Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad a cymeradwywyd y canlynol:
I.
Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect peilot
ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r safleoedd)
sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu cyfleusterau i
gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau, ond yn
ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol.
II.
Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y peilot yn
cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd.
III.
Ystyried a gweithredu ar fesurau gorfodaeth i
fynd law yn llaw gyda’r uchod.
IV.
Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth Cymru a
gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr
adroddiad a cymeradwywyd y canlynol:
I.
Awdurdodi’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned i gynnal prosiect
peilot ar gyfer defnydd o hyd at 6 o safleoedd parcio’r Cyngor (neu ran o’r
safleoedd) sydd o fewn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, er darparu
cyfleusterau i gartrefi modur aros dros nos ac i gynnwys dynodi y lleoliadau,
ond yn ddarostyngedig i sicrhau cyllid cyfalaf a’r caniatâdau angenrheidiol.
II.
Bod adroddiad pellach ar ganlyniadau y
peilot yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ymhen tair blynedd.
III.
Ystyried a gweithredu ar fesurau
gorfodaeth i fynd law yn llaw gyda’r uchod.
IV.
Cyflwyno’r gwaith ymchwil i Llywodraeth
Cymru a gofyn iddynt Adolygu’r Ddeddf Carafanau a Rheoli Datblygu 1960.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn ymchwili i gartrefi modur yng
Ngwynedd. Darllenwyd y penderfyniad.
Eglurodd y
Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd fod y gwaith ymchwil yma wedi ei greu ar
y cyd rhwng yr adran Amgylchedd ac Economi a Chymuned. Nodwyd mai pwrpas yr
adroddiad yw i egluro beth oedd y sefyllfa cartrefi modur yng Ngwynedd ac os
oes angen rheolaeth well arnynt ac os oes unrhyw wersi i’w dysgu o leoliadau
eraill ym Mhrydain ac Ewrop. Tynnwyd sylw fod y ddeddfwriaeth o ran Cynllunio a
Trwyddedu yn mynd yn ôl i’r 1960au a holwyd bellach os yn addas i bwrpas.
Mynegwyd
fod tri holiadur wedi ei ddefnyddio - un gyda perchnogion meysydd Carafanau a
Gwersylla yng Ngwynedd, un a perchnogion cartrefi modur ac un gyda trigolion
Gwynedd. Amlygwyd fod trosolwg o’r canfyddiadau gan amlygu fod y sector yn un
sydd yn datblygu yn sylweddol ac fod anghenion defnyddwyr cartrefi modur yn
wahanol i ddefnyddwyr carafanau a gwersylla traddodiadol. Nodwyd fod defnyddwyr
yn ffafrio lleoliadau o fewn pellter cerdded i lefydd o ddiddordeb a canol
trefi ac yn dueddol i deithio drwy’r flwyddyn.
Amlygwyd
fod enghreifftiau yn yr Alban a Lloegr ble mae cynghorau wedi treialu meysydd
parcio yn lefydd aros dros nos gyda cyfleusterau angenrheidiol ac eglurwyd ei
fod yn dueddiad sydd i’w gweld yn Ewrop yn ogystal. Mynegwyd fod perchnogion
wedi nodi yn yr holiadur y buasent yn eu defnyddio ac nodwyd cefnogaeth i’r
treialu gan y cyhoedd yn ogystal..
Nodwyd fod
yr adroddiad yn amlygu yr angen am reolaeth gwell o’r sector ond fod angen
cefnogaeth i dreialu’r cyfleusterau dros nos ond eu bod yn mynd law yn llawer
gyda mwy o orfodaeth. Eglurwyd mai gofyn am ganiatâd i dreialu cyfleuster o’r
fath mewn hyd at 6 lleoliad o fewn ardal cynllunio Awdurdod Gwynedd. Mynegwyd y
bydd angen buddsoddiad i greu’r cyfleusterau pwrpasol.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd fod cartrefi modur yn broblem fawr ar draws y sir a diolchwyd am y
gwaith sylweddol sydd wedi mynd i mewn i greu’r adroddiad. Dangoswyd cefnogaeth
i’r cynllun gan nodi fod angen symud yn sydyn.
¾
Nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu cydweithio gwych rhwng y ddwy adran, ac
ychwanegwyd fod angen bod yn ganolog i arwain twf yn yr economi er mwyn cynnal
swyddi.
¾
Croesawyd yr adroddiad yn benodol o ran rheolaeth ac i gyfeirio at
leoliadau penodol i geisio delio ar sefyllfa. Holwyd os oes modd gwthio yn
rhaglen yn ei blaen ac o bosib i gael y safleoedd yn gynt yn hytrach nac yn
hwyrach.
¾
Cefnogwyd yr adroddiad gan amlygu
fod anghenion y grŵp yn wahanol i ddefnyddwyr y meysydd gwersylla traddodiadau, ac eu bod yn
cefnogi busnesau lleol. Amlygwyd pryder am 6 lleoliad yn unig gan y gallent
greu prysurdeb mewn 6 lleoliad a drwy hynny ddim yn adlewyrchu beth gall y cynllun ei
wneud yn ehangach. Eglurwyd dramor fod y lleoliadau yma y mherchnogaeth
y cymunedau lleol ac efallai fod angen trafodaeth gyda’r cymunedau fel bod modd
i gyfran o’r arian fynd er bydd y cymunedau yma.
¾
Nodwyd mewn byd delfrydol y buasai rhwydwaith o leoliadau ar draws y sir
ond fod 6 yn nifer ymarferol i’r treialu ac ar diroedd sydd yn rheolaeth y
Cyngor yn barod. Mynegwyd fod yr adroddiad yn sail tystiolaeth a fuasai o bosib
yn rhoi cyfle i sectorau eraill agor y math yma o leoliad.
¾
Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn nodi mai rheoli’r sefyllfa mae’r Cyngor yn
awyddus i’w wneud ac nid datblygu ymhellach. Amlygwyd yr angen am ddeialog
agored gyda’r Parc i sicrhau eu bod yn rheoli yn ogystal ac nid datblygu’r
sector. Nodwyd nad oedd modd cynnwys y Parc Cenedlaethol yn rhan o’r peilot o
ganlyniad i’w rheolau cynllunio pendant..
¾
Nodwyd y bydd ar adran yn edrych ar ffyrdd o wthio y cynllun yn ei blaen.
Awdur:Gareth Jones
Dogfennau ategol: