Ystyried
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Penderfyniad:
Bod y
pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y
sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-
“2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd
i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .
(a) Mae Datblygiad Newydd o
godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal
- mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein
plant.
(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr
Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y
pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi
dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai.
Mae’r Gymdeithas tai wedi
cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon.
Nid yw’r adroddiad yn sôn dim
am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn
mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion
Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth
Democratiaeth yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w
graffu, yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:-
Eitem 8: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet
28.9.21
“Cadarnhawyd
yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31
Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr, 2022,
yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a
gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.”
Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i
alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Alwyn Gruffydd, Elwyn
Jones a hithau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol.
Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef
yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, ac sydd o fewn
gofynion Cyfansoddiadol, wedi eu nodi fel a ganlyn:
“1. Mae’r
Adroddiad yn anghywir ac yn gamarweiniol rhan effaith ar y Gymuned, er
enghraifft iaith a diwylliant Cymraeg - yn y tabl ar dudalen 714 mae yn dweud
nad oes dim effaith ar yr Iaith.
2. Nid yw’r Adroddiad yn cymryd i ystyriaeth ddyfodol Tai a
Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref.
(a) Mae Datblygiad Newydd o godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth
bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal - mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu
angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein plant.
(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd
a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y pentref) ar hyn o bryd yn edrych i
godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod grant ar gael i ddatblygu
y tir yma i godi o bosib 15 o dai.
Mae’r Gymdeithas tai wedi cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud
yn barod ar safle Bryn Garmon.
Nid yw’r adroddiad yn sôn dim am y cynllun newydd gan yr Adran
Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn mynd ymlaen yn y Pentref ac felly
nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol
wrth beidio gwneud hyn.
3. Mae pryder wedi ei ddatgan rhan y ffordd droed rhwng Abersoch
a Sarn Bach mae yr Adran addysg yn dweud fod cyswllt wedi bod gyda’r Adran
Ffyrdd ond nid oes dim byd pendant wedi ei gyflwyno rhan datrys y risg yma sydd
yn rhoi disgyblion mewn peryg. Mae’r Adran Addysg yn sôn am drefniadau cludiant
sydd wrth gwrs yn ychwanegu at hinsawdd ac yn enghraifft ddrwg i’r plant ar sut
mae’r Cyngor yn cymryd i ystyriaeth effaith ar hinsawdd.
4. Mae un plentyn yn disgyn allan o’r cynnig i gael cludiant
oherwydd polisïau oed - yn y dyfodol pan fydd rhifau plant yn cynyddu oherwydd
(a) a (b) mae’n debyg bydd plant eraill yn cael gwrthod y cludiant yma ac
felly yn dioddef rhan eu haddysg.
5.Y penderfyniad ydi i gau yr
ysgol yn ganol y flwyddyn ysgol a does dim amheuaeth fod hyn am fod yn ddryslyd
i’r plant ac eto mae hyn yn cael effaith negyddol ar eu haddysg does dim
eglurhad pam a beth ydi y rhesymeg yn fan hyn.
Er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i graffu ar y
mater yn unol â’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu,
cyflwynwyd y dogfennau isod i’r pwyllgor craffu hefyd:-
·
Atodiad
1 – ymateb yr Adran Addysg i’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu
craffu
·
Atodiad
2 – Taflen benderfyniad y Cabinet (Eitem 8, 28.9.21)
·
Atodiad
3 – adroddiad y Cabinet (Eitem 8, 28.9.21)
Eglurodd y Swyddog Monitro y cyd-destun i
benderfyniad y Cabinet ym mis Medi (fel yr amlinellwyd yn y rhan cyntaf o
Atodiad 2 i’r adroddiad).
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan
nodi:-
·
Ei
fod o’r farn bod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 28 Medi wedi ymdrin yn
benodol â’r gwrthwynebiadau oedd yn ymwneud â’r effaith ar y gymuned ac ar yr
iaith Gymraeg, datblygiadau posib’ yn yr ardal, cludiant a theithio a dyddiad
gweithredu’r cynnig.
·
Y
bu i’r materion hyn hefyd gael eu trafod ymhellach yn ystod cyfarfod y Cabinet,
cyn dod i benderfyniad terfynol.
·
Y
byddai’r cynnig i gau Ysgol Abersoch a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn
Bach, nid yn unig yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu Ysgol Abersoch, ond hefyd yn
arwain at gyfleoedd mwy cyson i blant y dalgylch, drwy anelu at ddyheadau
strategol y Cyngor i gynnig addysg o’r ansawdd uchaf bosib’ i bob disgybl.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd
ynglŷn â’r penderfyniad i gau Ysgol Abersoch yng nghanol blwyddyn ysgol,
cadarnhawyd bod digon o amser i baratoi ar gyfer trosglwyddo disgyblion i Ysgol
Sarn Bach. Mae yna ddarn o waith i’w
wneud o ran lle mae rhieni yn dewis gyrru eu plant a’r ail gam fyddai llunio
cynllun pontio manwl gyda staff yr ysgolion dan sylw, er mwyn sicrhau cefnogaeth
i’r plant drwy’r cyfnod trosglwyddo.
Nodwyd hefyd bod yr Adran wedi ymateb i sefyllfa gyffelyb o’r blaen,
megis pan sefydlwyd Ysgol y Garnedd newydd ym Mangor.
Gwahoddwyd yr aelodau oedd wedi galw’r
penderfyniad i mewn i gyflwyno eu sylwadau.
Nodwyd:-
·
Bod
y Cabinet wedi dilyn llwybr di-droi nôl i gau Ysgol Abersoch, gan ddiystyru’r
3,000 o enwau oedd wedi gwrthwynebu, naill ai drwy ddeiseb neu sylwadau
unigol. Diystyrwyd y tai newydd oedd yn
cael eu codi yn Abersoch, a’r swyddi newydd oedd ar fin cael eu creu yn y
pentref, ac ni roddwyd ystyriaeth wirioneddol i effeithiau’r penderfyniad ar y
Gymraeg yn y pentref, na’r effaith ar lywodraethwyr, rhieni na disgyblion, sef
yr ynys o Gymreictod yn y pentref.
·
Bod
y dadleuon dros gau’r ysgol yn amwys, a bod geiriau megis ‘efallai’, ‘o bosib’ neu ‘mae’n debygol’ yn codi’n aml yn yr
adroddiadau.
·
Nad
oedd modd cynnal ymgynghoriad teg a chynhwysfawr yng nghanol y pandemig.
·
Bod
y Ddeddf Trefniadaeth Ysgolion yn nodi y dylai awdurdodau addysg ragdybio yn
erbyn cau ysgol.
·
Mai
mater o lanw a thrai yw poblogaeth ysgol.
Derbynnid bod y niferoedd wedi gostwng ar hyn o bryd, ond roedd
rhagdybiaeth y byddai yna 11-12 o ddisgyblion yn yr ysgol y flwyddyn nesaf a’r
flwyddyn ganlynol. Roedd dros 20 o
ddisgyblion yn y dalgylch yn mynd i ysgolion eraill, a dyna, yn anffodus, sy’n
digwydd pan mae dyfodol ysgol dan fygythiad.
·
Ei
bod yn drueni na roddwyd ystyriaeth i opsiynau eraill, megis ffederaleiddio.
·
Na
welid unrhyw fantais symud 7 plentyn i Ysgol Sarn Bach.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, nododd y Pennaeth
Addysg:-
·
Bod
y mater o gynnal yr ymgynghoriad yn ystod cyfnod pandemig
wedi’i graffu eisoes gan y pwyllgor hwn, ac nad oedd hynny’n un o’r seiliau
dros alw’r penderfyniad i mewn.
·
Bod
y rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol yn benodol ar gyfer ysgolion sydd wedi’u
dynodi’n rhai bach a gwledig. Nid dyna’r
achos yn Abersoch, ond er mwyn cynnig cefnogaeth a bod yn dryloyw, roedd yr
Adran wedi ymdrin â’r broses fel pe byddai’n ysgol fach a gwledig.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Nododd aelod ei fod yn credu bod y
ddogfennaeth helaeth a dderbyniwyd yn cyfarch y rhesymau dros’r
penderfyniad i mewn.
Mewn ymateb i gwestiynau, nodwyd:-
·
O
ran yr effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar y gymuned, bod asesiadau effaith
wedi’u gwneud ar yr effaith bosib’ ar y gymuned a’r iaith Gymraeg drwy gydol y
broses. Gan fod yr asesiad o ran cau
ysgol yn nodi y byddai yna effaith ar agweddau cymunedol o’r ysgol, ac o
golli’r ysgol yn y gymuned, edrychwyd ar beth allai’r Cyngor ei wneud i
liniaru’r effeithiau negyddol posib’.
·
Bod
yr Awdurdod yn gwneud popeth i annog trafodaethau rhwng yr ysgol amgen ac Ysgol
Abersoch fel bod modd pontio’r profiadau da mae’r disgyblion wedi gael yn Ysgol
Abersoch i’r ysgol amgen. Roedd Ysgol
Abersoch wedi bod yn weladwy iawn yn y pentref, ac roedd angen annog yr ysgol
amgen i sicrhau bod y cydweithio gyda chymuned Abersoch yn parhau.
·
Bod
sefyllfa’r iaith Gymraeg yn gryf yn Ysgol Sarn Bach, gyda 57% o’r disgyblion yn
dod o gartrefi Cymraeg, o gymharu â 33% yn Ysgol Abersoch. Golygai hynny y byddai yna fwy o gyfleoedd
i’r disgyblion ymarfer yr iaith Gymraeg o fewn y dosbarth ac ar yr iard. Roedd Ysgol Abersoch wedi gweithio’n galed i
ddatblygu dwyieithrwydd disgyblion ac wedi hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ac
roedd y disgwyliad yr un mor uchel ar Ysgol Sarn Bach.
·
O
ran niferoedd plant, bod ffigurau Medi 2020 yn dangos bod yna 26 o blant 3-8
oed yn byw yn y dalgylch, gyda 5 ohonynt (19%) yn dewis mynychu Ysgol Abersoch
a 21 (81%) yn dewis mynychu ysgolion all-dalgylch. Ym mis Medi eleni, roedd 20 o blant 3-8 oed
yn byw yn y dalgylch, gyda 4 ohonynt (20%) yn dewis mynychu Ysgol Abersoch ac
16 (80%) yn dewis mynychu ysgolion all-dalgylch. O ran y sefyllfa bresennol, mae 7 plentyn yn
mynychu Ysgol Abersoch, 4 ohonynt o’r dalgylch, a 3 yn all-dalgylch.
·
Bod
teithio yn rhan allweddol o bob adroddiad i’r Cabinet. Darperir cludiant eisoes ar gyfer disgyblion
oedd yn mynd i Ysgol Sarn Bach o Flwyddyn 4 ymlaen, ac ni chredir y byddai
darparu cludiant ychwanegol ar gyfer disgyblion Ysgol Abersoch yn arwain at
gostau ychwanegol nac yn effeithio’n andwyol ar ôl-troed carbon.
Gwahoddwyd yr Aelod Lleol i gyflwyno
sylwadau. Nododd:-
·
Y
dymunai ddiolch i’w gyd-aelodau am alw’r penderfyniad i mewn, a hefyd i
lywodraethwyr yr ysgol, sydd wedi brwydro mor galed, ac i’r staff a’r plant a’r
rhieni sydd wedi parhau i anfon eu plant i’r ysgol.
·
Bod
yna lawer o gwestiynau ynglŷn â’r rhesymau dros symud plant yng nghanol
blwyddyn ysgol.
·
Bod
cynllun i godi 12-15 tŷ fforddiadwy yn y pentref yn mynd yn ei flaen, ac y
byddai hyn yn cynyddu nifer y plant yn yr ardal dros nos.
·
Ei
bod yn debygol iawn hefyd y byddai cynllun i godi gwesty yn Abersoch yn mynd
rhagddo, ac yn creu swyddi newydd yn yr ardal.
·
Nad
oedd yr adroddiad yn cyfeirio at ddyfodol y dalgylch na’r pentref, ac felly’n
diystyru egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
·
Y
dadleuwyd yn y Cyngor llawn yn ddiweddar y dylai’r premiwm treth cyngor gael ei
wario yn yr ardaloedd lle mae’r dreth yn cael ei chasglu, ac nad oedd cyfeiriad
yn yr adroddiad at unrhyw ymdrech i ddefnyddio arian y premiwm i geisio
ariannu’r ysgol.
·
Bod
un ysgol gyfagos ymhell dros gapasiti, ond na chafwyd
eglurhad pam bod hynny wedi gallu digwydd.
·
Gan
nad oedd un plentyn am gael cludiant i Ysgol Sarn Bach oherwydd polisi oedran y
Cyngor, byddai’n cael ei amddifadu o addysg am flwyddyn.
·
Na
ddeellid y brys i gau’r ysgol erbyn 31 Rhagfyr eleni, yn enwedig pan fo
gwybodaeth newydd yn dod i’r golwg.
·
Y
byddai’r effaith ar y diwylliant Cymraeg a’r iaith Gymraeg yn ergyd drom i’r
ymdrechion a fu i gadw’r iaith yn fyw yn y pentref.
·
Na
ddeellid pam bod angen symud y plant cyn creu’r llwybr diogel i gerddwyr o
Abersoch i Sarn Bach.
·
Bod
gan rieni'r hawl i anfon eu plant i unrhyw ysgol, a phwy oedd i ddweud y byddai
rhieni Abersoch yn anfon eu plant i Sarn Bach?
Nid oedd neb yn gwybod eto i ble y byddai’r plant yn mynd, na sut.
·
Bod
penderfyniad y Cabinet yn warthus, ac nad oedd yr adroddiadau yn ateb yr un o’r
cwestiynau.
·
Na
ddeellid pam nad yw Ysgol Abersoch wedi ei chofrestru fel ysgol wledig. Cafwyd ar ddeall mai Llywodraeth Cymru sy’n
penderfynu ar hyn, ond roedd Llywodraeth Cymru yn dweud bod rhaid gofyn y
cwestiwn i’r Cyngor. Hefyd, dywedwyd ar
un adeg na ymgynghorwyd â’r Cyngor ynglŷn â hyn, ond roedd Llywodraeth
Cymru yn dweud bod yna 3 ymgynghoriad wedi bod.
·
Bod
Ysgol Abersoch yn ysgol hynod o dda, ac y mawr obeithiai y byddai’r pwyllgor yn
ystyried gyrru’r mater i’r Cyngor llawn am benderfyniad.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn, eglurodd y
Swyddog Monitro:-
·
Gan
na chafodd penderfyniad y Cabinet ym mis Mehefin eleni i gyhoeddi’r rhybudd
statudol ei alw i mewn i’w graffu, bod hynny’n dirwyn y broses ymgynghori i
ben.
·
Mai
rôl y Cabinet ym mis Medi oedd ystyried y gwrthwynebiadau i rybudd statudol
oedd wedi’i gyhoeddi, a rôl y pwyllgor hwn yw ystyried ymateb y Cabinet i’r
gwrthwynebiadau hynny, a bod honno’n drefn statudol gyda chyfnod statudol o’i
chwmpas.
·
Petai’r
pwyllgor hwn yn gyrru’r mater yn ôl i’r Cabinet gyda phwyntiau nad oedd yn rhan
o’r gwrthwynebiadau, neu’n faterion newydd, ni fyddai’r Cabinet mewn sefyllfa i
gymryd y rheini i ystyriaeth.
·
Bod
gan y pwyllgor yr hawl i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn i barhau â’r broses
graffu, ond byddai’n rhaid bod yn glir am y rhesymeg dros wneud hynny. Hefyd, gan y byddai’r cyfnod 16 wythnos i
gadarnhau’r rhybudd statudol yn dod i ben ganol Tachwedd, byddai’n rhaid galw
cyfarfod arbennig o’r Cyngor mewn da bryd i gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet
cyn i’r rhiniog statudol gael ei basio.
Mewn ymateb i’r pwynt diwethaf, awgrymodd yr
Aelod Lleol nad oedd y ddadl ein bod yn rhedeg allan o amser yn dal dŵr,
oherwydd y dylem fod wedi cymryd yr amserlen statudol i ystyriaeth yn ystod yr
holl broses. Mewn ymateb, nododd y
Swyddog Monitro ei bod yn anghyffredin gofyn i’r Cyngor llawn ymgymryd â’r rôl
craffu, a beth bynnag fyddai rôl y Cyngor llawn, byddai’n ofynnol i’r mater
fynd yn ôl i’r Cabinet i’w benderfynu.
Ar bwynt o gywirdeb, nododd y Pennaeth
Addysg fod sylw’r Aelod Lleol fod un disgybl ddim yn gymwys i gael cludiant i
Ysgol Sarn Bach yn gamarweiniol, a bod yr adroddiad yn cyfarch y cludiant i’r
disgybl meithrin. Atebodd yr Aelod Lleol
nad dyna gafodd ei ddweud yn y Cabinet.
Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Addysg fod yr Adran wedi adolygu’r
sefyllfa unigol yn dilyn y Cabinet, ac wedi gwneud eithriad i’r polisi i
sicrhau bod y disgybl yn cael cludiant i’r ysgol.
Nododd aelod:-
·
Ei
fod yn edmygu dygnwch ymgyrch daer y gymuned leol, yn cynnwys yr Aelod Lleol, y
llywodraethwyr a’r rhieni a’r disgyblion a chyn-ddisgyblion, oedd wedi pledio
eu hachos dros gadw’r ysgol yn agored er lles y plant a’r gymuned.
·
Er
hynny, roedd hefyd yn gweld dadl y Cabinet dros gau ysgol gyda 7 disgybl, ac
nad oedd y ffigwr yma’n hyfyw, er cystal yr addysg.
·
Bod
y llywodraethwyr a’r rhieni yn teimlo’n rhwystredig nad ydynt wedi cael
cyfarfod cyhoeddus wyneb yn wyneb gyda’r Awdurdod, a holwyd a oedd modd i’r
Cabinet ystyried cynnal cyfarfod o’r fath er tegwch i bawb.
Mewn ymateb i’r sylw diwethaf, eglurodd yr
Aelod Cabinet y cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus cyn cyfnod y pandemig.
Cynigiwyd ac eiliwyd bod y pwyllgor craffu yn cyfeirio’r mater yn ôl i’r
Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros
alw i mewn, sef datblygiadau tai a gwesty yn yr ardal.
Cynigiwyd ac
eiliwyd gwelliant bod y pwyllgor craffu’n cyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn
oherwydd bod y mater yn llawer ehangach nag Abersoch, a bod angen rhoi cyfle i
holl aelodau’r sir gael siawns i ymateb i hyn.
Mewn ymateb i’r
gwelliant, eglurodd y Swyddog Monitro nad oedd modd gofyn i’r Cyngor drafod yr
holl broses trefniadaeth ysgolion, ac nad oedd y gwelliant yn golygu dim mwy na
gofyn i’r Cyngor gyflawni’r rôl craffu yng nghyd-destun y pwynt penodol, sef yr
ymateb i’r gwrthwynebiadau. Nodwyd hefyd
bod angen bod yn glir beth oedd y rhesymeg dros ofyn i’r Cyngor llawn
gyflawni’r rôl craffu yn yr achos hwn.
Nododd aelod na chredai bod gyrru’r mater yn
ôl i’r union bobl oedd wedi gwneud y penderfyniad yn y lle cyntaf yn
ddemocrataidd, ac y byddai’n fwy agored ac yn fwy tryloyw petai’r mater yn mynd
gerbron y Cyngor llawn.
Er eglurder, cadarnhawyd mai’r gwelliant
oedd bod y pwyllgor craffu’n cyfeirio’r mater i’w graffu mewn cyfarfod arbennig
o’r Cyngor o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf (i gyd-fynd â’r amserlen statudol),
a bod hynny ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r 5 rheswm dros alw i mewn.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant, ac fe
ddisgynnodd.
Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol i
gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w
ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb digonol i’r ail reswm dros alw i mewn,
sef datblygiadau tai a gwesty yn yr ardal, ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD bod y pwyllgor craffu yn
cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb
digonol i’r ail reswm dros alw i mewn, sef:-
“2.Nid yw’r Adroddiad yn cymryd
i ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y Pentref .
(a) Mae Datblygiad Newydd o
godi Gwesty Newydd fydd yn creu beth bynnag 40 o swyddi llawn amser yn yr ardal
- mi fydd y Gweithwyr a’u Teulu angen adnoddau yn cynnwys Addysg i ein
plant.
(b) Mae Llywodraeth Cymru, yr
Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a Chymdeithas Tai (sydd yn berchen tir yn y
pentref) ar hyn o bryd yn edrych i godi mwy o dai - mae Llywodraeth Cymru wedi
dweud fod grant ar gael i ddatblygu y tir yma i godi o bosib 15 o dai.
Mae’r Gymdeithas tai wedi
cadarnhau fod cynlluniau wedi gwneud yn barod ar safle Bryn Garmon.
Nid yw’r adroddiad yn sôn dim
am y cynllun newydd gan yr Adran Tai ac Eiddo a dim am y datblygiadau sydd yn
mynd ymlaen yn y Pentref ac felly nid yw’r Adran Addysg wedi ymateb i ofynion
Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol wrth beidio gwneud hyn.”
Dogfennau ategol: