Agenda item

Dafydd L Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya a Sian Pugh,  Cyfrifydd Grŵp yr Awdurdod Lletya i ddarparu manylion y gwariant ac incwm gwirioneddol ar gyfer ail chwarter blwyddyn ariannol 2021/22 , ynghyd â rhagamcaniad o’r alldro blwyddyn lawn yn erbyn ei gyllideb flynyddol.

Penderfyniad:

1.     Derbyn a nodi adolygiad ail chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22. 

 

2.     Cydnabod derbyn a defnydd arfaethedig y £500,000 ar gyfer y grant Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i'r System Gyfan (WBRID), yn unol â'r llythyr dyfarnu cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021. 

 

3.     Cymeradwyo'r defnydd o gronfa wrth gefn benodol wedi'i chlustnodi i ddal cyfraniadau llog a dderbynnir gan y partneriaid, i'w gosod yn erbyn y gost fenthyca sydd ei hangen i ariannu'r llif arian negyddol yn y dyfodol. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau).

 

PENDERFYNWYD

 

 I.        Derbyn a nodi adolygiad ail chwarter refeniw a chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22.

II.        Cydnabod derbyn a defnydd arfaethedig y £500,000 ar gyfer y grant Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i'r System Gyfan (WBRID), yn unol â'r llythyr dyfarnu cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021.

III.        Cymeradwyo'r defnydd o gronfa wrth gefn benodol wedi'i chlustnodi i ddal cyfraniadau llog a dderbynnir gan y partneriaid, i'w gosod yn erbyn y gost fenthyca sydd ei hangen i ariannu'r llif arian negyddol yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Nodwyd tanwariant a rhagwelir o £183,178 yn erbyn y gyllideb refeniw yn 2021/22. Mynegwyd y gellir trosglwyddo unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i’r gronfa wrth gefn sydd wedi’i chlustnodi.

 

Amlygwyd fod llithriad wedi bod ar y rhaglen gyfalaf sy’n golygu y bydd bellach yn rhedeg am dair blynedd ychwanegol hyd at 2028/29. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn adolygiad ariannol ar gyfer ail chwarter y flwyddyn. Mynegwyd fod yr adran yn amcanu tanwariant o £128 o filoedd ar y Swyddfa Rheoli Rhaglen. Eglurwyd fod hyn o ganlyniad i oedi wrth recriwtio i swyddi. Mynegwyd fod y pennawd Gwasanaethau Cefnogol yn dangos tanwariant o £7mil yn sgil tanwariant ar y gyllideb Yswyriant. Nodwyd fod hyn oherwydd bod Yswyriant y Bwrdd Uchelgais wedi’i ymgorffori o fewn polisïau Yswyriant Cyngor Gwynedd.

 

Eglurwyd fod tanwariant o £18 mil wedi ei amcangyfrif ar y pennawd Cyd-Bwyllgor, ac fod hyn yn sgil derbyn grant penodol gan Lywodraeth Cymru i ariannu rhai agweddau o’r gwaith sy’n cael ei wneud gan ymgynghorwyr cyfreithiol.

 

O ran prosiectau nodwyd fod rhaid i’r gwariant ar y pennawd yma gael ei ystyried yn nghyd-destun y grant datgarboneiddio o hanner miliwn. Mynegwyd na dderbyniwyd y llythyr dyfarnu cyllid ar gyfer y grant hwn tan fis Mehefin 2021, ac felly ni chafodd ei gynnwys yn y gyllideb. Tynnwyd sylw at danwariant o £40mil ar y penawdau cefnogaeth gyfreithiol allanol a sicrwydd ac mae hyn yn sgil y llithriad ar y rhaglen gyfalaf.

 

Nodwyd fod cyfraniadau llog y partneriaid o £678 o filoedd yn adlewyrchu’r ffigyrau  gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Hydref 2020 a Mawrth 2021, a gofynnwyd i’r Bwrdd gymeradwyo’r defnydd o gronfa wrth gefn penodol i roi’r arian hwn o’r neilltu i ariannu’r gost gyfartalog o fenthyca dros oes y cynllun twf. Eglurwyd unwaith y bydd cadarnad yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru bydd y cyfaniadau llog yn cael eu hailgyfrifo i adlewyrchu’r gost ddiwygiedig o fenthyca.

 

Mynegwyd fod ffynhonellau incwm ar gyfer 2021/22 yn cynnwys cyfraniadau partneriaid, Grant ESF, Grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, Grant Datgarboneiddio a’r gronfa wrth gefn. Nodwyd fod hyn yn gadael amcan sefyllfa ar gyfer 2021/22 yn danwariant o £183 o filoedd, a rhagwelir ar hyn o bryd y bydd balans o £507 o filoedd yn y gronfa wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

O ran yr adolygiad cyfalaf nodwyd yn wreiddiol eu bod yn rhagweld y byddai’r rhaglen gyfalaf yn rhedeg o 2021/22 hyd 2025/26 ond mynegwyd fod llithriad yn debygol ar rai o’r prosiectau a olygai y bydd y rhaglen yn rhedeg a dair blynedd ychwanegol. Nodwyd fod llithriad o £13.21miliwn yn 2021/22, £42.49 miliwn yn 2022/23 a £21.43miliwn yn 2023/24. Eglurwyd y caiff grant Cynllun Twf Gogledd Cymru ei ddefnyddio i gyllido’r Rhaglen Gyfalaf yn 2021/22 a 2022/23 ac ni fydd angen benthyca’n allanol tan 2023/24. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

¾     Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod y sefyllfa yn gyffredinol yn foddhaol ac fod y tanwariant ynghyd â’r llithriad yn anochel gyda’r sefyllfa fel ac y mae hi. Nodwyd yn ôl ym mis Mai fod y Bwrdd wedi cymeradwyo y Ffurflen Flynyddol ac fod Archwilio Cymru wedi datgan fod y ffurflen yn un glan. Nodwyd fod sefyllfa y flwyddyn nesaf yn parhau yn ansicr.

¾     Diolchwyd i’r adran am eu holl waith.

 

Dogfennau ategol: