Agenda item

I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 12 Hydref, 2021 a sylwebu fel bo angen.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:-

 

·         Bod effaith ariannol sylweddol argyfwng covid yn parhau yn 2021/22 gyda chyfuniad o gostau ychwanegol a cholledion incwm (cyfwerth dros £20 miliwn yn 2020/21) gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.

·         Er llunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu,  llithro  ac ail broffilio’ cynlluniau arbedion yn Ionawr 2021, bod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, gydag oediad o ganlyniad i’r argyfwng yn ffactor amlwg. Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r  Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, tra bod gwelliant nodedig yn rhagolygon yr

Adran Plant a Theuluoedd. 

·         Bod ceisiadau i adhawlio yn cael eu gwneud yn fisol i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru

·         Bod y Cabinet wedi derbyn yr holl argymhellion a nodwyd yn adroddiad i’r Cabinet 12-10-21

 

Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol.

·         Rhagwelwyd gorwariant o £1.4miliwn yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r gorwariant. Mynegwyd fod covid wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr adran a bod gwerth £1.3miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod.

·         Yn dilyn penderfyniad y Cyngor i ddyrannu £1.8miliwn o arian ychwanegol i’r Adran Plant a Theuluoedd yng nghylch cyllidebu 2021/22 ynghyd â dileu gwerth £1.1miliwn o gynlluniau arbedion, amlygwyd fod y rhagolygon ar hyn o bryd yn addawol iawn i’r adran.

·         Mynegwyd fod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau yn yr Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol. Nodwyd fod trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd gwerth £673k a bod yr adran wedi wynebu costau ychwanegol yn ymateb i covid. Er hynny, ategwyd bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi digolledu a bod disgwyliad y byddant yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

·         Yn Gorfforaethol nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynhyrchu treth ychwanegol ac yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod covid yn ymddangos yn cael y bai ar bopeth - a ydym yn edrych ar y darlun yn gywir?  yn hollol sicr bod rheolaeth adrannau ar ben ei gwaith? ac nad yw’r sefyllfa yn gwegian oherwydd gweithio o adre?

·         Beth yw'r risg i’r Llywodraeth wrthod ariannu pellach petai covid yn ymddangos fel esgus o fewn adrannau?

·         Gwynedd yn gyrchfan o drigolion wedi ymddeol ond sydd heb gyfrannu i’r ardal - yn her ddifrifol yn enwedig i gostau Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant?

·         Gorwariant Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theulueodd ddim yn newydd - gorwariant yn bodoli cyn covid gyda’r sefyllfa yn debygol o waethygu oherwydd covid - a oes angen rhoi mwy o bwysau ar y llywodraeth a cheisio mwy o gyllid?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Pennaeth Cyllid bod:

·         Y Tîm Rheoli Corfforaethol yn adolygu lefel parhad gwasanaeth bob pythefnos ac yn monitro lefelau pryderon ariannol oherwydd bod pryderon yn parhau, mwy o broblemau yn codi a cheisiadau am gymorth o adran i adran oherwydd pwysau’r argyfwng. Nododd bod yr adroddiad yn galonogol ar y cyfan gyda’r sefyllfa yn gymharol foddhaol gyda mandad gan y Cabinet i’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid fynd at wraidd  problemau’r ddwy adran i geisio datrysiad - cytunodd bod angen cymryd golwg ar y sefyllfa a’r methiant i gyflawni’r arbedion

·         Gwybodaeth am ddyraniad y grant sylfaenol 2022/23 i’w dderbyn ym mis Rhagfyr 2021 gyda sefyllfa'r Cyngor yn ddigon cadarn i bontio cynlluniau tymor byr petai’r grant yn llai na’r diswyliad. Ategwyd bod cyfle i bwyso a  mesur y sefyllfa ac wrth sefydlu Cyngor Newydd ym mis Mai 2022 bydd yn gyfle da i ail drafod yr arbedion. Nodwyd bod y grant a dderbynnir o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru yn sylweddol ac ar hyn o bryd yn ariannu digartrefedd, gofal a phrydau ysgol am ddim. Amlygwyd bod Gweinidog perthnasol Llywodraeth Cymru, Rebeca Evans, wedi datgan bydd dim Cronfa Caledi o Ebrill 2022 ymlaen, oni bai bod amgylchiadau'n newid. Nodwyd fod cynrychiolwyr awdurdodau lleol wedi cyfleu pryderon a risgiau i’r Llywodraeth, ac os bydd y gronfa yn dod i ben bydd angen ychwanegiad priodol i setliad grant 2022/23.

·         Elfen cydnabyddiaeth yn y grant i niferoedd pobl hŷn ynghyd a nifer  disgyblion. Bod penderfyniad y Cyngor i godi premiwm treth gyngor o 100% ar ail gartrefi yn brawf bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf posib i gael cyfraniad costau

·         Sefydlogrwydd bellach yng ngwariant y Gwasanaeth Plant drwy sicrhau cyllideb gywir a bidiau grant. Y Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant  a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn sylw pellach dros y misoedd nesaf. Nodwyd bod amcangyfrifon teg ar ran y gyllideb arbedion ac awgrym bod yr arbedion hynny sydd heb eu cyflawni yn fater rheolaethol efallai - methiant i weithredu yw’r sefyllfa yn hytrach na chyllido anghywir.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

 

Dogfennau ategol: