Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniadau yn cael ei gwneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

CAIS AM DRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI / HURIO PREIFAT – Mr B

 

`        Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd ei fod yn edifarhau a bellach wedi aeddfedu. Nododd bod ganddo swydd gyfrifol yn y maes gofal a bod angen swydd ychwanegol arno i dalu ffioedd gofal plant gan fod ef a’i wraig yn gweithio llawn amser. Ategodd ei fod wedi datgelu’r troseddau i’w gyflogwr.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·         Canllawiau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

           

Yn Medi 2016 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd am yrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol yn groes i Ddeddf Traffig a Ffyrdd 1988. Derbyniodd ddirwy o £300, costau o £85 ei wahardd o yrru am 18 mis (wedi ei leihau petai yn mynychu cwrs gyrru) ynghyd a thal ychwanegol o £30.

 

Yn Ebrill 2017 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru o ddefnyddio geiriau bygythiol, ymsosodol a sarhaus, neu ymddwyn yn afreolus i’r perwyl o achosi aflonyddu, braw neu ofid, yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986. Derbyniodd yr ymgeisydd orchymyn cymunedol, costau o £85, costau ychwanegol ynghyd a chais i gwblhau gweithgaredd adsefydlu

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Ystyriwyd paragraff 11.0 sydd yn cyfarch troseddau o yfed a gyrru. Ym mharagraff 11.1 fe nodir y byddai ystyriaeth ddifrifol i gollfarnau am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol / cyffuriau. Bydd un sydd wedi ei gael yn euog o droseddau yn ymwneud ag yfed a gyrru yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o’r fath am 3 blynedd o leiaf.

 

Mae paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod y gollfarn o 2016 yn ymwneud ag yfed a gyrru a’r drosedd o 2017 yn ymwneud â throsedd o drais. Roeddynt yn fodlon bod cyfnod yr amser a nodir yn y Polisi lle dylid gwrthod ceisiadau oherwydd troseddau o’r fath wedi mynd heibio yn achos y ddau fater. Serch hynny, gan fodpatrwm’ o aildroseddu ystyriwyd y mater o dan baragraff 16.1. O dan y paragraff hwnnw nodi’r dylid gwrthod cais os nad oes cyfnod o 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn olaf. Gan nad oedd cyfnod o’r fath wedi mynd heibio, ystyriodd yr Is-bwyllgor os oedd unrhyw resymau a thystiolaeth wedi eu cyflwyno i’w perswadio yn wahanol.

 

Ystyriwyd natur y patrwm o ail-droseddu a nodwyd bod y ddwy gollfarn wedi digwydd yn agos at ei gilydd (yn 2016 a 2017) ac nad oedd unrhyw gollfarnau pellach wedi hynny.  Ystyriwyd hefyd dystiolaeth yr ymgeisydd ynglŷn â natur y troseddau ar eglurhad a gafwyd am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, penderfynodd yr Is-bwyllgor fod natur y patrwm o ail-droseddu a’r dystiolaeth o’r hyn oedd wedi digwydd ers y gollfarn olaf yn cyfiawnhau gwyro oddi wrth y Polisi. O ganlyniad roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu y cais a phenderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd