Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan y Cyng. Craig ab Iago.
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod newyddion da a drwg. Amlygwyd fod 3 cynllun penodol yn crisialu’r
gwaith positif mae’r adran yn ei wneud. Eglurwyd fod y Cynllun Gweithredu Tai
bellach yn weithredol ac yn gweithio i sicrhau tai i bobl i leol yn eu
cymunedau. Nodwyd fod cynlluniau arloesol ar draws y sir ac fod sawl grawn wedi
ei dderbyn i ymateb i gynlluniau fel digartrefedd.
Mynegwyd fod cynlluniau
ar y gwell i adeiladu tai o fewn y sir ac fod trafodaethau yn cael eu cynnal
gyda chyrff ar draws Gwynedd i adeiladau tai ar diroedd y Cyngor. Tynnwyd sylw
ar gynllun Siop Un Stop fydd ar gael i gynorthwyo unigolion i sicrhau eu bod yn
cael y gefnogaeth ac yn ymwybodol o unrhyw gyfleodd sydd ar gael. Nodwyd fod y
cynllun gosod tai cymdeithasol i bobl leol a gychwynnwyd flwyddyn yn ôl yn
cymryd camau mawr ymlaen ac yn parhau i ddatblygu er fod nifer o broblemau wedi
codi ar hyd y daith. Er hyn amlygwyd fod yr adran wedi llwyddo i gartrefu nifer
uchel o bobl yn eu cymunedau.
Eglurwyd er fod y
cynlluniau yn uchelgeisiol fod y pandemig wedi arafu
nifer o gynlluniau o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Pwysleisiwyd fod camau yn
ei le i daclo digartrefedd a oedd yn argyfwng cyn y pandemig
ond fod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y deunaw mis diwethaf. Mynegwyd fod y pandeimg wedi cael effaith ar adnoddau sydd ar gael ynghyd
ar capasiti i ymateb. Ond, gyda’r drefn herio
perfformiad newydd nodwyd fod modd ymateb yn gyflym i heriau ac i daclo
problemau yn syth.
Ar y cyfan mynegwyd fod
ar adran yn llwyddo ac fod derbyn pedair Gwobr Genedlaethol yn profi y
llwyddiant yma. Eglurwyd y bydd yr Aelod Cabinet yn mynd i bob ardal adfywio yn
ystod y misoedd nesaf i esbonio i Gynghorwyr beth mae’r adran yn gobeithio ei
wneud ymhob ardal.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾ Tynnwyd sylw at ddigartrefedd cudd sydd i’w
gweld ar gynnydd ar draws y sir. Croesawyd cynlluniau yn Cynllun Gweithredu Tai
gan amlygu ei fod yn weithredol ers cwta 7 mis. Holwyd os oes modd cael
gwybodaeth fesul ward. Nodwyd fod trafodaeth am ddigartrefedd cudd yn hynod
bwysig gan fod llwyddiant cynllun i gael unigolion oddi ar y stryd wedi lleihau
y tai sydd ar gael i daclo cynyddu mewn digartrefedd cudd.
¾ Eglurwyd
fod digartrefedd ar ei lefel uchaf erioed ar mae hyn i’w gweld ar draws Cymru.
Eglurwyd fod y Cyngor yn edrych i brynu 6 safle ac yn parhau i geisio prynu tai
fel bod modd cynnig lleoliadau gosod yn lleol i unigolion.
¾ Eglurwyd
fod arian ar gyfer digartrefedd yn dod o Gronfa Caledi’r Cyngor ond nodwyd fod
y Gweinidog wedi pwysleisio na fydd arian ar gael y flwyddyn ariannol nesaf.
Eglurwyd os yn parhau y bydd angen arian i’w ariannu ac angen sicrhad fod yr
arian yn y setliad a dderbynnir gan y Llywodraeth.
¾ Nodwyd
fod yr adroddiad yn glir, cryno ac i’r pwynt ac yn un cadarnhaol a positif.
Mynegwyd od niferoedd digartrefedd yn frawychus o uchel er nad oedd prinder
tai, ond fod y nifer uchel o dai yn cael ei defnyddio yn dymhorol yn gyfredol.
Gofynnwyd i’r Llywodraeth os yn tynnu yr arian yn ôl fod angen cymorth gyda ail
gartrefi.
Awdur:Carys Fon Williams
Dogfennau ategol: