YSGOL
ABERSOCH
Cyflwynwyd gan:Cyng. Bethan Lawton
Penderfyniad:
Penderfynwyd i beidio addasu y penderfyniad a wnaethpwyd ar 28 Medi 2021 a
cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd statudol, i gau Ysgol
Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1
Ionawr 2022, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.
Cofnod:
YSGOL ABERSOCH
Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Bethan Lawton – Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac
Economi.
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd i beidio
addasu y penderfyniad
a wnaethpwyd ar 28 Medi
2021 a cadarnhawyd yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy rybudd
statudol, i gau Ysgol Abersoch ar 31 Rhagfyr 2021, a darparu lle i
ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Ionawr 2022, yn unol ag Adran
53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion
y Cod Trefniadaeth Ysgolion
11/2018.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y mater wedi cael ei alw i mewn i’r Pwyllgor Craffu gan
nad oeddent yn teimlo fod y Cabinet wedi rhoi sylw digonol i bump agwedd
benodol pan yn ystyried y mater yn ffurfiol wedi y cyfnod gwrthwynebu statudol.
Eglurwyd fod y
Pwyllgor Craffu wedi trafod yr eitem yn ystod eu cyfarfod ar y 21ain o Hydref,
ble cafwyd trafodaeth a cyfle i graffu ymhellach. Mynegwyd fod nifer o’r
agweddau wedi eu hateb yn ystod y cyfarfod a penderfynodd y Pwyllgor i
gyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’r ail-ystyried ar y sail na chafwyd ymateb
digonol i’r ail reswm dros alw i mewn sef nad oedd yr adroddiad yn cymryd
ystyriaeth ddyfodol Tai a Gwaith fydd yn dod i rym yn y pentref. Pwysleisiwyd fod yr aelodau Craffu yn
bryderus nad oedd ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith posib datblygiadau
arfaethedig ar y ffigyrau tafluniad ar gyfer Ysgol Abersoch cyn gwneud unrhyw
benderfyniad. Gofynnwyd i’r Cabinet ail ystyried eu penderfyniad yn sgil eu
pryderon.
Ychwanegodd yr
Aelod Lleol fod y drafodaeth dros Ysgol Abersoch wedi bod yn broses hir iawn ac
fod angen i’r aelodau Cabinet roi sylw penodol i’r materion Tai sydd ar y gwell
yn y pentref. Eglurwyd fod sôn am ddatblygiadau tai yn y ward a tu hwnt ac o
ganlyniad i hyn fod angen darpariaeth addysg i blant a theuluoedd fydd yn symud
i’r ardal. Tynnwyd sylw fod Ysgol Llanbedrog dros ei gapasiti.
Mynegwyd fod y datblygiadau yma a’r Gwesty newydd yn newyddion da i’r ardal ond
pwysleisiwyd nad oes dim sôn am y datblygiadau hyn yn yr adroddiadau a mynegwyd
fod ymdeimlad yn lleol fod yr adroddiadau o’i ganlyniad yn gamarweiniol â ddim
yn cyd-fynd a Deddf Llesiant.
Efynnwyd ar yr
aelodau i beidio cau’r Ysgol am y rhesymau a nodwyd heddiw ac yn y gorffennol
ac i beidio cau yn ganol tymor yr ysgol, ac i flaenoriaethu addysg plant yr
ardal.
Ymatebodd yr Aelod
Cabinet i’r adroddiad gan nodi cefndir yr eitem. Eglurodd yn ôl ym mis Mehefin
fod y Cyngor wedi cyhoeddi y rhybudd statudol i gau Ysgol Abersoch ar 31
Rhagfyr 2021 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Sarn Bach. Nodwyd fod y
Cabinet yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau wedi cadarnhau y penderfyniad i
gau’r Ysgol. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad a gyflwynwyd wedi ymdrin a sylwadau
am effaith datblygiadau posib yn yr
ardal ac fod y Cabinet wedi eu hystyried cyn dod i benderfyniad.
Nododd ei fod yn
cynnig i’r Cabinet i beidio addasu’r penderfyniad gan fod cau’r ysgol yn ymateb
i’r heriau sy’n wynebu yr ysgol ac yn arwain at gyfleodd fwy cyson i blant y
dalgylch gan gynnig addysg o ansawdd uchel, profiadau, sgiliau a hyder i fod yn
ddinasyddion dwyieithog llwyddiannus.
Nododd y Swyddog
Monitro y drefn gyfansoddiadol yn unol a’r drefn galw i mewn gan nodi fod y
penderfyniad a wneir heddiw yn derfynol a ni fydd modd galw’r penderfyniad hwn
i mewn i graffu.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Nodwyd na fyddai angen trafod
y posibiliadau o agor y gwesty gan y buasai’r cwmni, gobeithio, yn penodi
unigolion lleol ac felly ni fydd angen i bobl symud i mewn i’r ardal. Gofynnwyd
os y bydd y datblygiadau tai os y bydd gan Ysgol Sarn Bach y capasiti i gymryd mwy o blant. Eglurwyd y buasai capasi yn y ysgol.
¾
Mynegwyd fod trafodaethau
cychwynnol yn cael ei cynnal i drafod ac ymateb i angen am dai yn yr ardal ond
nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei gadarnhau ac o ganlyniad ddim eisiau codi
unrhyw ddisgwyliadau yn yr ardal.
¾
Pwysleisiwyd fod llawer o’r
dadansoddi wedi ei wneud yn barod, a nodwyd os tai yn cael ei codi mai tai i
bobl leol yn ardal fydd rhain ac nid i bobl tu allan i’r ardal, ac felly ni
fydd yn cynyddu niferoedd y plant. Nodwyd o ran safle Penrhos y flaenoraeth fydd ar gyfer darpariaeth gofal, gyda nifer
bychan ar gael i deuluoedd. Mynegwyd na fydd y rhain yn gwneud llawer o newid
i’r tafluniad yr ysgol.
¾
Eglurwyd hyd yn oed os oes datblygiad y buasai capasiti yn Ysgol Sarn
Bach i’r nifer o ddisgyblion.
Dogfennau ategol: