I ystyried cais Mr A
(copi
arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO
PREIFAT – Mr A
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd (ei ddarpar
gyflogwr petai’r drwydded yn cael
ei chaniatáu) i ymhelaethu ar gais Mr A gan roi gwybodaeth am gefndir
y drosedd a’i amgylchiadau personol. Nododd bod yr
ymgeisydd yn edifarhau a’i fod
bellach gyda swydd gyfrifol ac yn gwasanaethu’r
cyhoedd yn ddyddiol. Amlygodd mai rhybudd yn unig
a dderbyniodd a bod dyddiad y gollfarn bellach tu hwnt i’r cyfnod tair
blynedd. Ategodd, mewn achos lle
ceir collfarnau hanesyddol, bod angen ystyried adolygu Polisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS
·
sylwadau ar lafar cynrychiolydd yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Yn Ionawr 2017 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Heddlu Gogledd Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol a sarhaus, neu ymddwyn yn afreolus i’r
perwyl o achosi aflonyddu, braw neu ofid, yn groes i
Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd
am y drosedd
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o
drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w
(h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r
gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio
o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff
6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau
o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad
agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd
y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau
yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff
6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd
cais am drwydded fel rheol yn
cael ei wrthod
os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried
am ymosodiad cyffredin
a/neu ddifrod troseddol a
/neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai
na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn Medi 2017 yn ymwneud a thrais. Fodd bynnag, gan
fod y gollfarn wedi ei chyflwyno
tu hwnt i’r
cyfnod 3 blynedd, nid oedd rhagdybiaethau
dros wrthod o dan Rhan 6 o’r Polisi
yn goroesi, ac felly nid yn sail i
wrthod y cais. Ni chafwyd unrhyw gollfarnau dilynol ac ni chafwyd unrhyw
dystiolaeth i awgrymu unrhyw reswm pam na ddylid
dilyn y Polisi yn yr achos
penodol hwn.
Wedi pwyso
a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn
ofalus, roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd.