Aelod Cabinet – Y Cynghorydd
Gareth Thomas
Ystyried adroddiad ar yr uchod.
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad gan edrych ymlaen at gael mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i
fusnesau maes o law.
Cofnod:
Croesawyd swyddogion yr Adran Economi a Chymuned
i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Economi a Chymuned, ar gais y pwyllgor craffu, yn amlinellu pa gefnogaeth mae’r
Cyngor yn ei roi i fusnesau, yn arbennig yn sgil y Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd a’r pandemig Covid-19.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Nododd aelod, o ran cywirdeb, y dylai’r
adroddiad gyfeirio at y Deyrnas Gyfunol, yn hytrach na’r Deyrnas Unedig.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau,
nodwyd:-
·
Bod
y cynnydd yn nifer yr ymholiadau a cheisiadau am gymorth gan fusnesau dros y 18
mis diwethaf wedi cyflwyno heriau i’r gwasanaeth o ran adnoddau ac o ran
ail-gyfeirio a blaenoriaethu’r gwaith.
Hefyd, roedd y gwasanaeth wedi ail-flaenoriaethu mwy tuag at gefnogi a
chynnal busnesau i barhau, yn hytrach na datblygu a chreu swyddi o’r newydd,
fel yn y gorffennol. Roedd mwy o
fusnesau wedi dod i gyswllt â’r Cyngor yn ystod cyfnod y pandemig
nag erioed o’r blaen, ac un o’r pethau cadarnhaol a ddeilliodd o hynny oedd
sefydlu’r bwletin busnes, oedd bellach yn mynd allan o leiaf ddwywaith yr
wythnos i dros 4,500 o fusnesau’r sir.
Roedd y gwasanaeth hefyd wedi symud tuag at roi cyngor ynglŷn â
materion ychydig ehangach o ran arferion da a sut i fabwysiadu technoleg
newydd. Roedd yn rhaid rhoi ymdrech i
mewn i’r gwaith o gynnal a sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei dosbarthu, ac
roedd y gwasanaeth yn ail-drefnu eu hunain hefyd, gan chwilio am adnoddau trwy law’r Cyngor i’w galluogi i barhau gyda’r gwaith.
·
Na
chafwyd sgwrs benodol gyda’r Adran Tai ac Eiddo yn y cyfnod yma o ran
cynorthwyo gweithwyr allweddol, ac ati, sy’n symud i mewn i’r ardal i ddod o
hyd i rywle i fyw. Roedd trafodaethau’n
mynd ymlaen gyda’r Adran o ran polisïau cynllunio, ac ati, ond roedd angen
gwneud mwy o waith ar hynny. Eglurwyd
nad prinder sgiliau oedd y brif gŵyn gan fusnesau ar hyn o bryd, ond
prinder pobl i weithio i’r busnesau hynny, ac roedd hynny’n wir ar draws y
sectorau. Cyfeiriwyd at ddarn o waith i
geisio cefnogi pobl nad ydynt mewn gwaith i mewn i swyddi mewn meysydd lle mae
bylchau, ond roedd graddfa’r broblem yn llawer ehangach nag a fu, a byddai’n
rhaid edrych ar hyn yn ehangach gyda phartneriaid eraill, er mwyn cwrdd â lefel
y galw presennol. Nodwyd ymhellach bod
dros 120 o bobl wedi cael cymorth drwy’r Tîm Gwaith Gwynedd, ac er nad oedd hyn
yn cyfarch y galw yn ei gyfanrwydd, roedd yna weithgaredd sylweddol wedi
digwydd. Hefyd, fe geisiwyd cymryd
rhywfaint o gamau bychan, ond ymarferol, i gefnogi busnesau, e.e. drwy hwyluso
cael tudalennau ar Facebook, fel bod modd i fusnesau hyrwyddo’r cyfleoedd
gwaith sydd ganddynt.
·
Bod
cyhoeddiad Llywodraeth Prydain ar y trefniadau grant i’r dyfodol, yn sgil
diflaniad arian Ewropeaidd, wedi ei wthio nôl, ond roedd yn debygol y byddai
yna ryw fath o gyhoeddiad yn dilyn yr adolygiad ariannol fis nesaf. Eglurwyd mai’r bwriad oedd cyhoeddi Cronfa
Ffyniant Gyffredin, ac er nad oedd y trefniadau wedi’u cadarnhau eto,
rhagwelid, yn hytrach na throsglwyddo swm o arian i Lywodraeth Cymru i’w
ddyrannu yng Nghymru, y byddai’n rhaid i bob awdurdod ymgeisio’n uniongyrchol
am yr arian yma o Lundain. Disgwylid y
byddai yna arian cyfalaf ac arian refeniw, fel yn flaenorol, ond nid oedd yn
glir a fyddai’r arian wedi ei gylchu’n benodol i
Gymru, er i Lywodraeth Prydain ddweud y byddent yn parhau â’r cytundeb yma, ac
y byddwn yn derbyn yn union yr un faint o arian.
·
Bod
y gwasanaeth yn bur bryderus am y sefyllfa.
Yn wreiddiol, disgwylid cyhoeddiad, ond ni fu trafod gyda neb
ynglŷn â beth fyddai cynnwys y cyhoeddiad hwnnw. Roedd yn gam ymlaen, o leiaf, bod gennym
berthynas a’n bod yn gallu cael trafodaeth ar hyn o bryd i geisio dylanwadu,
ond cwestiynid faint o wir ddylanwad oedd hynny mewn gwirionedd. Unwaith y byddai’r wybodaeth wedi ei chyhoeddi,
byddai’r gwasanaeth mewn gwell sefyllfa i’w dadansoddi. Cafwyd arweiniad i ddisgwyl rhywbeth ar yr un
llinellau â’r Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Adfer Cymunedol, a gyhoeddwyd yn
gynharach eleni, ond os mai dyna’r achos, byddai yna gryn le i bryderu. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad pellach
ar hyn i’r pwyllgor i’w graffu pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.
·
Bod
y gefnogaeth i fusnesau newydd y cyfeirir ati yn yr adroddiad yn gymorth
penodol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau oedd newydd
gychwyn pan ddechreuodd y pandemig. Ymdrechwyd i roi cymorth i fusnesau gychwyn
ac i dyfu drwy gyfnod y pandemig. Ail-gyfeiriwyd sylw ac adnoddau yn ystod y 18
mis diwethaf, nid yn unig gan y Cyngor, ond gan Lywodraeth Cymru hefyd, tuag at
gefnogi cynnal a chadw busnesau yn y tymor byr, ond roedd y symudiad yn ôl fwy
tuag at gefnogaeth ddatblygol yn dechrau rŵan. Roedd y galw am arian i ddatblygu neu dyfu
wedi parhau’n eithaf cryf drwy gydol y cyfnod, ac yn dal yn rhyfeddol o gryf.
·
O
ran cyfeirio pobl tuag at gymorth, anogid pobl i ddod i gyswllt â’r gwasanaeth
ac i gofrestru ar gyfer derbyn y bwletin busnes, gan fod hynny’n ffordd dda o
fod yn effro i’r cymorth ymarferol a’r grantiau, wrth iddynt ddod ar gael. Nodwyd bod modd cofrestru drwy wefan y
Cyngor, a chytunwyd i gylchredeg cyswllt uniongyrchol at aelodau’r pwyllgor yn
dilyn y cyfarfod, fel bod modd iddynt annog busnesau lleol yn eu hardal i
gymryd mantais o’r ddarpariaeth.
·
Eglurwyd
bod nifer o gronfeydd yn dal ar gael ar gyfer helpu busnesau i dyfu, ac anogwyd
pobl i gysylltu â’r gwasanaeth yn y lle cyntaf.
Yn fwy hirdymor, roedd angen adeiladu ar y cyfathrebu oedd wedi digwydd
yn ystod y cyfnod Covid, gan fagu mwy o ymgysylltiad
a deialog gyda busnesau, ac roedd yn flaenoriaeth gan y gwasanaeth yn y
flwyddyn nesaf i gynyddu’r gallu a’r capasiti i wneud
hynny, gan y bu hynny’n heriol yn hanesyddol, oherwydd maint yr adnoddau oedd
ar gael.
·
Nad
oedd adnoddau’r gwasanaeth yn ddigonol i allu cynnal y berthynas gyda busnesau
ar yr un lefel â’r flwyddyn a hanner diwethaf, ac roedd profiad y cyfnod
diweddar hwn wedi dangos bod angen cryfhau'r adnodd er mwyn cynnal a chefnogi
busnesau mewn mwy o fanylder.
·
Er
nad oedd gan y gwasanaeth yr arbenigedd i gynnig cymorth i fusnesau allforio, y
gallai’r aelodau gyfeirio unrhyw fusnes yn eu hardal i sylw’r Rheolwr Cefnogi
Busnes, fyddai’n dod o hyd i’r arbenigedd ar eu cyfer.
Diolchodd y Cadeirydd am yr adroddiad, gan
ddymuno bob llwyddiant i’r Adran gyda’r bidiau.
Cyn bwrw ei bleidlais ar y mater,
holodd y Cynghorydd Mike Stevens a ddylai ddatgan buddiant personol oherwydd
bod ganddo fusnes cynhyrchu yng Ngwynedd a’i fod hefyd yn Gadeirydd Siambr
Twristiaeth Rhanbarth Tywyn.
Mewn ymateb, eglurwyd bod y cyfle i
ddatgan buddiant, dan eitem 2 ar y rhaglen, wedi mynd heibio, ond y byddai’r
datgan buddiant yn cael ei nodi ar y pwynt yma.
Ychwanegwyd nad oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac y gallai’r aelod
symud ymlaen i fwrw ei bleidlais ar y mater.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan edrych ymlaen at gael
mwy o wybodaeth ynglŷn â grantiau i fusnesau maes o law.
Dogfennau ategol: