CAFFI A BAR
PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD
I ystyried y cais
Penderfyniad:
COFNODION:
CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – CAFFI A BAR PARC GWYLIAU TRAWSFYNYDD, BRONABER, TRAWSFYNYDD
Ymgeisydd Mr David Owen (ar ran Pure
Leisure Group)
Ymatebwyr Michael Sawyer, David Meech, Ric Taylor,
Kathryn Hawker, Jamie a Clare Kerrigan,
Jane Dinnell a Rachel Jones
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran
Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded
eiddo ar gyfer caffi a bar Parc Gwyliau Trawsfynydd – cynllun llawr agored gyda
deciau i eistedd tu allan. Amlygwyd y byddai defnydd y caffi / bar ar gyfer
defnyddwyr y parc yn unig. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol ar ac
oddi ar yr eiddo; chwarae cerddoriaeth wedi recordio ar yr eiddo a darparu
lluniaeth hwyr y nos.
Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded.
Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl
gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan berchnogion cabanau yn y Parc oedd yn
berthnasol i’r amcanion trwyddedu o sŵn yn creu niwsans cyhoeddus a
phryderon o gynnydd mewn trosedd ac anrhefn o ganlyniad i or-yfed. Amlygwyd bod
sylwadau Adran Gwarchod y Cyhoedd yn nodi bod y cais yn mynd yn groes i amodau
caniatâd cynllunio NP5/78/519/A a oedd yn gosod
goblygiadau i’r ymgeisydd.
Nodwyd nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru dystiolaeth i wrthwynebu’r cais
Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003.
Wrth ystyried y
cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu
· Gwahodd yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais
· Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
· Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded.
· Rhoi cyfle i
aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Wrth ymhelaethu ar
y cais, nododd yr ymgeisydd:
·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i amryw
o geisiadau gan ddefnyddwyr cabanau i ddatblygu caffi a bwyty yn dilyn colled
Rhiw Goch
·
Cyflwynwyd cais cynllunio i Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri
·
Bod camgymeriad wedi ei wneud ar y ffurflen gais am
drwydded a bod bwriad diwygio’r drwydded i gyd-fynd ag amodau’r caniatâd
cynllunio – oriau agor dyddiol o 9:00 – 22:00
·
Byddai ceisiadau am ddigwyddiadau arbennig yn cael
ei gwneud drwy hysbysiad digwyddiadau dros dro
·
Mai at ddefnydd perchnogion cabanau a’u gwestai
oedd pwrpas y caffi/bwyty ac y byddai
alcohol yn cael ei weini gyda bwyd.
·
Nad oedd bwriad iddo fod yn dafarn lleol
·
Bod cais am gerddoriaeth wedi ei recordio yn unig
(yn bennaf cerddoriaeth gefndirol) o fewn yr adeilad. Petai cais gan yr
Is-bwyllgor i eithrio cerddoriaeth wedi ei recordio o’r drwydded, byddai
Grŵp Pure Leisure yn fodlon cytuno gyda hyn.
Cadarnhaodd yr
Uwch Gyfreithiwr bod y cais wedi ei ddiwygio i gynnwys oriau agor o 9:00 -
22:00 yn unol â’r caniatâd cynllunio. Byddai alcohol ’ar gael’ rhwng 9:00 a
22:00 ond y bwriad yn rhoi cyfle i westai gael diod gyda chinio a/neu swper.
Byddai lluniaeth hwyr y nos hyd at 22:00 yn unig.
Ynglŷn a’r
gerddoriaeth gefndirol, nododd y Rheolwr Trwyddedu nad oed rhaid cael trwydded
ar gyfer hyn ond amlygwyd bod eithriadau cyfyngedig i gerddoriaeth byw o fewn
oriau trwyddedig. Pwysleisiwyd yr angen i ddatgan yn glir bod yr oriau
arfaethedig yn cyd-fynd gyda’r caniatâd cynllunio.
Manteisiodd yr
ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd
ganddynt drwy lythyr.
Michael Sawyer
·
Cytuno gyda’r oriau agor diwygiedig a’r
gerddoriaeth gefndirol
·
Bod mynediad i’r eiddo angen bod ar flaen yr adeilad
- pryder ynglŷn â diogelwch plant oherwydd cornel beryg gerllaw
David Meech
·
Derbyn bod yr oriau agor wedi eu diwygio
·
Pryder am arwyddion
- angen sicrhau bod arwyddion yn glir ac amlwg
·
Bod mynediad i’r eiddo angen bod ar flaen yr
adeilad
·
Bod rheoli’r safle wedi llacio ers i’r perchnogion
newydd gymryd drosodd – angen i’r parc fod yn gyfeillgar gyda pherchnogion
cabanau
·
Pryder am gynnydd mewn defnydd Airbnb
a grwpiau yn defnyddio’r cabanau
Ric Taylor
·
Hapus gyda’r oriau diwygiedig
·
Pryder ynglŷn â rheoli defnydd y bwyty - sut
adnabod gwestai perchnogion cabanau?
·
Siom nad oedd y cwmni wedi ymgynghori gyda
pherchnogion cabanau
Kathryn Hawker
·
Bod seddi ar gyfer 120 ar ddecin
yr adeilad – bydd goleuadau ar gyfer hyn yn effeithio statws awyr dywyll
·
Siom na chafodd y cais ei rannu gyda pherchnogion
cabanau
·
Yr hysbysiad heb ei weld ac wedi ei gynnwys mewn
papurau lleol yn unig – nid yw perchnogion y cabanau i gyd yn lleol
·
A yw cerddoriaeth wedi ei recordio yn cynnwys
cynnal disco?
Jamie a Clare Kerrigan
·
Pryder am statws awyr dywyll – y lleoliad yn safle
arbennig
·
Bod mynediad i’r bwyty mewn lle perygl
·
Pryder am arogl bwyd – eu caban droedfeddi i ffwrdd
o’r bwyty
·
Ffliw i gefn yr adeilad wedi ei ychwanegu - pryder
am yr ychwanegiadau i’r cais cynllunio
gwreiddiol
·
Y parc yn le tawel – dim eisiau newid hyn
·
Pan fydd y bwyty yn cau am 22:00 a fydd y golau yn
cael ei ddiffodd?
Jane Dinnell
·
Dim sylwadau pellach i’r hyn oedd wedi ei nodi
eisoes
Rachel Jones
·
Dim gwrthwynebiad i’r bwyty – byddai’r bwyty yn
gaffaeliad i’r parc
·
Hapus gyda’r penderfyniad i ddiwygio’r oriau yn
unol â’r caniatâd cynllunio
·
Angen cadarnhad o ‘ddefnydd yr adeilad’, os bydd
alcohol yn cael ei weini tan 22:00 a fydd hyn yn golygu aros ymlaen yn hwyrach
na 22:00 - angen eglurder
·
Awgrym i orffen gweini bwyd yn gynharach fel bod y
bwyty yn cau am 22:00
·
Hapusach pan fydd yr oriau
diwygiedig wedi eu cyhoeddi
Cyng. Elfed
Roberts (Aelod Lleol) - sylwadau wedi eu cyflwyno drwy e-bost
·
Ymddiheuro nad oedd yn gallu bod yn bresennol
·
Nad oedd wedi derbyn cwynion a neb yn lleol wedi
cyflwyno gwrthwynebiadau
·
Dim adnodd yn y parc ar gyfer ymlacio - adnodd Rhiw Goch yn golled
·
Oriau yn rhesymol
·
Bod y bwyty yn ystyried anghenion y defnyddwyr
Yn manteisio ar y
cyfle i gloi'r achos, nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol gan ymateb hefyd
i’r pryderon a amlygwyd gan yr ymatebwyr:
·
Bod mynediad i’r ochr wedi ei benderfynu yn dilyn
cyngor pendant gan Ddeddfwriaeth Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DDA)
·
Bod y bwyty ar gyfer preswylwyr a’u gwestai yn unig
- bod staff yn adnabod perchnogion y cabanau yn eithaf da ac yn deall pwy fydd
yn gymwys. Os bydd sefyllfa yn codi pan fydd rhywun dieithr yn bresennol, bydd
yn cael ei herio. Ceisio agwedd rhagweithiol
·
Bod yr hysbyseb wedi cyfarch y gofynion – hysbyseb
wedi ei osod ar yr adeilad, yn y Daily Post 26-8-21
ac ar dudalen f/b grŵp y parc
·
Bod bwriad cael cerddoriaeth gefndirol tu mewn i’r
eiddo yn unig
·
Bydd goleuadau ar i lawr yn cael eu gosod ar y decin – bydd hyn angen caniatâd swyddogion cynllunio
·
Bydd goleuadau ar y fynedfa yn cael eu gosod o dan
y canopi
·
Bod y ffliw ar gyfer arogleuon coginio yn fater
sydd angen ei ailgyflwyno i adran cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri
·
Bydd yr eiddo yn cau am 22:00
·
Rhaid i berchnogion y parc gydymffurfio gyda’r
rheolau y maent hwy eu hunain yn osod ar berchnogion cabanau
Amlygodd y Rheolwr
Trwyddedu y gall cerddoriaeth gefndirol gynnwys disco
Ymneilltuodd yr ymgeisydd, yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r
cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog
Trwyddedu yn argymell caniatáu y cais ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn
bresennol yn y gwrandawiad.
Ystyriwyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref.
Roedd yr holl
ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
. Diystyrwyd sylwadau a ddaeth i law i’r
graddau eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu. Diolchwyd i bawb am
gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r
holl sylwadau
PENDERFYNWYD
·
Caniatáu y cais diwygiedig yn unol â chaniatâd
cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (rhif NP5/78/519/A - sylwadau
Gwarchod y Cyhoedd) a gofynion Deddf Trwyddedu 2003
·
Oriau agor
Sul-Sadwrn: 09.00 – 22:00
·
Cyflenwi alcohol i yfed ar ac oddi ar yr eiddo
Sul-Sadwrn: 09:00 – 22:00
·
Ymgorfforir y materion sydd wedi eu rhagnodi yn
Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded
Rhesymau:
Derbyniwyd 23 o
wrthwynebiadau i’r cais gan berchnogion cabanau cyfagos. Cyfeiriodd llawer at
eu pryderon yn ymwneud a chaniatâd cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
a nodwyd os byddai’r drwydded yn cael ei ganiatáu yn unol â’r cais, byddai hyn
yn groes i ofynion y caniatâd cynllunio. Nododd sawl ymatebydd nad oedd y rhybudd
glas i’w weld yn glir oherwydd datblygiad strwythur y caban, a bod y datblygiad
yn creu perygl i’r rhai sydd yn cerdded ac yn defnyddio’r ffordd. Ategwyd bod y
parc mewn ardal o statws awyr dywyll wedi'i warchod, gyda sawl yn pryderu fod
niwsans sŵn a golau am amharu ar y lleoliad; pryder am gynnydd sbwriel;
materion o drosedd ac anrhefn (pobl leol yn cymysgu gydag ymwelwyr, pobl yn gor-yfed) a bod yr oriau arfaethedig yn ormodol. Cynigwyd
gan sawl ymatebydd buasai’n synhwyrol gostwng yr oriau trwyddedu i 22:00 a bod
amser terfyn amseriad ansafonol o 02:00 yn ddiangen ac afresymol, oherwydd
natur yr ardal yn gyffredinol. Derbyniwyd dau ymateb yn cefnogi’r cais.
Amlygwyd bod
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi nodi y dylid ystyried fod y cais yn mynd yn groes
i’r caniatâd cynllunio, ond pe byddai’r ymgeisydd yn darparu cais o’r newydd i
Adran Cynllunio Parc Eryri, fe allai’r gwasanaeth ddarparu sylwadau ar faterion
perthnasol pryd hynny, felly nid oedd gwrthwynebiad i’r cais mewn egwyddor.
Nid oedd gan yr
Heddlu dystiolaeth i wrthwynebu’r cais.
Wrth gyflwyno ei
sylwadau, eglurodd yr ymgeisydd mai camgymeriad oedd yr amseroedd yn y
cais. Y bwriad oedd cyd-fynd gyda’r
amseroedd a ganiatawyd yn y caniatâd cynllunio (09:00 - 22:00) ac felly roedd
bwriad i addasu’r cais i adlewyrchu hyn gan ddileu hefyd yr elfen o ddyddiau
arbennig. Cadarnhaodd mai dim ond chwarae cerddoriaeth gefndir oedd y bwriad a
chan nad oedd yn weithgaredd trwyddedig y byddai’n fodlon hepgor hynny pe bai’r
Is-bwyllgor yn dymuno. Yn ogystal,
cadarnhawyd mai’r bwriad oedd agor i berchnogion a’i gwesteion yn unig, ac nad
oedd unrhyw fwriad i’w agor fel tafarn i’r cyhoedd. Cadarnhaodd bod trafodaeth yn digwydd gyda’r
awdurdod cynllunio am y fynedfa ac y byddai’n cael ei addasu fel yn briodol i
sicrhau diogelwch. Roedd ‘awyr dywyll’
hefyd yn cael sylw o fewn y broses cynllunio.
Nodwyd nad oedd
tystiolaeth wedi ei gyflwyno o unrhyw broblemau a fu gyda’r eiddo o safbwynt
atal trosedd ac anhrefn ac nad oedd yr Heddlu wedi cyflwyno unrhyw sylwadau.
Nid oedd yr Is-bwyllgor felly wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r cais yn
tanseilio’r egwyddor o atal trosedd ac anhrefn.
Roedd yr
Is-bwyllgor yn cydnabod pryderon a godwyd gan y gwrthwynebwyr ond roedd o’r
farn bod yr oriau agor diwygiedig yn rhai rhesymol iawn gyda’r amodau a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn addas. Nodwyd nad oedd angen trwydded ar gyfer
chwarae cerddoriaeth gefndir sef bwriad yr ymgeisydd. Yng ngoleuni hyn a diffyg
tystiolaeth o broblemau, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r
cais yn tanseilio’r egwyddor o atal niwsans cyhoeddus.
Rhoddwyd
ystyriaeth hefyd i’r pryderon am ddiogelwch y fynedfa ac roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y mater yn cael sylw drwy’r broses gynllunio briodol gyda’r
ymgeisydd wedi cadarnhau y byddai unrhyw newidiadau priodol yn cael eu
gwneud. Nid oedd yr Is-bwyllgor felly
wedi ei berswadio y byddai caniatáu’r cais yn tanseilio’r amcan o sicrhau
diogelwch cyhoeddus.
Ni chyflwynwyd
unrhyw dystiolaeth oedd yn berthnasol i’r amcan o warchod plant rhag niwed.
O dan yr
amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar
amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol
drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan
bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi
rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn
cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr
(neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dogfennau ategol: