Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gareth A.Roberts

 

“Mae llawer o bobl oedrannus a gwael yn ei chael yn anodd edrych ar ôl eu hunain ac mae gennym brinder cartrefi gofal a gweithwyr gofal.

 

Os yw aelod o’r teulu yn dymuno symud i mewn i ofalu am berthynas sy’n oedrannus neu’n wael, nid oes raid iddynt dalu Treth Cyngor ar eu cartref eu hunain, ond bydd y person y maent yn gofalu amdano/amdani yn derbyn 50% o ddisgownt Treth Cyngor yn unig.

 

A wnaiff y Cyngor ganiatáu i’r person sy’n darparu’r gofal a’r person sy’n derbyn y gofal ill dau dderbyn disgownt Treth Cyngor llawn o 100%?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Mae yna eithriad statudol yn bodoli sy’n golygu nad yw Treth Cyngor yn daladwy ar eiddo sydd wedi ei adael yn wag gan rywun a symudodd oddi yno i roi gofal personol i rywun arall.  Mae yna 10 eiddo yn derbyn yr eithriad yma yng Ngwynedd, gyda threthdalwyr 5 ohonynt yn rhoi gofal i rywun sy’n byw mewn eiddo arall o fewn Gwynedd, a’r 5 arall yn rhoi gofal i rywun sy’n byw y tu allan i’r sir.

 

Byddai costau unrhyw ostyngiadau dewisol ychwanegol yn cael eu hariannu’n llwyr allan o goffrau’r Cyngor.  Petaem ond yn sôn am 5 eiddo, oddeutu £10,000 fyddai cost cynnig eithriad dewisol ychwanegol.

 

Fodd bynnag, mae 400 eiddo pellach yn derbyn disgownt o 25% neu 50% oherwydd bod o leiaf un o’r trigolion yn derbyn gofal, ond lle nad oes eiddo wedi cael ei adael yn wag gan y gofalwr.  Noder mai rhoi gostyngiad pellach ar Dreth Cyngor i’r rhai sy’n derbyn gofal sydd dan sylw yn y cwestiwn.

 

Ni allwn weld sut gall y Cyngor wneud penderfyniad teg, sy’n amddiffynadwy yn gyfreithiol, i roi gostyngiad Treth Cyngor ychwanegol i 5 eiddo heb ei roi i hyd at 400 eiddo arall hefyd.  Byddai hynny yn costio oddeutu £500,000 y flwyddyn i’r Cyngor, ac yn golygu blaenoriaethu adnoddau’r Cyngor, a chanlyniad anorfod hynny fyddai cyflwyno arbedion a thoriadau mewn llefydd eraill.

 

Os yw person sy’n derbyn gofal yn talu Treth Cyngor (neu ran o Dreth Cyngor os ydynt yn derbyn gostyngiad), mae gwerth y swm sydd yn cael ei dalu yn cael ei gynnwys yn eu hasesiad ariannol i gynyddu faint o incwm maent yn cael ei gadw pob wythnos cyn gorfod dechrau talu am eu gofal.  Mae pawb yn cael cadw digon o arian i dalu am eu Treth Cyngor cyn dechrau talu am eu gofal.

 

Wrth ystyried yr holl ffactorau sy’n ymwneud â materion trethiannol a chyfrifo cost gofal, ni allaf weld sut y byddai’r cynnig yn y cwestiwn yn fforddiadwy nac yn cynyddu tegwch y drefn ar draws y sir.  Er hynny, bydd yr Adran Gyllid yn parhau i ystyried pa ostyngiadau dewisol fyddai’n briodol, os o gwbl, ac yn cadw’r achosion sydd yn y cwestiwn dan ystyriaeth fel rhan o hynny.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Yn dilyn ergyd arall i’n cymunedau gyda’r cyhoeddiad fod Banc Barclays yn gadael Porthmadog a Chaernarfon, pa gynlluniau cefnogaeth sydd ar gael i hybu busnesau ac amddiffyn gwasanaethau hanfodol stryd fawr yng Ngwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Mae’r ugain mis diwethaf wedi bod yn her ddigynsail i fusnesau unigol ac i ganolfannau masnachol ein trefi.  Siom enbyd, felly, oedd cyhoeddiad Banc Barclays eu bod yn troi eu cefnau ar gymunedau Porthmadog a Caernarfon, fydd yn ergyd bellach i’n trigolion gael mynediad i wasanaethau craidd a chreu bwrlwm mewn canol trefi.

 

Bydd yr holl Aelodau yn ymwybodol o’r ymdrech anferthol mae’r Cyngor wedi ei wneud i gynnal ein busnesau lleol dros gyfnod y pandemig gyda dros 22,000 o daliadau gwerth mwy nac £112 miliwn wedi eu dosbarthu gan yr Adrannau Cyllid ac Economi a Chymuned.

 

Yn gyfochrog, mae’r Cyngor wedi ymateb i’r her i ganol ein trefi amlygwyd gan y pandemig.  Sefydlwyd Grŵp Canol Trefi trawsadrannol, gan ddynodi swyddog cyswllt ar gyfer pob un o’r deunaw prif dref.  Gweithiwyd gyda phartneriaid lleol ym mhob ardal i wireddu rhaglen o ymyraethau a gwelliannau wrth i ganol trefi gychwyn ail agor ar ôl y cyfnod clo, gan gynnwys £82,000 o gymorth ariannol i alluogi manwerthwyr a busnesau lletygarwch lleol addasu.

 

Mae ein hymdrechion yn parhau ac yn yr ateb ysgrifenedig, fe welwch fod yna nifer o bethau eraill wedi ei rhestru.  Hoffwn roi blas i chi o’r math o bethau mae’r Cyngor wedi wneud i gefnogi busnesau.

 

Yn gyntaf, gwybodaeth.  Mae’r Cyngor yn cyfathrebu’n gyson gyda busnesau ac mae yna dros 4,300 yn derbyn bwletin gwybodaeth y Cyngor yn wythnosol.  Mae yna fenthyciadau i fusnesau, £3 miliwn o fenthyciadau, yn cael eu rhoi allan.  Mae gennym ni gynllun adfer adeiladau.  Mae gennym ni welliannau canol trefi, rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn cael ei redeg gan y Cyngor, ac mae yna fenthyciadau i adfer adeiladau segur yng nghanol trefi yn bodoli, ac mae hyn i gyd i lawr mewn mwy o fanylder yn yr ateb ysgrifenedig.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Ydi Banc Cambria, sy’n cael ei hyrwyddo gan Lywodraeth Cymru, yn syniad fyddai’n gweithio i ni yng Ngwynedd er mwyn cadw gwasanaethau ar y stryd fawr, a gan fod Banc Barclays yn troi eu cefnau ar bobl Gwynedd, ydi’n amser i ni fel Cyngor droi ein cefnau arnynt hwythau, a symud ein busnes i fanc arall?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

“O ran Banc Cambria, rwy’n hollol gefnogol.  Rwy’n meddwl, erbyn rŵan, ein bod yn gweld bod Cymru’n cael ei gadael i lawr yn aml iawn gan y cwmnïau rhyngwladol yma.  Maen nhw’n troi eu cefnau arnom, ac mae’r banciau cyn waethed â neb, ac rwy’n gredwr mawr mewn gwneud pethau drosom ein hunain yn ein gwlad ein hunain.  Felly rydw i’n falch iawn o glywed am ddatblygiad Banc Cambria yng Nghymru, a gobeithio yn fawr iawn y bydd y banc yma yn agor yn fuan, ac yn agor mewn adeiladau yn ein trefi ni yma yng Ngwynedd.  O ran Banc Barclays, rydw i ar ddeall bod y Cyngor yn gwsmer i’r banc yma, ac mi fyddaf yn cael trafodaethau gyda’r Aelod Cabinet Cyllid i weld os ydym yn gallu dod â rhywfaint o bwysau arnyn nhw i wyrdroi'r penderfyniadau maen nhw wedi wneud.  Ond mae angen i’r Cyngor hefyd efallai ystyried, os ydi Banc Cambria yn cael ei sefydlu, a fyddai’n well trosglwyddo holl fusnes y Cyngor i’r math yna o fanc?  Felly, mi gawn ni’r trafodaethau ar hynny.”

 

(3)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Gan fod Strategaeth Tai Cyngor Gwynedd 2019-2024 tua hanner ffordd drwy ei oes, tybed all y Deilydd Portffolio Tai ein goleuo ar lwyddiannau a gwendidau’r Strategaeth, a beth sydd wedi’i ddysgu wrth geisio ateb y galw am dros 800 o dai bob blwyddyn i ddiwallu’r angen am gartrefi diogel, cyfforddus a fforddiadwy i drigolion Gwynedd?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Tai, Y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Mae’r Cynghorydd wedi sôn am y Strategaeth Tai, a byddaf yn ateb y cwestiwn am y Strategaeth Tai, ond wrth gwrs, mae yna ddogfen arall, y Cynllun Gweithredu Tai, sy’n gweithredu ar y Strategaeth, sef ein gweledigaeth ni.  Ar ben yr ateb ysgrifenedig, hoffwn ddweud un neu ddau o bethau.  Mae yna dair rhan, yn fy marn i, i’r cwestiwn - un am y llwyddiannau, un am y gwendidau, a’r drydedd am yr hyn rydw i wedi ddysgu ers y Strategaeth.  Llwyddiannau mwyaf y Strategaeth ydi - pan oeddem ni’n ysgrifennu’r Strategaeth, roedd y Gwasanaeth Tai yn rhan o’r Adran Eiddo.  Nid oedd yn adran ei hun.  Erbyn hyn, mae gennym adran ein hunain, ac wrth gwrs, mae gennym Gynllun Gweithredu Tai i weithredu ar y Strategaeth, sy’n bwysicach na’r Strategaeth ei hun - llwyddiannau enfawr yn fy marn i.  Rydym wedi newid y gêm, rydym wedi newid meddylfryd y Cyngor am dai, a’n rôl ni yn yr Adran Tai.  O ran gwendidau’r Strategaeth, fe ddaru ni ei hysgrifennu mewn oes wahanol, dan brif weithredwr arall.  Roedd hyn dri phennaeth tai yn ôl.  Roedd yn strygl i greu’r Strategaeth weithiau, a phe byddem yn ei hysgrifennu heddiw, byddai’n llawer mwy uchelgeisiol.  Byddai’n haws ei deall, ond mae hynny’n rhywbeth am y ddogfen, ond fel rydw i’n dweud, y ddogfen bwysicaf ydi’r Cynllun Gweithredu Tai.  Beth ydw i wedi dysgu?  Rydw i wedi dysgu ein bod angen llawer mwy nag 800 o dai bob blwyddyn, a hynny i gadw i fyny gyda’r galw yn unig.  Rwyf wedi dysgu ein bod mewn argyfwng tai go iawn, ac er ein bod ni yn yr Adran Tai yn gwneud popeth o fewn ein gallu ac yn mynd y filltir ychwanegol i wneud yn siŵr ein bod yn cartrefu ein pobl ni yn eu cymunedau, mae’r ateb i’r broblem yn gorwedd yn y drefn gynllunio, a’r bobl sy’n gallu newid y drefn honno ydi Llywodraeth Cymru.  Rydym ni ar hyn o bryd yn defnyddio system gynllunio sy’n seiliedig ar Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Cafodd ei chreu mewn gwlad wahanol, mewn canrif wahanol, dan Lywodraeth llawn pobl aeth i Eton, ac mae’n amser i ni gael deddf gynllunio ar gyfer Cymru’r unfed ganrif ar hugain.  Dyna beth sydd ei angen i ddatrys y ffaith nad ydym yn gallu darparu digon o dai i gwrdd â’r angen.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd

 

“Faint o gartrefi sydd wedi’u darparu dros yr 8 mis diwethaf?”

 

Ateb gan y Prif Weithredwr

 

“O ran rhai ffigurau, mae yna 220 o dai gwag wedi dod yn ôl i ddefnydd drwy fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd ers cyflwyno’r Strategaeth yn 2019.  Mae yna addasiadau anableddau i wneud tai yn hygyrch i bobl allu parhau i fyw yn eu cartrefi - mae yna 521 o’r rheini.  Mae yna grantiau penodol wedi’u rhoi i bobl na fyddai’n gymwys i dderbyn grant gan fanc – mae yna 24 o’r rheini.  Mae yna 1,836 o bobl wedi cael eu lletya mewn tai cymdeithasol.  Mae yna 237 o dai newydd cymdeithasol wedi eu hadeiladu ac mae yna 14 o bobl wedi derbyn grant tuag at brynu eu tŷ cyntaf.  O ran y nifer o bobl sydd wedi derbyn cymorth allan o hyn i gyd, y ffigwr sydd gen i ydi 2,852.”

 

(4)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“Pa effaith mae’r Llywodraeth yn tynnu nôl o ffordd osgoi Llanbedr (ffordd mynediad i’r maes awyr) yn debygol o’i gael ar economi ehangach Meirionnydd?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Cynghorydd am ei hymdrechion parhaus i gefnogi pobl Llanbedr, sydd yn wirioneddol bryderus am y sefyllfa.

 

Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu eu cefnogaeth o gynllun ffordd Llanbedr yn ergyd drom i ni fel Awdurdod, ac i bobl a busnesau Llanbedr yn arbennig.

 

Mae’r penderfyniad, yn ein barn ni, yn ddi-sail am nifer o resymau, gan gynnwys unrhyw effaith ar yr amgylchedd.  Yn ôl ein hymchwil ni, byddai’n cael effaith cadarnhaol ar yr amgylchedd, ac yn benodol ar ansawdd aer i drigolion Llanbedr.  Mae’r dadleuon o ran diffygion adolygiad Llywodraeth Cymru wedi’u gosod allan yn fanwl mewn llythyr i’r Prif Weinidog a yrrwyd ar y 12fed o Dachwedd, a chredaf fod y llythyr hwnnw wedi’i atodi i’r ateb ysgrifenedig, neu wedi’i ddanfon allan ar wahân at yr holl aelodau.

 

O safbwynt yr effaith economaidd, rwy’n credu bod hwn yn bryder o sylwedd.  Mae creu swyddi yng nghefn gwlad ac ym Meirionnydd yn flaenoriaeth i ni, ac mae’r penderfyniad yma, o ganlyniad, yn un syfrdanol.  Rydym ni angen swyddi o ansawdd ar draws y Wynedd wledig ac mae yna ymdrech arbennig i dargedu gwaith o ansawdd yn ardal Meirionnydd.  Mae’r lleoliad yma yn unigryw, a dyna ei gryfder.  Mae’n galluogi mynediad i awyrofod diogel ar wahân dros Fae Ceredigion, sy’n caniatáu’r math o brofion ar awyrennau nofel na ellir eu hymgymryd mewn canolfannau eraill.  Nid oes modd ei leoli yn unman arall.

 

Mae gennym uchelgais glir o ran datblygiad y ganolfan yma, wedi’i seilio ar dechnolegau awyr carbon-isel a charbon-niwtral, megis awyrennau trydan, a rhai sydd yn defnyddio hydrogen.  Mae adroddiad o 2020 yn amcangyfrif y gallai 500 o swyddi gael eu creu yma os byddai’r ganolfan yn cael ei datblygu i’w llawn botensial.

 

Mae datblygu’r safle yma yn ganolog i nifer o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ei hun, gan gynnwys Cymru: Cenedl Gofod Cynaliadwy – dogfen sydd yn gosod allan rôl glir i’r ganolfan wrth anelu i Gymru ennill marchnad gofod gwerth £2bn erbyn 2030.

 

Mae yna elfen o bryder sylweddol gen i yn yr adroddiad a wnaed sy’n sail i’r penderfyniad yma.  Mae yna awgrym ynddo na ddylai’r ganolfan dderbyn cefnogaeth gan nad ydyw wedi ei lleoli o fewn ardal sydd wedi’i dynodi fel ardal twf yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.  Mae yna oblygiadau pellgyrhaeddol i’r datganiad yma.  Rydym wedi dadlau fod hyn yn awgrymu na fyddai cefnogaeth i fuddsoddiadau i greu swyddi newydd mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru, ac rydym wedi codi’r mater yn y Fforwm Gwledig, a gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Mae hefyd angen cydnabod yr effaith ar y cwmnïau sydd wedi buddsoddi arian sylweddol mewn paratoi tendrau manwl i ddylunio a chodi’r ffordd.  Roeddem yn barod i gychwyn ar y gwaith yma ddechrau’r flwyddyn, ac ni fydd yr un o’r rhain bellach yn derbyn gwaith, a dim un felly mewn lle i ddiogelu gwaith eu gweithlu dros y misoedd i ddod.

 

I gloi, rydw i o’r farn y bydd gan y penderfyniad yma sgil-effeithiau ymhell tu hwnt i ddatblygiad un ganolfan waith.  O ystyried y darlun llawn, roedd yma gyfle i gyfrannu at ymgyrchoedd gwirioneddol i ddatblygu technolegau newydd carbon-isel a charbon-niwtral ar lefel byd-eang.  Roedd yn dod â gobaith o lewyrch i un o’n hardaloedd mwyaf economaidd bregus, gyda’r tâl wythnosol isaf yn y Deyrnas Gyfunol.  Mae’r cyfle yn dal i fod yno gan fod yr hawliau perthnasol i gyd mewn lle.  Ond byddwn yn ystyried y camau nesaf wedi derbyn ymateb Llywodraeth Cymru i’n pryderon.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Annwen Hughes

 

“Ydych chi wedi cael ateb i’r llythyr anfonwyd gennych ym mis Tachwedd at Brif Weinidog Cymru?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Do, rydw i wedi cael ateb yn y dyddiau diwethaf, ond mae’r ateb yn un hynod siomedig gan fod y Prif Weinidog yn gwneud yn berffaith glir na fydd yn ail-ystyried y penderfyniad.  Mi wnaf rannu copi o’r llythyr hwnnw gyda’r aelodau i gyd y pnawn yma.  Ni chawsom ateb i’n dadansoddiad o adroddiad diffygiol y Panel Annibynnol na’r pwyntiau eraill a godwyd - dim ond dweud y cawn gyfle i’w trafod gyda Thrafnidiaeth Cymru.  Mae’n gwestiwn gen i pa mor gymwys yw'r rheini i’w trafod yn ystyrlon, a chawsom ni ddim cynnig i gyfarfod ag unrhyw weinidog, er gwaethaf ein cais, sydd yn siom o ystyried y berthynas dda a ddatblygwyd dros y misoedd diwethaf mewn sawl maes.  Yn naturiol, mae’r math yma o ymagweddu gan y Llywodraeth yn tanseilio elfennau o’r ymddiriedaeth rydym ni wedi datblygu rhyngom ni a nhw.  Mae trigolion Llanbedr wedi eu haberthu i ddioddef, nid yn unig y broblem trafnidiaeth, ond hefyd y llygredd sy’n deillio o hynny.  Mae ffyniant economaidd pobl Meirionnydd, a phob ardal wledig arall yng Nghymru, yn cael eu haberthu o ganlyniad i bolisi symplistig y Llywodraeth, sy’n diystyru cymhlethdod y sefyllfa.  Dyma ni unwaith eto - enghraifft o gefn gwlad yn gorfod talu mewn ymateb i bolisïau newid hinsawdd.  Cawn weld a fydd ein hardaloedd poblog, sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau carbon, yn cyfrannu gymaint ag rydym ni’n gorfod gwneud.  Rwy’n credu bod yna gamwedd mawr yn digwydd yma.  O safbwynt y camau nesaf, byddaf yn ymateb i lythyr y Prif Weinidog, wrth gwrs, ac yn ceisio trefnu cyfarfod gyda Gweinidog yr Economi.  Caf sawl cyfle i wneud hynny rwy’n credu, ac i geisio atebion ganddo, oherwydd mae yna gwestiynau ynglŷn â’i holl strategaeth o ran yr economi yma yng Ngwynedd, ac yn y Gogledd, ac yn wir yng nghefn gwlad Cymru gyfan.  Rydw i eisoes wedi codi’r mater gyda’r Fforwm Gwledig a byddaf yn gofyn am gymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio agor y drws i roi mynediad i ni at swyddogion a gweinidogion y Llywodraeth.  Yn y cyfamser, mae’n rhaid i ni ystyried pob opsiwn cyfreithiol posib’, a hefyd edrych ar unrhyw bosibiliadau o gyllid arall.”

 

(5)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Yn dilyn datganiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno mesurau i reoli ail gartrefi a thai gwyliau, gall yr Arweinydd roi diweddariad ar fanylion y mesurau a’r camau nesaf i’r Cyngor wrth eu gweithredu?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Yn amlwg, rwyf yn croesawu datganiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, fydd yn cychwyn y broses o wneud addasiadau i’r rheoliadau cynllunio, ymysg argymhellion eraill, er mwyn ceisio cael rheolaeth o dai gwyliau ac ail gartrefi.

 

Mae’r datganiad yma, wrth gwrs, yn dilyn blynyddoedd o lobïo gan y Cyngor, gan gynnwys cyflwyno tystiolaeth fanwl i Lywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2020, yn dilyn gwaith ymchwil ar dai gwyliau ac ail gartrefi, oedd yn amlygu’r angen am reolaeth well, yn ogystal â chynnig argymhellion ar gyfer cyflawni hynny.  Credaf fod y sail tystiolaeth sydd wedi deillio o waith ymchwil y Cyngor wedi bod yn arwyddocaol i’r cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth, sydd, rwy’n credu, yn gydnabyddiaeth o’r angen i gael rheolaeth llawer gwell o dai gwyliau ac ail gartrefi, er lles ein cymunedau rŵan ac i genedlaethau’r dyfodol.

 

Felly rydym ni wedi cael lansiad yr ymgynghoriad “Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr” ar y 23ain o Dachwedd 2021, ac mae’n agored hyd at yr 22ain o Chwefror 2022, ac mae yna linc i chi weld y manylion yn yr ateb ysgrifenedig, ac rwy’n annog pob aelod i ymateb i hwnnw gan ei bod yn bwysig ein bod yn cael cefnogaeth gref i’r mesurau sy’n cael eu cynnig.  Mae’r ymgynghoriad yma yn cynnig newidiadau sydd yn rhoi’r cyfle i’r awdurdodau hynny sydd yn cael eu heffeithio gan niferoedd uchel o dai gwyliau geisio rheoli’r sefyllfa’n well.  Mae hyn yn golygu casglu tystiolaeth fel sail wedyn i roi cyfarwyddyd cyfreithiol a fyddai’n golygu, o ddyddiad y cyfarwyddyd, fod angen caniatâd cynllunio i fod yn defnyddio tŷ fel tŷ gwyliau ac ail gartref, o fewn ardal benodol.

 

Mae’r swyddogion wedi cychwyn ar y broses o gydlynu ymateb i’r ymgynghoriad, fydd mae’n debyg, angen ystyried nifer o faterion fel ymarferoldeb gweithredu a gorfodi’r addasiadau sydd yn cael eu cynnig, yn ogystal â beth fyddai hyn yn ei olygu o ran adnoddau i’r Cyngor.

 

Mae’r ymgynghoriad yn y maes cynllunio yn un o nifer o ymgynghoriadau mae’r Cyngor yn ymateb iddynt sydd yn gysylltiedig â thai gwyliau, ac rwy’n tynnu sylw’n benodol at yr ymgynghoriad “Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg” sydd hefyd newydd ei lansio ac yn rhedeg hyd at yr 22ain o Chwefror 2022.  Mae linc yn yr ateb ysgrifenedig, ac eto, rwy’n argymell eich bod i gyd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw.

 

Mae yna sesiwn briffio cyffredinol ar gyfer Aelodau yn cael ei drefnu ar gyfer y 14eg o Ragfyr 2021, a bydd trosolwg o’r ymgynghoriadau yma yn rhai o’r eitemau fydd yn cael eu cyflwyno i Aelodau.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r amrywiaeth o gynlluniau a gyfeiriwyd atynt yn eu datganiad, gan gynnwys cymorth cyllidol i Wynedd ar gyfer tai gwag a chyllid i roi cymorth i bobl mewn i angen i brynu tai yn eu cymunedau.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“A allwch chi ymhelaethu fwy ar eich rôl benodol chi fel Arweinydd ynghyd â Phlaid Gwynedd a Chyngor Gwynedd yn y broses o gyrraedd y pwynt sylweddol hwn?”

 

Ateb gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Credaf ei bod yn wir i ddweud bod y Cyngor yma wedi arwain ar faterion ail gartrefi ers blynyddoedd.  Trwy ddyfalbarhad fy rhagflaenydd, Dyfed Edwards, a’i berswâd ar weinidogion y Llywodraeth, llwyddodd i gyflwyno’r hawl i godi Premiwm.  Rwy’n cofio’r cyfarfod cyntaf gefais gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol yn fuan iawn ar ôl etholiadau’r Cyngor Sir a chymryd y rôl o Arweinydd - Dilwyn Williams (y cyn Brif Weithredwr) a minnau yn cyfarfod â’r Gweinidog, Julie James, ac un o’r prif faterion oedd gennym oedd y cwestiwn o dai haf.  Wrth sôn am Dilwyn Williams, mae yna le i ni i gyd ddiolch i Dilwyn am ei waith trylwyr yn cyflwyno achos manwl a chamau clir y gellid eu cymryd i gael rheolaeth ar ail gartrefi.  Paratowyd papurau clir iawn, fel roedd Dilwyn yn gallu gwneud, i’w cyflwyno i’r Fforwm Gwledig, a’u derbyn gan y 9 sir yn y corff hwnnw.  Fe gyflwynwyd y papur hwnnw hefyd i’w gymeradwyo gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i gael cefnogaeth siroedd Cymru gyfan i’r hyn roeddem yn alw amdano, sef y camau yn y maes cynllunio, yn y maes trethi yn arbennig, a hefyd yn y maes trwyddedu.  Does dim dwywaith fod y gwaith ymchwil a wnaed gan ein Tîm Polisi Cynllunio ni wedi bod yn hynod werthfawr, ac mae angen i mi dalu teyrnged iddynt am y gwaith yna.

 

Mae yna lawer iawn o bobl ac ymgyrchwyr wedi bod yn gweithio ar hwn ers degawdau.  Rwy’n cofio cymryd rhan mewn ymgyrchoedd yn y 70au.  Credaf fod Dafydd Wigley wedi cyflwyno bil yn San Steffan yn yr 80au, ac fe wnaeth Elfyn Llwyd, ar ei ôl o yn y 90au, gyflwyno bil i’r Senedd i geisio rheolaeth ar y maes yma.  Wrth gwrs, mae yna bobl eraill o’n cwmpas ni.  Rydym ni wedi gweithredu yn y maes gwleidyddol, ond mae yna ymgyrchwyr dros y blynyddoedd, boed yn Gymdeithas yr Iaith, Cymuned, Hawl i Fyw Adra - mae’r cyfan ohonynt wedi cyfrannu at fedru darbwyllo’r Llywodraeth yma  bod yna achos dros newid, ac mae’r achos erbyn hyn yn gryfach nag erioed, fel rydym ni’n gweld yr argyfwng tai presennol.  Ond mae yna fwy o waith i’w wneud, wrth gwrs.  Megis dechrau ydym ni rŵan.  Rydym ni wedi gosod y sylfeini yn fan hyn.  Rydym ni wedi ennill y dydd ar yr egwyddorion, ond rhaid i ni sicrhau rŵan bod y gweithredu yn effeithiol yn y maes cynllunio.  Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cynigion trethiant yn rhai sy’n mynd i weithio ac rydym yn disgwyl rhywfaint o gyhoeddiad yn fuan iawn gan y Llywodraeth yn y maes hwnnw.  Wrth gwrs rydym ni’n dal angen trafodaeth gyda’r Llywodraeth ynglŷn â beth yn union ydi’r cynigion yn y cynllun peilot yn Nwyfor, a bydd y drafodaeth yna yn parhau.  Felly does dim amser i orffwys ar ein rhwyfau - rŵan mae’r gwaith yn cychwyn.”