Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.
Cofnod:
Nododd y
Cadeirydd, mai gyda thristwch, y clywyd am farwolaeth Mrs Patricia G.Larsen,
Penisarwaun, cyn-gadeirydd y Cyngor hwn, ac un a roddodd oes o wasanaeth i’w
chymuned yn lleol. Rhoddodd deyrnged
iddi, gan fynegi cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’r Cynghorydd Cai Larsen, a
gweddill y teulu yn eu profedigaeth.
Nodwyd hefyd y bu farw’r cyn-Gynghorydd Wyn
Myles Meredith, Dolgellau, yn ddiweddar.
Rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Peredur Jenkins a mynegwyd
cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i deulu.
Nodwyd hefyd y bu farw Cefin Edwards, aelod o staff Ymgynghoriaeth
Gwynedd, yn ddiweddar iawn. Rhoddwyd
teyrnged iddo gan y Prif Weithredwr a mynegwyd cydymdeimlad dwysaf y Cyngor â’i
deulu.
Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.
Wrth longyfarch Dewi Morgan, oedd wedi’i benodi’n Bennaeth Cyllid,
dymunwyd yn dda, gyda diolch, i Dafydd Edwards, oedd yn mynychu ei gyfarfod
diwethaf o’r Cyngor hwn yn y rôl honno.
Diolchodd y Prif Weithredwr hefyd i Dafydd Edwards am ei wasanaeth ar
hyd y blynyddoedd, ac am ei gefnogaeth iddo ef yn bersonol.
Nodwyd y bu sawl aelod a
staff yn wael yn ddiweddar, a dymunwyd gwellhad buan i bob un ohonynt.
Nododd y Prif Weithredwr
fod y niferoedd achosion Covid yng Ngwynedd yn uwch nag erioed, er bod
arwyddion ein bod ar frig y don erbyn hyn, ac y byddem yn gweld gostyngiad yn
fuan. Hyd oni fyddai’r sefyllfa wedi
sefydlogi, roedd pwysau ar unedau penodol o fewn y Cyngor, gyda nifer o staff
yn absennol o’u gwaith, ac roedd trefniadau parhad gwasanaeth mewn lle bellach
mewn sawl uned ar draws y Cyngor. Er bod
trefniadau rheoli argyfwng y Cyngor yn gwbl gadarn ar hyn o bryd, roedd yn
anochel y byddai yna effaith ar wasanaethau yn y tymor byr, a gofynnwyd i’r
aelodau gynorthwyo drwy raeadru’r neges yma yn eu cymunedau. Mawr obeithid, fodd bynnag, na welid unrhyw
effaith ar wasanaethau rheng flaen, a nodwyd y byddai’r aelodau yn cael eu
diweddaru yn rheolaidd ar y sefyllfa.
Nodwyd bod Tim ac Inger Hancock, a ddaeth ymlaen i
ddarparu gofal maeth i saith o frodyr a chwiorydd, wedi cael eu hanrhydeddu â
gwobr ‘Cyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth’ gan Wobrau Rhagoriaeth mewn Maethu’r
DU. Nodwyd bod y Cyngor yn eu
llongyfarch yn wresog ar eu cydnabyddiaeth yn y gwobrau a'u cyfraniad
eithriadol i faethu yng Ngwynedd. Nodwyd
hefyd y dymunid cymryd y cyfle hwn i ddiolch i bob un o’n gofalwyr maeth sy’n
gofalu am ein plant, gan nodi bod y Cyngor yn gwerthfawrogi eu gwaith caled a’u
hymrwymiad yn fawr iawn.
Nodwyd y
cyflwynwyd Gwobr Wirfoddol y Frenhines, i Ymatebwyr Cyntaf Cymuned Y Bermo gan
yr Arglwydd Raglaw, Edmund Bailey yn ddiweddar.
Dyma’r wobr uchaf i grŵp gwirfoddol yn y Deyrnas Unedig ac fe'i
rhoddir i grwpiau gwirfoddol eithriadol sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau
eraill. Danfonodd y criw ymroddedig hwn
o wirfoddolwyr nwyddau i aelodau hunan-ynysig bregus o gymunedau gwledig
Bontddu, Bermo, Talybont a Dyffryn Ardudwy, yn ychwanegol at eu gweithgareddau
arferol yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
Llongyfarchwyd
Darron Garrod o Ward Llanengan ar ei ran ym Mhencampwriaeth Rali Prydain.