Cyflwyno trosolwg o’r
Prosiect Prentisiaethau gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau
Gwahoddir y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a gyflwynir
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yn cyflwyno trosolwg o’r Prosiect Prentisiaethau
gan amlygu llwyddiannau , sialensiau a datblygiadau i’r dyfodol. Atgoffwyd yr
Aelodau bod y Cabinet (22/01/19) wedi ymrwymo
i wariant o £300,00 o Gronfa Cynllun y Cyngor i sefydlu Cynllun Prentisiaethau i gyflogi hyd at 20
prentis newydd yn 2019. Adroddwyd bod y cynllun bellach wedi ei gynnwys fel
maes blaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor 2018 -2023 gyda sgôp prosiect y Cynllun
Prentisiaethau wedi ei ehangu a’i ail-enwi yn Cynllunio’r Gweithlu.
Ers dechrau’r cynllun yn 2019, mae 30 wedi eu recriwtio gyda 10 o
brentisiaethau 2019/20 wedi derbyn swydd yn y Cyngor. Ategwyd bod bwriad i hysbysebu 7 swydd arall erbyn diwedd y
flwyddyn gan ddod ar cyfanswm i 37. Yng nghyfarfod y Cabinet Mai 2021,
cymeradwywyd cais am £600,00 ychwanegol dros dair blynedd gan anelu i gynnig o
leiaf 20 prentisiaeth y flwyddyn dros gyfnod yr ariannu. Bydd hyn yn caniatáu
darparu cefnogaeth a’r weinyddiaeth angenrheidiol ar gyfer y cynllun ynghyd a
datblygu’r cynllun i weithio mwy gyda busnesau bach, contractwyr lleol a
mentrau cymdeithasol.
Diolchwyd am yr adroddiad
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Llongyfarchwyd yr
adran ar y gwaith ac o yrru cynllun llwyddiannus yn ei flaen
·
Bod y maes yn un cyffrous gyda datblygiadau
diddorol i’r dyfodol
·
Cais am wybodaeth
yn amlygu'r rhai sydd wedi
gadael i weithio mewn sefydliadau
eraill - hyn hefyd yn dangos
gwerth i’r cynllun
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae’r cynllun yn sicrhau bod prentis newydd
yn teimlo fel rhan o dîm /adran oherwydd gofynion gweithio o adre, nodwyd bod
cefnogaeth ddwys wythnosol ar gyfer yr unigolyn gan y Tîm Dysgu a Datblygu
ynghyd a chefnogaeth gan Reolwyr yr adrannau perthnasol i sicrhau nad yw’r
prentis yn teimlo’n ymylol.
Mewn
ymateb i sylw bod argyfwng staff proffesiynol mewn dwy adran o’r Cyngor ac nad
oedd cynlluniau prentis wedi eu cynnwys ar gyfer yr adrannau hyn, nodwyd nad
oedd cynlluniau hyfforddiant a chymwysterau proffesiynol ar gael ar gyfer pob
maes prentisiaethol, ond bod y Cynllun Rheolwyr ac
Arbenigwyr Yfory yn cyfarch y maes cyfreithiol a'r maes eiddo. Ategwyd bod
trafodaethau yn parhau ynglŷn â ‘llenwi bylchau’ yn y meysydd yma i’r
dyfodol.
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglyn a dulliau rhannu gwybodaeth
a’r broses recriwtio, nodwyd bod canran helaeth o’r gwaith hysbysebu yn cael ei
wneud drwy’r cyfryngau cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ysgolion a Cholegau. Ategwyd
bod cofnod o’r unigolion hynny sydd wedi dangos diddordeb yn cael ei gadw ar
restr sydd gydag oddeutu 500 enw – bydd rhain yn derbyn gwybodaeth fel mae
cyfleoedd yn codi
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â phrinder gofalwyr ac a oes modd denu gofalwyr
drwy’r cynllun prentisiaethau, nodwyd
bod nifer uchel yn dangos diddordeb yn y maes gofal. Ategwyd bod y
broses penodi yn cael ei gwneud ar y cyd rhwng tîm canolog a rheolwyr
gwasanaeth.
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â datblygu prentisiaethau ar y cyd gyda chwmnïau
preifat, nodwyd yr angen i sicrhau sylfaen gadarn i’r cynllun mewnol cyn
datblygu lleoliadau gwaith tu hwnt i’r Cyngor. Er hynny, ategwyd bod gwaith
cychwynnol yn cael ei wneud i sefydlu prentisiaethau ar y cyd ac y byddai modd
rhoi diweddariad ar yr agwedd yma wrth iddo ddatblygu.
PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad
·
Cais am ddiweddariad o’r gwaith Prentisiaethau ar y Cyd gyda
chwmnïau a chontractwyr lleol wedi iddo
ddatblygu
Dogfennau ategol: