Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel
a ganlyn:-
1.
Bod
y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd
wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd yn cyrraedd yn fuan.
2.
Bod
y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-
·
Erthygl
14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n cydnabod hawl pobl i geisio
lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a
·
Confensiwn 1951 yn ymwneud â Statws
Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.
3.
Bod
y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar
gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i
wneud y weithred o geisio lloches yn drosedd.
Penderfyniad:

4.
Bod
y Cyngor hwn yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu haelioni aruthrol, a’u parodrwydd
i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac i fudiadau gwirfoddol y sir, megis
Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu gwaith arbennig yn y maes hwn.
Cofnod:
(B) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
1.
Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso cynnes i
ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu a fydd
yn cyrraedd yn fuan.
2.
Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion sylfaenol:-
·
Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n
cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a
·
Confensiwn 1951 yn
ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.
3. Bod y Cyngor yn bryderus nad yw
cynllun newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r
egwyddorion a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio
lloches yn drosedd.
Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-
·
Ei bod yn hynod falch bod y Cyngor hwn wedi bod mor
barod i gamu i mewn i gynnig cartref i ffoaduriaid o Affganistan, a dyna’r peth
cywir i wneud, yn egwyddorol ac yn foesol.
·
Ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn cydnabod haelioni
pobl y sir, sydd wedi cyfrannu nwyddau ac arian sylweddol drwy fudiadau
gwirfoddol y sir i’r ffoaduriaid.
·
Nad
oedd Llywodraeth San Steffan yn gweld y sefyllfa yn yr un ffordd, a dyna pam y
gofynnid i’r Cyngor fynd gam ymhellach, a chydnabod yr hawl sylfaenol i ffoi,
fel y’i diffinnir gan Gonfensiwn 1951 a Phrotocol 1967.
·
Bod yr hawliau hyn mewn peryg’ o gael eu tanseilio
gan Gynllun Mewnfudo newydd Llywodraeth y DG a’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau,
sydd eisoes wedi cael ei ddarlleniad cyntaf.
·
Nad
oedd gwneud ffoaduriaid yn droseddwyr yn mynd i helpu’r sefyllfa, ac yn fwy na
hynny, roedd yn anfoesol ac yn gosod cynsail brawychus ynglŷn â’r ffordd
rydym yn trin ein cyd-ddyn. Ymgais
ydoedd i rwygo cymdeithas, ac i droi un mewn angen yn erbyn y llall, ac roedd
yn rhaid i ni ei wrthod.
Ategwyd y sylwadau hyn gan aelod arall, a chynigiwyd
gwelliant i’r cynnig, sef bod y Cyngor hefyd yn nodi diolch i drigolion Gwynedd am eu
haelioni aruthrol, a’u parodrwydd i gefnogi ffoaduriaid dros y blynyddoedd, ac
i fudiadau gwirfoddol y sir, megis Pobl i Bobl, Croeso Menai a Cefn am eu
gwaith arbennig yn y maes hwn. Eiliwyd y
gwelliant.
Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol a’r eilydd
i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.
Mynegwyd
cefnogaeth frwd i’r gwelliant gan nifer o aelodau.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r gwelliant, sef:-
1 Bod y Cyngor hwn yn dymuno estyn croeso
cynnes i ffoaduriaid o Affganistan sydd wedi cyrraedd Gwynedd yn ddiweddar, neu
a fydd yn cyrraedd yn fuan.
2 Bod y Cyngor hwn yn cefnogi egwyddorion
sylfaenol:-
·
Erthygl 14 Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol 1948, sy’n
cydnabod hawl pobl i geisio lloches rhag cael eu herlid mewn gwledydd eraill, a
·
Confensiwn 1951 yn
ymwneud â Statws Ffoaduriaid a Phrotocol 1967 yn ymwneud â Statws Ffoaduriaid.
3 Bod y Cyngor yn bryderus nad yw cynllun
newydd arfaethedig llywodraeth y DU ar gyfer Mewnfudo yn cefnogi’r egwyddorion
a amlinellir uchod, ac yn gwrthwynebu i wneud y weithred o geisio lloches yn
drosedd.
4. Bod y Cyngor hwn yn nodi diolch i
drigolion Gwynedd am eu haelioni aruthrol, a’u parodrwydd i gefnogi ffoaduriaid
dros y blynyddoedd, ac i fudiadau gwirfoddol y sir, megis Pobl i Bobl, Croeso
Menai a Cefn am eu gwaith arbennig yn y maes hwn.