Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid.
Penderfyniad:
Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r cynllun ar gyfer
2022/23. Hynny yw, ar gyfer 2022/23, bod
Cyngor Gwynedd yn:
·
Caniatáu DIM
disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM
disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O
100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2022/23 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Nodwyd
bod amgylchiadau unigolion a theuluoedd sy’n berchen ar eiddo gwag hirdymor yn
amrywio yn fawr, a holwyd pa gefnogaeth y gellid ei rhoi i’r unigolion
hynny. Mewn ymateb, nodwyd yr
argymhellid parhau i godi Premiwm ar eiddo gwag hirdymor oherwydd y gallai
eiddo o’r fath achosi problemau cymdeithasol mewn rhai llefydd, ond y gellid
cyflwyno polisi dan adran arall o’r ddeddf sy’n rhoi disgresiwn i’r Cyngor
leihau’r Premiwm taladwy mewn rhai achosion, megis lle mae eiddo wedi ei
etifeddu gan deulu, a bod yna waith o ran dod â’r tŷ yn ôl i drefn fel
rhan o’r stad.
·
Holwyd
pa mor agos oeddem at yr amcangyfrif y byddai £3.9m ychwanegol o gynnyrch
Premiwm 2021/22 ar gael i’r gronfa, o ystyried bod 2,045 eiddo wedi trosglwyddo
o’r rhestr Treth Cyngor i’r rhestr Ardrethi Annomestig. Mewn ymateb, eglurwyd, wrth baratoi’r
amcangyfrifon yn flynyddol, bod rhaid edrych yn ddarbodus ar faint fydd yn
trosglwyddo, gan ragdybio bod y patrwm trosglwyddiadau am barhau heb ymyrraeth
ddeddfwriaethol. Gallai trosglwyddiadau
hwyr yn y flwyddyn ariannol yma olygu colled, efallai, fyddai’n cael ei
ôl-ddyddio am gyfnod. Gan hynny, roedd
yn amhosib’ dweud pa mor agos oeddem at y £3.9m, ond ar hyn o bryd, gellid bod
yn eithaf hyderus y byddem o gwmpas ein lle o ran yr arian sy’n dod i mewn.
·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y diffiniad o
eiddo anaddas i fyw ynddo yn nwylo’r Prisiwr Dosbarth. Gofynnid i unrhyw un sy’n berchen ar y math
yma o eiddo gysylltu â’r Prisiwr, a phetai’r Prisiwr yn dod i’r casgliad ei fod
yn anaddas, byddai’n cael ei dynnu allan o’r bandio. Roedd y Prisiwr wedi tynhau’r diffiniad yn
ddiweddar, fel bod rhaid i eiddo fod yn adfail bron cyn cael ei dynnu allan o’r
rhestr. Nodwyd, petai gan aelodau
bryderon am eiddo penodol yn eu ward, y gallent drafod gyda’r Adran Gyllid yn y
lle cyntaf.
·
Mynegwyd pryder nad oedd perchnogion carafanau yn
talu unrhyw Dreth Cyngor, ac eto’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, ac
awgrymwyd y dylid ail-edrych ar hyn.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd ymlynu at y polisi o godi
Premiwm ar ail-gartrefi a chadw’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddatrys y
broblem tai haf.
·
Awgrymwyd
nad oedd y cyfnod eithrio estynedig o 12 mis i adnewyddu eiddo gwag hirdymor yn
ddigonol gan ei bod yn anodd iawn y dyddiau hyn cael adeiladwr / saer / plymwr
/ trydanwr i gydweithio a chwblhau’r holl waith mewn cyfnod mor dynn. Mewn ymateb, nodwyd bod y Cynllun Gweithredu
Tai yn gwneud darpariaeth ar gyfer achosion sydd angen mwy o gyfnod na 12
mis. Roedd cymorth ar gael i bobl leol
gael cyfnod pellach o eithriad treth, ac roedd croeso i’r aelodau gysylltu â’r
adran os oeddent yn ymwybodol o achosion penodol.
·
Nodwyd mai’r broblem fwyaf oedd bod pobl yn troi eu tai
yn fusnesau, a holwyd beth oedd yn cael ei wneud gan y Cyngor i atal hyn, yn
arbennig wrth baratoi ar gyfer y cynllun peilot yn Llyn. Awgrymwyd nad oedd diben cael y Premiwm, bron
iawn, os oedd yr eiddo’n cael ei golli, a phobl yn osgoi talu unrhyw Dreth
Cyngor. Hefyd, gan gyfeirio at y cynllun
peilot, holwyd faint o bwyslais a roddir o ran y Gymraeg a’r cymunedau Cymraeg,
a’r angen i’r cymunedau hyn fod yn cael eu neilltuo fel ardaloedd o ddiddordeb
arbennig, byd eang, mewn gwirionedd.
Mewn ymateb, eglurwyd bod yr Arweinydd eisoes wedi cyfeirio at hyn wrth
ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen dan eitem 6 uchod. Roedd yr Adran Bolisi Cynllunio wedi gwneud
darn o waith flwyddyn yn ôl, a dyna sail Llywodraeth Cymru dros gael yr
adroddiad gan Dr Simon Brookes. Roedd
hynny, a’r trafodaethau rhwng y Cyngor hwn a Llywodraeth Cymru, wedi arwain at
y datganiad yr wythnos ddiwethaf, a disgwylid rhagor o fanylder ar hynny gan y
Llywodraeth. Nodwyd ymhellach bod
ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ynglŷn â sut i gau’r bwlch, neu’r
gallu i drosglwyddo i’r Dreth Annomestig.
Roedd safbwynt y Cyngor wedi bod yn hollol glir ers blynyddoedd mai
tŷ yw tŷ, ac nad oedd modd i bobl fod yn medru osgoi talu’r
dreth. Roedd diwygio Adran 66 o’r Ddeddf
Trethi bresennol a chau’r bwlch yn ffordd hawdd iawn o atal hyn rhag digwydd, a
dyna fyddai’n cael ei gyfleu mor gadarn â phosib’ fel ymateb Cyngor Gwynedd i’r
ymgynghoriad.
·
Mynegwyd
pryder bod y Cyngor o hyd yn ceisio dal i fyny â’r broblem trosglwyddiadau, ac
nad oedd y sefyllfa’n cael ei phlismona.
Roedd pobl yn troi eu tai yn fusnesau, ac yn defnyddio gwasanaeth casglu
biniau’r Cyngor. Roedd deddfwriaeth
Llywodraeth Cymru yn clymu ein dwylo o hyd, a gweinidogion yn gwrthod siarad â
ni. Roedd angen newid y sefyllfa, ac
annog pawb i frwydro, fel ein bod yn gallu cael rheolaeth dros ein stoc tai yn
y cymunedau.
PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r
cynllun ar gyfer 2022/23. Hynny yw, ar
gyfer 2022/23, bod Cyngor Gwynedd yn:
·
Caniatáu DIM
disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
·
Caniatáu DIM
disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O
100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Dogfennau ategol: