Hedd Vaughan-Evans, Rheolwr
Gweithrediadau i gyflwyno adroddiad chwarter 2 y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y
Portffolio wedi’i ddiweddaru.
Penderfyniad:
Nodwyd Adroddiad Perfformiad Chwarter
2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i
ddiweddaru.
Cymeradwywyd
cyflwyno’r Adroddiad Perfformiad Chwarter
2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau.
PENDERFYNIAD
Nodwyd Adroddiad
Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.
Cymeradwywyd cyflwyno’r
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yngyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.
RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD
Ym
mis Rhagfyr 2020 bu i’r Bwrdd Uchelgais
a Llywodraethau Cymru a’r
DU gytuno ar Gytundeb Terfynol ar gyfer Cynllun
Twf Gogledd Cymru. Mae adrodd rheolaidd ar gynnydd yn
erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd ar raglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf
ar gyfer yr ail chwarter. Nodwyd fod ail adolygiad sicrwydd blynyddol y Cynllun
Twf wedi ei gwblhau a cyflwynwyd gradd o ‘Ambr-Gwyrdd’ nodwyd dyma ail radd
hyder cyflawni uchaf sydd ar gael ac yn welliant ar y gradd Ambr a dderbyniwyd
yn 2020.
Mynegwyd fod diweddariad blynyddol cyntaf i
Achos Busnes y Portffolio, sy’n ofyniad dan y Cytundeb Twf Terfynol gyda
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i gwblhau.
Nodwyd fod wyth prosiect yn adrodd yn goch
ar hyn o bryd yn sgil risigau i sgôp y prosiectau, neu oedi sylweddol i
amserlenni’r prosiectau. Ychwanegwyd gan nad oes yr un Achos Busnes Llawn ar
gyfer unrhyw brosiect wedi’i gymeradwyo ar hyn o bryd, ac mae’r unig wariant
hyd yma yn sgil tynnu arian i lawr yn erbyn y dyraniad yw 1.5% ar gyfer costau’r
Swyddfa Rheoli Portffolio.
Tynnwyd sylw ar 3 risg yn gofrestr risg sydd
wedi cynnyddu ystod y chwarter, a oedd yn cynnwys capasiti partneriaid i ddarparu cynrychiolwyr i fyrddau prosiect ac anhawster recriwtio i swyddi gwag o
fewn y PMO, Buddsoddiad y Sector Gyhoeddus ac amcanion gwario. Eglurwyd fod dau
o’r rhain wedi codi yn sgil y ffaith bod nifer o geisiadau i newid prosiectau
wedi eu hystyried. Amlygwyd fod dwy risg newydd wedi’u hychwanegu yn dilyn
adroddiad sicrwydd proffilio.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Amlygwyd
fod cynydd mewn prisiau deunyddiau yn effeithio ar
gostau cynlluniau ond fod hyn wedi ei amlygu yn y gofrestr risg yn y chwarter
diwethaf.
¾
Nodwyd
y bydd arian ESF yn dod i ben ac amlygwyd pryder o ariannu staff ac eglurwyd fod angen lobio am y mater hwn yn
rhanbarthol ac ar wahân ac efallai y bydd angen sefyll yn unedig fel Bwrdd.
¾
Mynegwyd fod yr Etholiad yn cael ei gynnal y flwyddyn
nesaf ac fod angen i staff barhau gyda’r gwaith da. Eglurwyd yr angen i’r
cynllun i barhau i fod yn hyblyg ac yn barod i addasu prosiectau os risigau yn codi.
¾
Esboniwyd
yr angen i addasu teitl cynllun Hydrogen er mwyn bod yn fwy penodol a mynegwyd
fod y tim yn edrych i mewn i hyn ar hyn o bryd a
gofynnwyd am adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf.
Cyn cau allan y wasg a’r cyhoedd cymerwyd y
cyfle i ddiolch i Brif Weithredwr Cyngor Sir Fflint, Colin Everett, am ei waith
yn arwain y Bwrdd Uchelgais dros y blynyddoedd diwethaf ac am sicrhau eu bod yn
glynu ar y weledigaeth.
Dogfennau ategol: