwyd byddai’r gwaith arfordirol wedi'i leoli'n agos
at y ffurf adeiledig presennol ac yn sicrhau dyfodol hirdymor y parc gwyliau.
Ystyriwyd bod egwyddor y gwaith arfordirol yn y lleoliad yma yn cydymffurfio â
pholisi AMG 4.
Adroddwyd bod Cynllun
Rheoli Traethlin (SMP) ar gyfer y rhan yma o'r morlin yn nodi 'Dim Ymyrraeth
Weithredol' dros y 100 mlynedd nesaf, fodd bynnag, nodi’r y polisi perthnasol
na fyddai hyn yn atal rheolaeth breifat leol o'r morgloddiau. O ganlyniad,
ystyriwyd bod yr egwyddor o amnewid ac ymestyn yr amddiffynfeydd presennol yn
dderbyniol mewn egwyddor fodd bynnag, nodwyd y byddai’n rhaid i'r cynllun
gydymffurfio â nifer o bolisïau gan gynnwys ARNA 1
Addasiadau i’r ddarpariaeth llety gwyliau ac ymestyn safle
Tynnwyd sylw at hanes
ceisiadau cynllunio'r safle oedd yn berthnasol i'r agwedd yma o'r cais gan nodi
bod cais rhif C10D/0141/40/LL yn rhoi caniatâd i gynllun oedd yn cynnwys
dymchwel 450 siale, creu sylfeini ar gyfer 209 carafán sefydlog, 75 caban a
chreu safle carafanau teithiol. O ganlyniad i’r caniatâd hwn, bu gostyngiad
cyffredinol yn y ddarpariaeth llety gwyliau ar y safle. Ategwyd bod yr amodau
cyn-cychwyn perthnasol wedi eu gweithredu a'r caniatâd wedi ei weithredu'n
rhannol. Bwriad y cynllun presennol yw ceisio addasu'r caniatâd a roddwyd
eisoes drwy gadw'r 184 fflat presennol y rhoddwyd caniatâd i'w dymchwel yn
flaenorol. Nodwyd bod Polisi TWR 2 a PS14 yn ceisio darparu amrediad o lety
gwyliau ac na fyddai cadw'r fflatiau yn creu gwrthdaro o ran polisi ac yn
sicrhau amrediad ehangach o lety yn y safle.
Adroddwyd
bod Polisi TWR 3 (sy'n ymdrin â Safleoedd Carafanau Sefydlog a Siales) yn nodi
bod unrhyw gynnydd yn nifer yr unedau carafanau gwyliau sefydlog neu sialens gwyliau
yn fach ac yn gydnaws â graddfa unrhyw welliannau i’r safle. Eglurwyd bod
paragraff 6.3.74 polisi TWR 3 yn cydnabod nad yw mân o ran ardal y safle yn
cael ei ddiffinio, ond fel rheol gyffredinol, bydd oddeutu 10% o gynnydd yn
nifer yr unedau ar yr adeg pan wnaed y cais gwreiddiol yn cael ei ystyried yn
fân.
Mae
addasiadau diweddar wedi gweld buddsoddiad mawr gyda chyfleusterau'n cael eu
huwchraddio ac addasiadau'n cael eu gwneud i ddarpariaeth llety Hafan y Môr.
Caniatawyd y cynlluniau cychwynnol drwy ganiatâd C10D/0141/40/LL (2010) ac
felly ystyriwyd ei bod yn rhesymol, o ran polisi TWR 3, mai caniatâd
C10D/0141/40/LL oedd y cais gwreiddiol yn yr achos yma gyda’r polisi yn
cydnabod y dylid ystyried pob cais yn ôl ei rinwedd ei hun yn sgil yr amrywiaeth
sylweddol ym maint, natur a lleoliad safleoedd.
Eglurwyd
bod caniatâd C10D/0141/40/LL yn caniatáu lleoli cyfanswm o 1,238 carafán
sefydlog gyda’r cais presennol yn ceisio lleoli 85 uned sefydlog ychwanegol,
sy'n llai na'r 10% a nodi’r yn y polisi. Fodd bynnag, yr ystyriaeth bolisi
cyffredinol yw sicrhau nad yw'r cynnydd mewn niferoedd yn cael niwed
annerbyniol ar ymddangosiad y safle.
Adroddwyd bod Astudiaeth
Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol
Eryri yn diffinio ‘bach’ fel 11-25 uned (yn gyffredinol, yn llai na 2 hectar o
ran ardal). Yn ychwanegol, roedd yr astudiaeth yn cydnabod, ymhob achos, y
dylai datblygiad osgoi'r ymyl arfordirol sydd heb ei ddatblygu a'i osodiad
uniongyrchol ac y dylid eu gwahanu'n glir fel bod eu heffeithiau yn aros yn
lleol ac nad oes dylanwad diffiniol cronnus ar y dirwedd.
Eglurwyd bod parsel G (cais C10D/0141/40/LL)
yn wreiddiol yn cynnwys gosod carafanau sefydlog yn agos at yr ymyl arfordirol
ond cafodd y cynllun ei addasu gyda’r carafanau bellach wedi'u gosod lawer
pellach yn ôl ac yn unol â'r ardal y rhoddwyd caniatâd iddi dan ganiatâd
C10D/0141/40/LL. Erbyn hyn, mae'r ardal rhwng y morlin a'r unedau sefydlog yn
cael ei chynnig fel ardal i'w neilltuo i ddarparu ardal bioamrywiaeth amgen ac
i gael ei phlannu fel glaswelltir blodau gwyllt wedi ei ffensio er mwyn ei
gwarchod, ac er mwyn gwahaniaethu'n glir rhwng yr ymyl arfordirol a'r parc
gwyliau. Oherwydd y tirweddu presennol sy'n amgylchynu'r safle a'r tirlunio
arfaethedig, ystyriwyd bod yr effeithiau gweledol yn rhai lleol eu natur ac o
ystyried y bydd unrhyw effeithiau gweledol eraill yn cael eu lliniaru gyda
phellter, ni ystyriwyd y bydd effaith ddiffiniol ar y dirwedd.
Adeiladu llety newydd i staff drwy
ddymchwel tri adeilad sydd ar hyn o bryd yn darparu 40 fflat hunangynhwysol ar
gyfer staff ac adeiladu dau adeilad newydd fydd yn darparu 76 o unedau dwy
ystafell wely.
Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli yng nghefn
gwlad agored ac nad oedd polisi penodol yn y cynllun datblygu yn ymdrin â llety
o'r math yma. Nodwyd bod Polisi PCYFF 1 yn nodi y dylid ymwrthod â datblygiadau
oni bai bod eu lleoliad mewn cefn gwlad yn hanfodol. Fodd bynnag, ystyriwyd bod
y safle eisoes yn darparu llety i staff ar y safle, ar ardal i'w datblygu ar
gyfer llety newydd yn cael ei ystyried yn dir a ddatblygwyd o'r blaen.
Ategwyd bod
yr unedau staff presennol yn ffurfio rhan o ganiatâd cynllunio
C10D/0141/40/LL ac yn cael eu rheoli yn
yr un ffordd â llety gwyliau gydag amod sy'n cyfyngu ar feddiant i ddefnydd
tymhorol yn unig gyda phreswylfa staff parhaol mewn lleoliad arall. Drwy
reoli'r unedau yn y fath fodd, gellid sicrhau nad ydynt yn gyfystyr â darparu
tai newydd mewn cefn gwlad agored. Nid yw'r cynnydd net o 24 gofod gwely i
staff yn cael ei ystyried yn afresymol a thrwy osod amodau i sicrhau nad yw'r
unedau hyn yn darparu llety preswyl parhaol, ni ystyriwyd bod y cais yn gwyro'n
sylweddol oddi wrth bolisi cynllunio
Yng nghyd -destun
mwynderau preswyl a chyffredinol, mae’r safle yn barc gwyliau hir sefydlog ac
wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored.
Adroddwyd bod eiddo preswyl gwasgaredig o amgylch y safle ond rhagwelwyd y bydd
yr effeithiau ar dai preswyl i'r de a'r gorllewin yn fwy o ystyried bod y
gwaith arfaethedig yn bennaf o fewn y safle presennol ac i'r dwyrain. I'r
dwyrain, mae'r datblygiad yn cynnwys y gwaith amddiffyn arfordirol, adeiladu'r
caffi a datblygu parsel G a’r eiddo preswyl agosaf yw Tyddyn Berth. Nodwyd bod
tai teras Afon Wen hefyd wedi'u lleoli i'r gogledd-ddwyrain a Sŵn y Don
(tŷ annedd a safle carafanau) wedi'i leoli i'r dwyrain ac er y codwyd
pryderon gan breswylwyr cyfagos, nid oeddynt yn gwrthwynebu'r cynllun yn ei
gyfanrwydd.
Rhagdybwyd y byddai’r
effaith fwyaf yn ystod cyfnod adeiladu'r gwaith amddiffyn arfordirol, fydd yn
cael ei wneud dros gyfnod cymharol fyr o amser – awgrymwyd y gellid rheoli'r oriau adeiladu drwy amod i sicrhau
bod mwynderau eiddo cyfagos yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnodau sydd fwyaf
sensitif i sŵn. Nodwyd y byddai’r cyfnod adeiladu hefyd yn effeithio ar
fwynderau a mwynhad defnyddwyr y llwybr arfordir ond unwaith bydd y cynllun wedi'i gwblhau, dylai
gael effaith fwynderol bositif ar ddefnyddwyr y llwybr arfordir gydag Haven
wedi cadarnhau, er na fydd y caffi ar agor i rai nad ydynt yn breswylwyr, y
bydd ar gael i ddefnyddwyr y llwybr arfordir. Wedi cwblhau y cyfnod adeiladu,
ni ystyriwyd bydd y datblygiad yn arwain at effaith annerbyniol ar fwynderau
preswyl neu gyffredinol ac ystyrir bod y cynnig yn dderbyniol ar sail meini
prawf perthnasol ym mholisïau PCYFF 2 a PCYFF 3.
Yng nghyd-destun
Bioamrywiaeth ac Ecolegol nodwyd bod Datganiad
Amgylcheddol wedi ystyried prosesau ffisegol ac arfordirol, ansawdd dŵr a
dyddodion, ecoleg forol a chadwraeth natur, ecoleg ddaearol a chadwraeth natur;
ac amddiffyn arfordirol ac amddiffyn rhag llifogydd. Eglurwyd bod y sylwadau cychwynnol a
dderbyniwyd gan Uned Bioamrywiaeth y Cyngor yn gwrthwynebu’r cynllun ac yn codi
pryderon ynghylch sgôp y mesurau lliniaru ar gyfer effaith y datblygiad ar
ddyfrgwn, glaswelltir gweundir isel, yr effeithiau ar glogwyni morol meddal, yr
effeithiau ar y coridor cynefinoedd arfordirol, a cholli cloddiau.
Wedi
ymgynghori a chynnal trafodaethau pellach, diwygiwyd y cynnig i ymateb i'r
materion ecoleg ddaearol a godwyd. Cyflwynwyd adendwm i'r Datganiad
Amgylcheddol oedd yn asesu'r cynllun diwygiedig ac yn cynnig mesurau lliniaru
ychwanegol. Cadarnhaodd CNC bod yr argymhellion ynghylch dyfrgwn yn yr adendwm
ecolegol yn dderbyniol ac y dylid nodi mesurau osgoi rhesymol mewn Cynllun
Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (CEMP) y gellir eu sicrhau gydag amod. Cadarnhaodd
yr Uned Bioamrywiaeth bod y cynigion lliniaru diwygiedig ar gyfer y glaswelltir
gweundir isel, gan gynnwys y coridor arfordirol, yn dderbyniol a bod y
ddarpariaeth ychwanegol o gloddiau i'w croesawu a’r lliniaru yn darparu
gwelliannau i fioamrywiaeth.
Gwrthwynebai'r Uned Bioamrywiaeth i golli'r clogwyni morol meddal, gan
nodi na ellid lliniaru yn erbyn eu colled er bod adendwm ecolegol yn nodi bod
casgliadau'r Datganiad Amgylcheddol wedi canfod mai Niwtral fyddai’r effaith. Fel mesur lliniaru, y bwriad fyddai
gweithredu cynllun rheoli ar gyfer oddeutu 650 metr llinellol o glogwyn morol
meddal presennol rywle arall yn Hafan y Môr. Yn ogystal, byddai 'banciau
gwenyn' yn cael eu creu yn y cyn faes parcio, a, lle bo modd, byddai 'gwestai
gwenyn' yn cael eu hadeiladu mewn parseli datblygu eraill. Er yn nodi
sylwadau'r Uned Bioamrywiaeth, mae canfyddiadau'r Datganiad Amgylcheddol yn
cael eu hystyried yn rhesymol ac maent yn manylu ar y graddau y gellid
cyflawni'r dulliau rheoli clogwyni ac yn cydnabod y gellid sicrhau hyn gydag
amod cynllunio.
Amlygwyd
bod yr amgylchedd morol sy'n rhedeg ar hyd y safle yn ffurfio rhan o Ardal Cadwraeth
Arbennig (ACA) Pen Llŷn a'r Sarnau a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
(SoDdGA) Glanllynnau a Glannau Pen-ychain i Gricieth. Ategwyd bod yr amddiffynfa arfordirol bwriedig yn cynnwys
datblygu o fewn y dynodiadau hyn. Yn unol â Rheoliadau Cynefinoedd a
Rhywogaethau 2017, mae'r Cyngor wedi cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac
Asesiad Priodol ac o dan
ddarpariaethau'r rheoliadau, mae dyletswydd statudol ar Awdurdod Cynllunio
Lleol i ymgynghori â CNC pan mae'n cynnal asesiad priodol ar gyfer cynllun neu
brosiect newydd, ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan CNC. Derbyniwyd ymateb
yn nodi na ellid diystyru effaith andwyol ar gyfanrwydd safle ACA Pen Llŷn
a'r Sarnau yn sgil colled uniongyrchol y nodwedd fflatiau llaid a fflatiau
tywod. Fodd bynnag, nid oedd CNC yn ystyried y byddai'r cynnig yn cael effaith
andwyol ar y nodwedd rîff ac yn ogystal nid oeddynt yn ystyried y byddai'r
cynnig yn cael effaith andwyol ar y nodwedd
dyfrgwn, cyhyd ag y bo eu cyngor mewn perthynas â sicrhau mesurau lliniaru
(drwy CEMP), fel amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio.
Adroddwyd bod angen
trwydded forol ar gyfer y datblygiad a bod yr ymgeiswyr wedi gwneud cais am
drwydded i CNC ym mis Rhagfyr 2019. Cynhyrchwyd Datganiad Achos gan CNC ac fe’i
cyfeiriwyd ymlaen at Lywodraeth Cymru. Ymgynghorwyd
ymhellach gyda Llywodraeth Cymru ac fe gafwyd cyngor nad oes gofyniad i
ailadrodd y broses hysbysu drwy'r broses gynllunio ac fel y cyfryw, mae'r
ystyriaethau a'r broses HRA eisoes wedi'u bodloni.
Casgliadau:
Datganiad Amgylcheddol wedi asesu'r effaith
amgylcheddol a daethpwyd i’r casgliad, gydag amodau cynllunio, y byddai modd
lliniaru yn erbyn effeithiau'r datblygiad yn foddhaol, gan warchod nodweddion
amgylcheddol. Y cynnig hefyd wedi'i asesu dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a
Rhywogaethau 2017 ac fe ystyriwyd yn dderbyniol.
Ystyriwyd bod yr effeithiau
gweledol a thirwedd yn dderbyniol wrth osod amodau ynghylch datblygu'n raddol
ac amod i sicrhau bod y gwaith tirlunio arfaethedig yn cael ei wneud. Gydag
amodau, casglwyd bod modd diogelu mwynderau eiddo preswyl o amgylch y safle yn
foddhaol.
Ystyriwyd bod y safle mewn
lleoliad cynaliadwy, a'i fod yn cynnig dulliau trafnidiaeth amgen sy'n rhoi
llai o ddibyniaeth ar ddefnyddio cerbydau modur. Ystyriwyd bod y rhwydwaith
priffyrdd yn addas i wasanaethu'r cynnig ac y bydd y morgloddiau arfordirol yn gymorth i ddiogelu'r llwybr arfordir a
diogelwch y cyhoedd.
Bydd y datblygiad arfaethedig yn ymestyn ac
yn gwella ansawdd y parc ac yn gymorth i gynnal Parc Gwyliau Hafan y Môr fel cyrchfan
gwyliau a gwella mynediad y cyhoedd at weithgareddau hamdden. Mae'r buddion
economaidd wedi'u cydnabod ac ni ganfuwyd unrhyw niwed i'r iaith Gymraeg.
Mae'r cynnig wedi arddangos na fydd y datblygiad yn
achosi unrhyw gynnydd yn y risg i fywyd nac unrhyw risg arwyddocaol i eiddo. Yn ogystal, ystyriwyd y bydd y gwaith yn
cyfrannu at leihau'r potensial am ddigwyddiadau llifogydd mawr yn yr ardal yn y
dyfodol.
Ystyriwyd
bod egwyddor prif agweddau'r datblygiad, sy'n cynnwys gwaith ar forgloddiau,
gosod carafanau sefydlog ychwanegol, darparu llety ychwanegol i staff ac
adeiladu caffi, yn dderbyniol wedi ystyried yr holl faterion cynllunio, gan
gynnwys y polisïau a'r canllawiau lleol a chenedlaethol.
b)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd yn sylwadau canlynol:
·
Bod
y cais yn nodi gweledigaeth 10 mlynedd nesaf Hafan y Môr.
·
Bydd
yn darparu llety o ansawdd uchel, caffi traeth deniadol, dymchwel fflatiau
deulawr diangen a chreu amddiffynfeydd arfordirol newydd.
·
Yn
croesawu argymhelliad y Swyddog: canlyniad 3 blynedd o waith cydweithredol
sylweddol gyda swyddogion yn ogystal â CNC
·
Bod
Haven eisiau buddsoddi i wella ystod ac ansawdd llety a chyfleusterau i
dwristiaid - hyn yn dilyn buddsoddiad o dros £13 miliwn yn 2018 i uwchraddio'r
cyfleusterau canolog.
·
Haven
eisiau sicrhau bod y Parc yn darparu cynnig o ansawdd uchel i'w holl westeion
gan gynnwys pobl leol sy'n ymweld â'r parc a hefyd i'w weithwyr.
·
Bod
y cais yn arwain at gynnydd cymedrol mewn llety. Yr ardaloedd ar gyfer y llety
newydd yn gyfuniad o safleoedd tir llwyd a gwyrdd yn y parc gyda rhan fawr o'r
ardal tir gwyrdd (Parsel G) eisoes wedi cael caniatâd. Ar hyn o bryd mae parsel
G yn cael ei sgrinio gan goetir trwchus a darperir tirlunio cynhwysfawr pellach
fel rhan o'r datblygiad
·
Fel
perchennog cyfrifol, mae Haven yn dymuno buddsoddi mewn uwchraddio'r
amddiffynfeydd arfordirol. Bydd yr amddiffyniad hwn yn darparu sefydlogrwydd
tymor hir i'r parc gwyliau a Llwybr Arfordir Cymru. Mae'r llwybr yn atyniad
poblogaidd i dwristiaid ond mae'n cael ei erydu gan y môr. Cyhoeddwyd trwydded
forol gan CNC ar gyfer yr amddiffynfeydd arfordirol, gyda chadarnhad bod yr
effaith amgylcheddol yn dderbyniol.
·
Cynigir
caffi traeth deniadol ar safle'r hen ffatri trin carthion. Bydd hwn yn
gwasanaethu gwesteion ac unrhyw ddefnyddiwr o'r llwybr arfordirol sydd eisiau
lluniaeth. Yn dilyn cyngor, mae uchder y caffi wedi gostwng i adeilad unllawr.
Mae'n eistedd yn dda yn y dirwedd leol.
·
Mae
Hafan y Môr yn un o'r cyflogwyr preifat mwyaf yng Ngwynedd ac wedi ymrwymo i
ddarparu swyddi sefydlog o ansawdd uchel i bobl yn yr ardal leol. Ar hyn o bryd
mae Hafan y Môr yn cyflogi 460 o bobl gyda dros 50% o'r tîm yn byw o fewn 5
milltir i'r parc.
·
Bydd
y cynigion yn creu 227 o swyddi adeiladu ac ar ôl ei gwblhau yn cefnogi 58 o
swyddi cyfwerth ag amser-llawn ychwanegol. Bydd y swyddi yn cael eu hysbysebu'n
lleol trwy Gwaith Gwynedd, Agoriad ac ymgyrchoedd yn y Daily Post ac S4C. Dim
ond os na ellir llenwi swyddi y mae swyddi'n cael eu hysbysebu'n ganolog gan
Haven.
·
Mae
Hafan y Môr yn falch o'r Gymraeg ac mae datblygiadau diweddar yn y parc yn
cynnwys celf gyhoeddus sy'n hyrwyddo'r iaith.
·
Bydd
y datblygiad hwn yn creu swyddi pellach yn lleol gan ddarparu cyfleoedd i
siaradwyr Cymraeg gael gwaith heb orfod symud i ffwrdd na theithio pellteroedd
maith.
·
Hyderwn
y byddwch yn cytuno â’r Swyddogion bod y cais yn ddatblygiad cynaliadwy sy'n
darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan fodloni polisïau
perthnasol gan gynnwys TWR3.
·
Gobeithio
byddwch yn cefnogi’r cais
c)
Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:
·
Ei
fod yn cefnogi’r cais
·
Bod
Hafan y Mor yn cynnig cyflogaeth lleol
·
Bod
y cwmni yn datblygu a moderneiddio’r safle
·
Bod
y gwaith amddiffynfeydd arfordirol i’w croesawu
·
Bod
defnydd o arwyddion dwyieithog i weld yn y Parc
·
Bydd
contractwyr lleol yn cael eu defnyddio i wneud y gwaith
·
Ei
fod wedi magu perthynas dda gyda perchennog y safle ac wedi cydweithio yn dda
gydag ef dros y blynyddoedd. Noddd y bydd Mr Blackstone, perchennog Hafan y Mor
yn ymddeol yn fuan wedi 30 mlynedd o wasanaeth – dymunodd ymddeoliad hapus
iddo.
ch) Cynigwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol
gan aelodau:
·
Er yn
derbyn y fformiwla 10%, y nifer ychwnaegol, os yn fil, yn mynd yn ormod – wedi
gwrthod ceisiadau sydd yn gofyn am gynnydd o 3 – 4 carafan!
·
Angen
ystyried arwynebedd y safle yng nghyd-destun iechyd a diogelwch a gofod digonol
rhwng carafanau – os caniatau, faint mwy o ymledu fydd ar gael?
·
Pryder bod
y cyfleusterau staffio yn annog pobl o du allan i’r ardal leol gael gwaith.
·
Pam fod
angen darparu 71 uned? Y cynnig o aros yn arwain at ostyngiad mewn cyflogau -
staff lleol methu cystadlu gyda hyn
·
Bod cost
llafur parc carafanau yn llai - dim angen seiri coed, plymbars ayyb
·
Bod
tirlunio yn cymryd amser i greu effaith - bydd y datblygiadau newydd yn ddolur
llygad hyd fydd tyfiant
·
Angen
cymryd sylw o sylwadau arwyddocaol y Cyngor Cymuned sydd yn gwrthod y cais ac
yn codi cwestiynau
·
Bod y
gwaith creu morlin yn gostus - a fydd y gwaith yn llwyddiannus?
·
Pryder am
golli cynefinoedd – yr ardal yn safle hardd iawn
·
Angen
gwarchod ardal cadwraeth Penllyn a’r Sarnau – adeiladu amddiffynfeydd yn cael
effaith ar y clogwyni
·
Y bwriad yn
orddatblygiad ac yn ardrawiad ar fwynderau gweledol
·
Y cwmni yn
dymuno mwy a mwy! Y safle yn anferth – digon yw digon! A
yw polisi TWR 3 yn ystyried maint, lleoliad a natur cais mor fawr?
·
Er bod rhai
o’r adeiladau yn hyll ac am gael eu moderneiddio, mae gweld nifer o garafanau
hefyd yn gallu bod yn hyll
·
Bod angen
gwella safon yr adeilad staff - ei foderneiddio fel ei fod yn saff, o safon ac
yn gyfforddus
·
Bod
trwydded eisoes wedi ei ganiatáu ar gyfer y gwaith amddiffynfeydd arfordirol
·
Bod y caffi
yn dderbyniol fel adnodd i ddefnyddwyr y llwybr cyhoeddus ac nid defnyddwyr y
parc gwyliau yn unig
·
Bod Hafan y
Môr yn gyflogwr da, yn darparu cyflogaeth leol ac yn cefnogi twristiaeth -
adnoddau’r parc gwyliau yn dda iawn a’r cwmni yn buddsoddi yn yr adnoddau hynny
·
Bod gwaith
i bobl leol yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ac adeiladu
·
Angen
ystyried sywladau yr Aelod Lleol
·
Annog
ymweliad safle i gael gwell dealltwriaeth o’r safle - y cais yn un unigryw ac
felly angen oedi penderfyniad er mwyn trefnu ymweld â’r safle er mwyn pwyso a
mesur elfennau o’r cais sydd yn gymhleth eu natur
·
Os bydd
canllawiau covid ac asesiad risg gan Adran Gwarchod y Cyhoedd yn caniatáu
ymweliad safle, awgrym i drefnu ymweliad ar ddiwrnod gwahanol i ddiwrnod
Pwyllgor
dd) Mewn ymateb
i gwestiwn yn ymwneud a sicrhau bod arbenigwyr yn ymgymryd â'r gwaith
amddiffynfeydd arfordirol ac nad oedd y silt ar tywod yn symud ymlaen i’r lle
nesaf ar hyd yr arfordir, nododd y Pennaeth Cyfreithiol nad oedd penodi
contractwyr yn fater cynllunio ond bod trwydded gan y Goron neu Cyfoeth
Naturiol Cymru yn gosod canllawiau caeth ar gyfer y gwaith. Ategodd y Rheolwr
Cynllunio bod yr asesiadau wedi eu cwblhau gan arbenigwyr a bod y morglawdd
wedi ei ddylunio i leihau effaith tonnau fyddai yn y pendraw yn lleihau effaith
ehangach ar yr arfordir.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen y gwaith, costau apêl debygol a’r
angen am benderfyniad, nododd Pennaeth Cynorthwyol yr Amgylchedd y byddai gan
yr ymgeisydd yr opsiwn i gyflwyno apêl am ddiffyg penderfyniad ac y byddai’r
gost yn seiliedig ar resymau gwrthod os daw i hynny.
e) Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle
yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg.
PENDERFYNWYD: Gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad
safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a
mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)
Dogfennau ategol: