I ddarparu trosolwg o waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.
Penderfyniad:
1)
Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o
waith yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
2) Nodi
pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau
allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y
farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny.
3)
Y
byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at aelodau’r Cabinet er mwyn cyfleu pryder y
pwyllgor am y diffyg capasiti staff a’r angen i
sicrhau capasiti staff digonol er mwyn cynnig
cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad ar y Gwasanaeth Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Uned Diogelu gan yr Uwch
Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd.
Bwriad yr eitem oedd manylu ar y ffordd mae y Cyngor yn monitro
darpariaethau gofal oedolion y Sir, sydd yn cynnwys ystod o sefydliadau. Rhoddwyd trosolwg o waith y tîm. Nodwyd y pryder bod y Gwasanaeth yn gyfrifol
am fonitro nifer o sefydliadau ond dim ond wedi llwyddo i fonitro nifer
cyfyngedig a heb fedru ymweld â’r gwasanaeth gofal cartref na gofal dydd. Yn ychwanegol, yn ystod cyfnod Covid nodwyd nad yw’r ymweliadau dirybudd wedi gallu
digwydd fel y byddai yn arferol ond yn hytrach, bod y staff wedi gwneud
cysylltiadau ffon gyda’r darparwyr.
Adroddwyd bod
pum cartref wedi mynd o dan y drefn Pryder Cynyddol dros y 18 mis
diwethaf. Mae’r Tim
Sicrwydd Ansawdd wedi gweithio gyda pob un i baratoi a gweithredu rhaglenni
gwella er goresgyn problemau a gwella ansawdd gwasanaethau gofal. Un o
effeithiau posib y broses yw gosod embargo ar rai mynediadau, sydd yn ei dro yn
cael effaith ar unigolion a’u teuluoedd ac wrth gwrs diffyg arian yn dod i mewn
i gynnal y busnes. Adroddwyd hefyd bod
tri cartref yng Ngwynedd wedi cau dros y 2 flynedd diwethaf.
Cyfeiriodd yr Uwch
Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd at Adroddiad ‘Winterbourne
View’, ac adroddwyd bod diffyg monitro yn ffactor yma, ynghyd a diffyg trosolwg
gan y Comisiynwyr.
Cadarnhawyd mai
pob tua dwy flynedd mae yr ymweliadau i safleoedd yn cymryd lle ar hyn o bryd,
ond yn ddelfrydol mae angen ymweld pob chwe mis. Nodwyd pan mae problem yn codi, mae
ymweliadau yn cymryd lle i geisio atal safle rhag mynd o dan y drefn Pryderon
Cynyddol. Tra mae hyn yn gwbl angenrheidiol mae yn cael effaith ar allu’r tîm i
fonitro gwasanaethau eraill.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau ofyn
cwestiynau, a nodwyd yr ymatebion fel a ganlyn :
Nodwyd
pryder bod pum gwasanaeth wedi bod dan y drefn pryderon cynyddol, ynghyd a’r gwahaniaeth
enbyd rhwng amlder ymweliadau Cyngor Gwynedd ac awdurdod cyfagos.
Cwestiynwyd
a oes ffordd i ddargyfeirio mwy o adnoddau, bo hynny yn arian neu adnodd arall
i gryfhau’r gwasanaeth. Cadarnhaodd yr
Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd, yn dilyn achos o bryderon cynyddol, mai
llunio cynllun datblygu gan roi cyfle i’r gwasanaeth sicrhau gwelliannau oedd y
cam nesaf. Nododd ei bod yn rhannu y
pryder am y diffyg adnoddau a chyfeiriodd at y bid aflwyddiannus a wnaethpwyd
yn 2020/21 am gyllideb i gyflogi staff ychwanegol. Nododd y bydd y cais yn cael
ei ail gyflwyno eleni.
Nododd
Aelod arall ei bod yn sefyllfa anodd, a bod y ffigyrau yn debyg iawn i’r
sefyllfa cyn 2016, ond nododd yr Uwch Reolwr Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mai y
gwahaniaeth erbyn hyn oedd y berthynas dda gyda darparwyr a thimau ardal a’r
swyddogion.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Gwasanaeth bod y mater ynglŷn â capasiti
yn un sylweddol, er ei fod yn derbyn bod rhannu adnoddau i bob gwasanaeth sydd
dan bwysau yn heriol. Nododd ei fod yn
faes lle byddai modd clustnodi arian a dal bod angen mwy, ond adroddodd ei fod yn
falch bod arwyddion cynnar o ran pryderon yn cael sylw yn ddi-oed. Nododd bod adnoddau ar draws yr Adran yn cael
eu llyncu pan fo cartref mewn trafferth ac yn tynnu staff i ffwrdd o waith
arall. Nododd bod rhai pethau positif
wedi datblygu yn ystod y cyfnod Covid, megis mwy o
ymddiriedaeth rhwng yr Adran a’r darparwyr.
Nododd
bod y newidiadau sydd wedi digwydd ac yn mynd i ddigwydd mewn gofal cartref yn dangos
yr angen i fonitro sicrwydd ansawdd yn effeithiol, ond nad oes capasiti i’w wneud yn llawn ar hyn o bryd. Nodwyd nad yw
arian dros dro yn cynnig ateb tymor hir.
Nododd ei bod yn bwysig bod yn ymwybodol o waith y tîm, ynghyd ac
adborth a dderbynnir gan ddarparwyr, a nododd ei werthfawrogiad bod y tîm yn
gwneud pob ymdrech i weithio’n rhagweithiol.
Diolchwyd
am adroddiad gonest sydd yn codi pryderon, ond hefyd diolchwyd am y
cydweithio
da, a’r angen i warchod y cyd-weithio
hwn.
Nododd
y Pwyllgor eu bod yno i gefnogi ac y byddai yn dda derbyn diweddariad mewn chwe
i naw mis er ei bod yn bryder sut i ddatrys rhai materion.
Diolchwyd
am yr adroddiad a nodwyd bod cyfleon datblygu gyrfa wedi bod oddi fewn i’r Adran gyda Rheolwr Cartref wedi dod i mewn i’r Tîm,
tra bod un aelod o’r tîm wedi symud i fod yn Rheolwr Ardal Darparu.
Atgyfnerthodd
yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ei bod yn adroddiad gonest ac y
byddai y sylwadau yn cael eu hystyried, ynghyd ac opsiynau oddi fewn i’r Adran.
Cytunwyd i
dderbyn yr adroddiad, a nodi y pryder am y mater capasiti gyda’r Cabinet a’r awydd i rywbeth
gael ei wneud.
PENDERFYNWYD :
1) Derbyn yr adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o waith
yr Uned Sicrwydd Ansawdd o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
2) Nodi
pryder am ddiffyg capasiti staff yr uned a’r risgiau
allai godi o ran diogelwch a lles unigolion sy’n derbyn gofal, cynaliadwyedd y
farchnad a risgiau i’r Cyngor o ganlyniad i hynny.
3) Y byddai’r Cadeirydd yn anfon e-bost at Aelodau’r
Cabinet er mwyn cyfleu pryder y Pwyllgor am y diffyg capasiti
staff a’r angen i sicrhau capasiti staff digonol er
mwyn cynnig cefnogaeth addas a monitro ansawdd gwasanaethau.
Dogfennau ategol: