Aelod
Cabinet: y Cynghorydd Gareth W Griffith
Derbyn adborth a sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar ddrafft
terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chymeradwyo’i defnydd ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus.
Penderfyniad:
a) Derbyn y cynllun drafft terfynol gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd i’w hymgorffori yn y ddogfen er ymgynghoriad cyhoeddus.
b) Derbyn yr adroddiad yn dilyn y cyfnod ymgynghori gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd.
Cofnod:
Agorwyd y
drafodaeth gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd drwy nodi pwrpas y drafft
terfynol yw derbyn sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor.
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Reolwr Cefn Gwlad gan nodi bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn y sylwadau
ar y cynllun ddrafft terfynol. Cyfeiriwyd at ffactorau sydd wedi ei amlygu o
fewn yr adroddiad sef rhaglen diwygio mynediad, adnoddau ychwanegol a grantiau
i'r gwasanaeth.
Nododd bod camau
gweithredu yn parhau fel yr oeddent a rhain fydd yn arwain y gwaith. Ategodd na
fydd angen paratoi rhaglenni gwaith manwl, serch hynny bydd rhaid gwneud fesul
blwyddyn neu dwy flynedd.
Yn ystod y drafodaeth
cododd y sylwadau fel a ganlyn:
-
Holwyd sut mae’r cynllun
yn gweithio ar hyn o bryd, oes unrhyw broblemau megis rhai tirfeddianwyr yn
gwrthod cydymffurfio.
-
Diolchwyd am yr
adroddiad a gofynnwyd beth yw gofynion y Ddeddf Anableddau mewn perthynas â
mynediad at y rhwydwaith llwybrau.
-
Awgrymwyd y dylai fod gan
y Cyngor gofnod ar eu gwefan sy’n nodi hygyrchedd y rhwydwaith ar gyfer pobl ag
anableddau.
-
Gofynnwyd faint o
gynnydd sydd wedi ei wneud yn asesu llwybrau, gan gyfeirio at adroddiad o
2004/5 a nododd bod 25% o’r rhwydwaith wedi ei hasesu bryd hynny.
-
Ategwyd y byddai man
addasiadau yn gwneud byd o wahaniaeth i'r anabl, gan gyfeirio at gŵyn
lleol yr aelod a gofynnwyd am ganllaw ar gychwyn llwybr yn y ward er mwyn
hwyluso hygyrchedd i berson dall.
-
Diolchwyd am yr holl
waith gan nodi bod milltiroedd o lwybrau angen eu hasesu ac felly rhoddwyd
cydnabyddiaeth ei fod yn dasg heriol. Cyfeiriwyd at y mwynhad mae pobl wedi
cael yn cerdded y llwybrau yma dros y cyfnodau clo.
-
Ategwyd at hyn gan nodi
y buasai modd o gofnodi nifer defnyddwyr y llwybrau yn ddefnyddiol.
-
Holwyd am gyflwr y
llwybrau sydd heb fod ar agor ers tro oherwydd diffyg cynnal a chadw.
-
Dylid cyflwyno adroddiad yn y dyfodol i’r Pwyllgor ar
gyflwr y rhwydwaith.
Mewn ymateb, nododd y
Rheolwr Cefn Gwlad:
-
Yn sgil y Ddeddf Cefn
Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) sefydlwyd tir agored ar gyfer mynediad ar yr
ucheldir a hefyd cynlluniau a oedd yn targedu sector amaeth gyda grantiau yn
sgil hynny. Ategodd bod y maes yn cael ei asesu ar hyn o bryd yn sgil ‘Brexit’.
-
Ar y materion mynediad a
hygyrchedd, bod y tirlun yn amrywio ag bod rhai sefyllfaoedd pan mae’r llwybrau
ar dir anwastad o safbwynt mynediad. Ategodd bod cyfle yn sgil rhaglen grant i
wella llwybrau a’r rhwydwaith, yn yr achos yma gobeithio hwyluso mynediad i
bawb. Cyfeiriodd at enghraifft sef tynnu camfeydd ar gyfer sicrhau hygyrchedd.
-
Bod yr adran yn edrych
ar ffyrdd i wella gwybodaeth ar y rhwydwaith gan nad oes llawer o wybodaeth i'w
roi ar gyflwr y rhwydwaith ar hyn o bryd. Ategodd bod angen sefydlu pa rai sy’n
hawdd eu defnyddio ac yn agored i'w ddefnyddio.
-
Ychwanegodd y Pennaeth
Amgylchedd bod y Parc wedi gwella llwybrau a bydd yr adran yn cydweithio efo’r
parc i gynllunio gwybodaeth ar gyfer hygyrchedd llwybrau Gwynedd.
-
Yn sicr bydd yr adran yn
ystyried opsiynau sydd ar gael i wella hygyrchedd fodd bynnag ategodd bod maint
y rhwydwaith yn her yn ogystal â nifer staff.
Dogfennau ategol: